Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Karl Davies
CWPWRDD DILLAD: Karl Davies | Megan Evans | Lisa Jên
Karl Davies
Karl Davies
Karl Davies
Karl Davies

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Karl Davies

O le ddaeth y diddordeb mewn dillad?

Doedd gen i ddim cymaint â hynny o ddiddordeb mewn dillad pan o’n i’n fy arddega’, ac yn sicr fel plentyn, doedd dillad ddim yn beth mawr i ni fel teulu. Roedd mam wrth gwrs yn licio gwisgo’n dda, ond doedd o ddim yn rhan bwysig o’n diwylliant ni. Yr unig un alla i feddwl amdani oedd yn cymryd balchder neilltuol yn ei dillad odd nain Sir Fôn, a dwi’n cofio meddwl wrtha i fy hun, sut odd hi mewn dillad crand fel ‘na ac yn ferch i was ffarm ym mhen pella’ Sir Fôn? Roedd ei brodyr i gyd yn hŷn na hi ac ar y môr, a phan roedden nhw dramor roedden nhw’n prynu dilledyn bach ar gyfer Neli, eu chwaer fach, wedyn dyna lle odd hi’n cal y dillad crand. Mae’n ddigon posib bod 'na rwbath bach yn y genynnau felly odd yn trio mentro allan dros y blynyddoedd.

Karl Davies

Wyt ti’n gwisgo er mwyn sefyll allan?

Wel, o’n i’n dipyn o young fogey yn y ffordd o’n i’n gwisgo pan o’n i’n fy arddega’. Yn y coleg mi brynais i’r siaced yma o Oxfam yn Rhyl, chwarter canrif yn ôl, am bum deg ceiniog. Wedyn o’n i yn Steddfod Llanbed ugain mlynedd yn ôl, ac roedd ‘na arwerthiant i godi pres i elusen yna, ag un o’r pethe oedd ar werth oedd y bo tei yma, sef un o hen bo teis Gwenallt, y bardd. Ac am ryw reswm dyma fi’n dechra bidio amdano fo, a’i brynu, wedyn mi ddechreuais ei wisgo fo a gweld fod pobl yn sylwi arno fo. Mi benderfynais fod yna fanteision i edrych yn wahanol, i fod chydig bach yn eccentric. A mwya’n byd dwi di neud, mwya’n byd dwi di’n mwynhau. Beth bynnag, mi ddoth yna ryw fath o stamp arna’i, ac roedd pobl yn fy adnabod i fel Karl bo tei!

Karl Davies

O ble ddaeth y siaced lachar yma?

Dwi’n berson eitha’ trefnus, ond efallai y byddai rhai sydd yn gweithio gyda mi yn anghytuno! Gan mod i’n drefnus mae gen i ddefodau yn y bore, mae sefyll yn y drych yn edrych arna fi fy hun yn clymu fy mow tei yn rhan bwysig o’r bore. Wedyn mi fyddai’n mynd i ngwaith ar gefn y beic.

Y tro cynta’ i mi fod ar gefn beic ers tua ugain mlynedd, ro’ ni’n mynd draw i dŷ ffrindia’ i mi, ac mi ges i’n nharo lawr gan gar! Yn ffodus, dim ond syrthio oddi ar y beic a chael ambell i grafiad wnes i. Wedi i mi gyrraedd draw i dŷ’n ffrindia, dyma un yn diflannu o’r stafell a dod yn ôl hefo’r siaced felen lachar yma a dweud, “gwisga hon, nawn nhw ddim dy fethu di os ti’n gwisgo hon!”. Mae o’n digwydd bod yn gweithio i’r adran garffosiaeth yng Nghyngor y Ddinas, a hwn odd o’n gwisgo i’w waith fel arfer! Pan mae pobl yn y ngweld i yn mynd ar gefn fy meic i ngwaith yn y bore, ma nhw’n gweld y tei bo a siaced dyn carffosiaeth, a dydyn nhw ddim yn siŵr iawn os mai cerddor proffesiynol neu ryw ddyn syn mynd i drin ei dreinia nhw sy’n pasio ar y beic!

Karl Davies

Mae gen ti drefn arbennig i dy ddillad.

Dwi’n licio trefn. Dwi’n medru ymdopi’n well os oes gen i drefn ar betha’. Dyna fydda’r ymadrodd odd y prifathro yn ei ddefnyddio yn yr ysgol drwy’r amser, ac mi fyddai’n meddwl amdano fo’n aml pan fyddai’n edrych i weld os oes gen i drefn ar bethau. “Trefnwch eich byd,” fydda Desmond Healy, yn ysgol Glan Clwyd ers talwm yn ddeud, ac os ydi o’n edrych heddiw, gobeithio Mr Healy y byddwch chi’n meddwl y mod i’n trefnu’n myd.

Karl Davies

Be ydy rhain, dy grysau anffurfiol di?

Dyma ddau o’n hoff grysa’ i. Ma’n ffrindia i yn cyfeirio at rhain fel fy nghrysau deck-chair i! Ma’ nhw’n deud bod 'na beryg os dwi’n isda neu orwedd lawr ynddyn nhw y bydd pobl yn siŵr o isda ar y nglin i. Dwi’n teimlo y mod i’n dod a rhywfaint o heulwen i’r byd pan dwi’n gwisgo rhain.

Karl Davies

Ydy dy steil di yn mynd i aros yr un fath?

Mi fydda i’n gosod siwt, crys, sanna, a fy ‘mow tei’ neu dei i gyd allan y noson gynt, achos dwi’m yn meddwl mod i’n deffro’n iawn am ryw awr yn bora. Wedyn mai’n bwysig fod petha wedi gwneud. Wedyn, ma gen i fwy o amser yn y bore i wneud petha eraill, fwy difir na dewis dillad, os oes ‘na rywbeth fwy difir na dewis dillad. Ond, gan mod i wedi cychwyn fel rhyw fath o young-fogey chwarter canrif yn ôl, mae’n beryg y bydd y steil yna’n gweddu nes bo rhywun yn old-fogey, felly hwyrach fydd dim rhaid i mi newid fy steil!