Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Kathy Gittins
Kathy Gittins
Kathy Gittins
Kathy Gittins
Kathy Gittins

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Kathy Gittins yn artist ac yn ddynes busnes sydd â chwpwrdd ceidwadol crand.

Kathy Gittins

Pa fath o ddillad wyt ti'n ei licio? Be sy'n dy gwpwrdd di?

Y peth cynta' a'r pwysica' i mi ydy bod yn gyfforddus. Dwi'n tueddu i wisgo trowsus yn fwy na dim byd arall. Dwi'n reit ddiflas hefo'r lliw, mae'n rhaid i mi ddweud, dwi'n hoffi palet niwtral - du, brown a gwyn - dim llawer o liw o gwbl. Dwi'n licio layers - petha rili cyffroddus.

Kathy Gittins

Ti'n rhedeg siop ddillad, ond ti hefyd yn artist, sut wyt ti'n cyfuno'r ddau?

'Arlunydd-cyhoeddwraig' ma' nhw'n fy ngalw i dyddia' yma! Mi es i i'r coleg a graddio mewn cynllunio ac felly mi fysa chi'n nabod 'y ngwaith i fel cardiau Nadolig, cardiau cyfarch a hefyd hefo lliwiau llachar, blodau a llestri gleision. Dwi'n cyhoeddi printiau ac wrth gwrs hefyd yn paentio'r lluniau gwreiddiol. Y rheswm nes i ddechrau hefo'r dillad, fel pob dim arall dwi'n ei wneud, ydy trwy ddamwain. Mae'n job ofnadwy trio gwneud bywoliaeth ar gelf, a chelf yn unig, a dwi'n licio gwisgo'r petha' sculptural yma a phetha' ychydig bach yn wahanol. Mi feddyliais i, pam ddim eu rhoi nhw yn yr oriel? Ro'n i'n eu gweld nhw'n mynd yn dda hefo'r nwyddau dwi'n eu gwerthu yn yr oriel a dyna sut ddechreuais i, hefo casgliad bach Crea o Ffrainc a Sarah Pacini o'r Eidal.

Kathy Gittins

Pam fod dy waith celf di mor lliwgar â dy ddillad di yn niwtral?

Ma' hynna'n ddiddorol yn dydy, wn i ddim pam rili. Pan dwi'n edrych yn ôl ar y lluniau, mi ddechreuais i fy ngyrfa un ar ddeg mlynedd yn ôl, ac yn anffodus mi ges i ysgariad yr un amser, felly roedd y paled ro'n i'n ei baentio ar y pryd yn wyn - mi oedd y lliw i gyd wedi diflannu. Yn rhyfeddol, dros y blynyddoedd, fel oedd yr hyder yn dod nôl, mi ddechreuodd y lliw. Ond rhywsut, hefo'r dillad, dwi dal yn defnyddio paled rili niwtral achos dwi'n teimlo ei fod o'n rhoi hyder i mi, a ma' hyder yn bwysig ofnadwy.

Kathy Gittins

Er bod lliwiau dy ddillad di'n debyg i'w gilydd, mae'r siapiau a'r defnyddiau yn wahanol ac yn ddiddorol yn dydy?

Ma hynny'n ddigon gwir. Mi faswn i'n gwisgo'r dillad llwyd a du yma i fynd allan fin nos neu i rywbeth reit ffurfiol. Dwi'n hoff iawn o lêrio dillad. Ma' gen i layers o ddillad hen a newydd yma, dwi byth yn llechio pethau i ffwrdd. Dwi'n lêrio dros y sgert a wedyn siaced dros ben honna. Ma' beltiau yn bwysig iawn gen i hefyd a dwi'n gwisgo dau felt hefo'r outfit yma ac wrth gwrs wedyn i glymu'r holl beth - y gemwaith.

Kathy Gittins

I le fasa ti'n gwisgo'r dillad yma?

Rhywbeth y baswn i'n wisgo pob dydd ydy hon o Crea. Ma' hi'n blaen iawn a bod yn onest, fel tunic hir i wisgo dros drowsus neu sgert. Ond, unwaith dwi'n rhoi'r gemwaith ar ei phen hi, mae'n edrych mor wahanol. Dwi'n licio cadw bob dim a chymysgu'r hen â'r newydd.

Kathy Gittins

O le wyt ti'n cael y dillad, a pha gynllunwyr yn arbennig wyt ti'n eu cadw yn y siop?

Ma'r mwyafrif o ddillad dwi'n eu gwisgo yn dod o Crea a Sarah Pacini a ma'r ddau yn cymysgu'r dda hefo'i gilydd. Ma' Crea Concept yn dod o Ffrainc a Sarah Pucini yn dod o'r Eidal. Dwi'n dweud eu bod nhw'n casual, ond eto ma'n dibynnu hefo be ydach chi'n eu gwisgo nhw. Os ydach chi'n eu gwisgo nhw hefo bŵts gwastad mae o reit casual, ond i fynd allan fin nos, sodlau uchel a mae o'n newid y look i gyd.

Kathy Gittins

Yn wahanol iawn i weddill dy ddillad di, mae'r ffrog yma'n llachar yn dydy?

Dyma ffrog haf. Ma hi'n rhywbeth gwahanol iawn i fi - lliw, eitha' llachar i Kathy! Ond eto, ma'n eitha' neis gweld lliw yn dod drwodd, jyst ryw fymryn bach. Dwi'n galw'r trowsus yma sydd hefo'r ffrog yn 'nappy pants', ma nhw'n wahanol, ond yn gyfforddus!

Kathy Gittins

Sut wyt ti'n mynd ati i ddewis pa ddillad i'w gwerthu yn y siop?

Be ydw i'n ddeud ar ddiwedd y dydd ydy, os ydw i'n gallu ei wisgo fo, dwi'n ei brynu fo. Os oes gen i'r hyder i wisgo fo - dyna sy'n rheoli fi pan dwi'n mynd i brynu ar gyfer y siop. Dydy o ddim yn hawdd o gwbl, a dwi wedi ei gael o'n anghywir lot o weithia, ond dyna sut dwi'n meddwl ti'n dysgu wrth fynd ymlaen.

Kathy Gittins

Mi wyt ti'n gwerthu dillad o Ffrainc a'r Eidal yn y siop. Wyt ti'n mynd dramor i brynu'r dillad yma?

Dwi ddim yn gorfod mynd, ond dwi'n licio mynd achos da chi'n dysgu cymaint wrth fynd allan. Dwi'n tueddu i fynd allan i weld y dillad, ond prynu gan asiant yn y wlad yma achos fod y bunt wedi disgyn cymaint yn erbyn yr Ewro a ma hynny'n ei effeithio'n fawr iawn.

Kathy Gittins

Dwi'n gweld fod gen ti sawl bag gan gynllunwyr enwog. O le ges di'r bag Gucci yma?

Ma' yna stori fach tu ôl i'r bag Gucci yma. Mi ges i'r fraint o arddangos fy ngwaith allan yn California. Mi ges i brynhawn i ffwrdd a mi aeth ffrind a finna' i grwydro draw i Rodeo Drive - Oh, Beverly Hills! Y cwbl o'n i isho bod oedd Julia Roberts! Mi gafon ni cocktails - one too many - yn y Beverly Wiltshire a wedyn ffwrdd a ni fyny Rodeo Drive, ac i'r siop Gucci. Mi oedd cael cocktails yn wych ar y pryd. Ond dwi wedi gwisgo lot ar y bag, mae'n classic ac yn cael dod allan yn aml iawn.

Kathy Gittins

O le ges di'r bag Louis Vuitton yma?

Mi brynais i hwn pan oedd Paula, yn chwaer, yn ffilmio allan yn Prague. Mi oedd hi'n ffilmio hefo Sean Connery a wedyn es i ati am wythnos. Eto, wedi cael cinio a gormod o win, mi nes i brynu'r bag. Ond, pan da chi'n eu prynu nhw allan o Ewrop, da chi'n cael y treth yn ôl yn y maes awyr, felly dyna esgus da i brynu!

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales