Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Kris Hughes
CWPWRDD DILLAD: Kris Hughes | Llinos Lee | Euros Wyn
Kris Hughes
Kris Hughes
Kris Hughes
Kris Hughes

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Kris Hughes yn Dderwydd sy'n llawen yn ei awenyddiaeth.

Kris Hughes

Beth mae dillad yn ei olygu i ti?

Dwi'n credu bod fy ngwisg i yn fy mynegi i fel y Kris proffesiynol, Kris y pagan neu'r Derwydd, ac hefyd fel y person sydd yn pasio chi ar y stryd heb i neb wybod pwy ydw i.

Kris Hughes

Be ydy hanes y cwt yma yng nghanol y goedwig?

Mae o'n gwt moethus i ddeud y gwir, ac mae o wedi bod yma rŵan ers tua saith, wyth mlynedd. Ma'r cwt yng ngogledd Ynys Môn ac fe fuon ni'n ffodus iawn bod y bobl sydd bia'r tir yma (sy'n ryw ddeunaw acer o dir moethus) wedi adeiladu'r adeilad yma yn arbennig ar ein cyfer ni, sef Urdd Derwyddon Môn. Mae'n le i ddathlu troell y flwyddyn ac yn le i ddathlu ein hawenyddiaeth ni.

Kris Hughes

Sut fydda ti'n egluro gwaith Urdd Derwyddon Môn? Ydi o'n grefydd, yn ddaliadau, yn ffordd o fyw, neu'n awenyddiaeth?

Dwi'n meddwl mewn ffordd fod yr holl bethau hyn yn gywir. Efallai fod yna elfen grefyddol yn y mywyd i, ond hefyd mae o'n ffordd o fyw a rhywbeth sy'n mynegi fy nghysylltiad dwfn i rhwng y fi a ngwlad, ein hanes a'n diwylliant ni fel Cymry Cymraeg - a ma' hynny i gyd yn cael ei fynegi fel awenyddiaeth.

Kris Hughes

Beth fyddi di'n ei wisgo yn dy waith bob dydd?

Yn fy ngwaith proffesiynol, dwi'n dechnolegydd anatomaidd patholegol sydd yn golygu mod i'n gweithio mewn marwdy. Dwi'n cynnal archwiliad post-mortem ar y meirw - a'r rhai sydd wedi marw drwy farwolaeth naturiol sydd heb ei sefydlu, hunanladdiad neu lofruddiaeth. Mae yna elfen reit ddychrynllyd i 'ngwaith i, da ni'n gweld pethau eitha' difrifol. Mae gennym ni ddwy wisg yn ein gwaith mewn ffordd. Mae gen i wisg ar gyfer delio hefo'r cyhoedd, a delio â phobol sy'n dod mewn i'r capel i ymweld â'r meirw. Ar gyfer hynny, fe fydda i'n gwisgo siwt a chrys a thei, ond mi faswn i'n dweud mod i'n gwisgo scrubs 80% o'r diwrnod yn y gwaith.

Kris Hughes

Wyt ti'n credu fod dy steil di'n anghyffredin?

Pan ofynnwyd i mi wneud y rhaglen yma, ro'n i'n meddwl, na does yna ddim byd yn anghyffredin yn fy nghwpwrdd dillad i, ond wrth fynd trwy bopeth mae o'n anghyffredin faswn i'n deud. Ond ma' yna hefyd elfennau cyffredin ofnadwy. Dwi'n meddwl weithia y bydda i'n licio sefyll allan ac edrych yn wahanol, ond hefyd mi fyddai'n licio diflannu i'r crowds fel bod neb yn fy ngweld i o gwbl.

Kris Hughes

Ma'r gôt hir goch yma'n grêt. Be ydy hanes hon?

Ma' hon wedi cael ei gwneud yn arbennig i mi gan ferch o Norfolk sydd hefo cwmni o'r enw Sinwear, felly ma hi wedi ei gwneud i'n maint i. Ro'n i'n mynd i briodas dau ffrind, cwpwl hoyw i fyny yn yr Alban, ac roedd o'n barti braidd yn 'high-society', pobol crand i gyd. Felly ro'n isho rwbath coch i ddynodi mod i'n Gymro a 'chydig o tartan hefyd gan ein bod ni fyny yn yr Alban. Roedden ni wrth ymyl y Mull of Kintyre mewn castell crand felly ro'n i isho rywbeth arbennig. Dwi'n meddwl mai ostentatious oedd y gair cyntaf nesh i glywed gan rywun i ddisgrifio'r gôt, ond doeddwn i ddim yn meddwl ei bod hi'n rhy ostentatious, jyst eccentric a chrand!

Kris Hughes

Mae'r gôt yma'n un 'sbarcli' ofnadwy, o le ges di hon?

Dwi'm yn meddwl fod dynion yn cael llawer o gyfle i wisgo ychydig o 'bling' a ma'r gôt yma'n brilliant yn enwedig os oes yna oleuadau cryf mewn rhyw barti. Ond y peryg ydy i rywun gael open heart surgery pan ma laser-beam yn ei tharo hi!

Kris Hughes

Er dy fod di'n dal iawn, rwyt ti dal i wisgo cotiau hir at y llawr sydd yn gwneud i ti edrych yn dalach yn dwyt?

Efallai mod i'n credu mod i ddim digon tal ag isho gwneud fy hun edrych yn dalach fyth! Am ryw reswm ma gwisgo cotiau hir yn fy nghodi i fwy. Dwi'n meddwl ei fod o'n 'imposing' mewn rhyw ffordd.

Kris Hughes

Wyt ti'n hoffi tynnu sylw wrth gerdded mewn i ystafell?

Ydw. Dwi'n meddwl ei fod o fel rhyw fath o wasanaeth cymdeithasol mewn ffordd - dod a gwên i wyneb rhywun! Er enghraifft, mewn parti, os ydy rhywun wedi bod yn poeni drwy'r nos ac yn dweud eu bod nhw ddim eisiau mynd i'r parti, wel pan dwi'n cerdded mewn yn gwisgo rhywbeth fel côt hir, ma nhw'n meddwl nad ydy o'n barti mor ddrwg â hynna wedi'r cyfan!

Kris Hughes

Mae'r broes 'gwe pry cop' yma'n anghyffredin iawn, o le ges di hon?

Mi fyddai'n licio pryfaid cop. Dwi 'rioed wedi bod ofn pryfaid cop o gwbl, sy'n rhyfedd gan mod i wedi cael fy magu mewn cartref lle'r oedd pawb yn arachnophobic. Dwi'n meddwl mod i'n teimlo ychydig yn sori dros y pryfaid cop bach sy'n cael eu lladd gan slipar! Mi welish i'r broes yma - a mae gen i un mawr arall hefyd o Salem, Massachusetts yn yr Unol Daleithiau - a ro'n i'n meddwl, 'ma' gen i gôt y gwneith honna weithio'n berffaith arni'. Felly dwi'n meddwl ei fod o fwy i neud hefo'r ffaith ei fod o'n 'bling' yn hytrach nac yn we pry cop!

Kris Hughes

Mae'r wisg hon yn drawiadol iawn, dweud ychydig o hanes y dillad wrtha' i...

Mi nes i wisgo hwn mewn cyfweliad hefo Laurence Llewelyn Bowen ar raglen Holiday ar y BBC. Dwi'n credu ei fod o'n disgwyl gweld Derwydd mewn dillad syml. A phan welodd o fi'n cerdded lawr y neuadd ym Mhlas Newydd Ynys Môn, ei eiriau o oedd, "Well, look at you, aren't you a vision of chicness and I was expecting something a little more homespun!" Falle fod gan bobl ryw fath o farn yn eu meddwl am be mae Derwydd neu bagan i fod i edrych fel, ac efallai mod i ddim yn cydffurfio hefo'r ddelwedd hynny yn fy pinstripe a phryfaid cop.

Kris Hughes

Beth wyt ti'n ei wisgo ar gyfer defodau?

Ma' dipyn o bobl yn gofyn wrtha' i pam mod i'n gwisgo robe a chlogyn ar gyfer defodau. Be fydda i'n weld yn rhyfedd ydy, does yna neb yn gofyn hynny wrth yr orsedd pan ma nhw'n troi fyny yn yr Eisteddfod mewn clogynnau. Mae o'n rywbeth sy'n dynodi eu rôl nhw mewn ffordd - fel offeiriaid neu berson sydd yn aelod o ryw fath o Urdd. Dim ond ar gyfer defodau y byddwn ni'n gwisgo rhain. Dydy o ddim llawer yn wahanol i rywun sy'n mynd allan i nightclub - mi wneith dyn neu ferch wario awr neu awr a hanner o flaen drych yn paratoi cyn mynd allan. Mae o r'un fath i ni pan da ni'n mynd allan i gyfarfod hefo'n Duwiau neu'n hynafiaid ni, rydan ni'n gwneud y siŵr ein bod ni'n edrych y rhan.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales