Cwpwrdd Dillad: Ken Hughes
Ken Hughes
Ken Hughes
Ken Hughes
Ken Hughes

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Ken Hughes yn Brifathro sydd yr un mor drylwyr yn paratoi ei wisg ac y mae wrth baratoi ei wersi.

Ken Hughes

Beth wnaeth i chi ddewis y steil hwn?

Dydw i ddim yn meddwl mod i yn gwisgo ar gyfer fy swydd, dwi jyst yn meddwl mai fel yna ydw i, dwi'n hoffi gwisgo'n smart. Mae rhai o'r plant yn dweud mod i'n cŵl, ond tydi hanner cant ddim yn cŵl, felly dwi'n amau eu bod nhw yn dweud hynna i'm mhlesio i!

Ken Hughes

Pa fath o ddillad sydd gennych chi?

Pob math. Ond, dillad i'w gwisgo, dwi'n meddwl fod hynny yn bwysig. Dim dillad i'w cadw, mi fyddai yn ei gwisgo nhw. Dwi'n licio lliw. Dwi'n licio siwtia a chotiau ond dwi'n licio lliw hefo nhw. Mae pobl yn meddwl mod i werth fy miloedd, ond dydw i ddim - dwi'n gwario! Wrth ddod adref hefo'r holl bethau newydd mi fyddai'n teimlo mod i wedi gwario gormod, ond wrth eu hagor nhw dwi'n gwybod mod i'n mynd i'w gwisgo nhw.

Ken Hughes

O ble ddaeth y siaced yma?

Dwi'n hoff iawn o gotiau lledr, ond hon ydy'n ffefryn i. Mi fues i yn America yn 1990, ac fe welais i hon yn ffenestr y siop. Fe feddyliais fod yn rhaid i mi ei chael hi i ddod adref gyda mi. A thra oeddwn i yno, mi brynais i'r Brouges lliwgar yma. Pan fyddai'n eu gwisgo i'r ysgol mae'r plant yn syllu arnyn nhw!

Ken Hughes

Sut ydych chi'n dewis eich steil?

Ar fore Sul mi fyddai'n codi'n eithaf bore a mynd am dro. Wrth gerdded, mi fyddai'n meddwl beth i wisgo am yr wythnos, mae'n rhaid i mi gael paratoi. Does gen i ddim amser yn y bore cyn ysgol i ddewis felly mae'n rhaid gwneud y dewis ar ddydd Sul a'i smwddio nhw i gyd, yn dewis y tei cyn glanhau'r esgidiau.

Ken Hughes

Pwy sy'n smwddio i chi?

Neb ond fi. Roedd mam yn arfer smwddio nghrysau i nes i mi gael y ‘gyts' i ddweud wrthi nad oedd hi'n smwddio'r goler yn iawn, ac fe ddywedodd wrtha'i am ei wneud o fy hun, felly fi sydd yn smwddio ers hynny, ers pan oeddwn i'n bedair ar ddeg. Wedi'r crys gael ei olchi mi fydda i yn ei smwddio a'i roi yn y cwpwrdd, a phan fydda i am ei wisgo fe fydda i'n ei smwddio eto. Mi fydda i'n smwddio pob crys ddwywaith.

Ken Hughes

Beth yw hanes y casgliad yma o deis?

Mae gen i dros gant o deis bellach, rhai sydd wedi costio £5 a rhai sydd wedi costio £60. Dwi' wrth fy modd yn siopa am deis. Ers talwm, roedd rhaid cael crys plaen a thei hefo patrwm, ond heddiw, fedri di gael crys â phatrwm a thei â phatrwm.

Ken Hughes

Beth mae dillad yn ei olygu i chi?

Maen nhw'n ffrindiau mawr i mi. Rydych chi wedi eu dewis yn fanwl ac wedi rhoi pres amdanyn nhw, maen nhw'n agos atoch chi, maen nhw hefo chi ar bob achlysur, tristwch, hapusrwydd, dwi'n meddwl y byd ohonyn nhw. Maen nhw'n rhan ohonoch chi. Dwi'n cael gwefr o wario ar ddillad.