Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Lauren Phillips / Alex Jones
Lauren Phillips / Alex Jones
Lauren Phillips / Alex Jones
Lauren Phillips / Alex Jones
Lauren Phillips / Alex Jones

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Heddiw mwy nag erioed mae modd i ni efelychu'r catwalk am bris rhesymol wrth i gynllunwyr a selebs byd enwog gynllunio casgliadau arbennig a'u gwerthu ar y stryd fawr

Lauren Phillips

Mae Lauren Phillips wrth ei bodd gyda chasgliad Kate Moss sydd i'w gweld yn siopau Topshop.

Lauren Phillips

Pwy yw dy hoff gynllunydd di ar y stryd fawr?

Os ydw i'n cael panig neu os oes ishe i fynd i ffeindio rhywbeth, ma' casgliad Kate Moss yn Topshop yn dead cert!




Lauren Phillips

Pam dewis dillad Kate Moss?

Cyn i fi weld casgliad Kate Moss, doeddwn i ddim yn ffan mawr ohoni. Sai'n berson sy'n darllen cylchgronau a'r gossip am y selebs, ond achos bo ti'n gallu mynd mewn i siop a gweld a chyffwrdd y dillad a thrio nhw ymlaen a'u prynu nhw, nawr, dwi'n cymryd mwy o sylw o beth mae hi'n ei wneud a be ma' hi'n ei wisgo.


Lauren Phillips

Beth yw'r atyniad at ddillad Kate Moss?

Mae'n rhaid i fi ddweud fy mod i wedi mynd yn fwy at stwff Kate Moss o ganlyniad i'r gyfres Caerdydd, gan fod fy nghymeriad i'n debyg iawn i Kate Moss o ran y ffordd oedd hi jest yn taflu stwff at ei gilydd ac edrych yn ffasiynol. Fel arfer pan wyt ti'n gorffen job, ti ffili aros i gal gwared â'r dillad, y lliw gwallt, popeth amdani. Ond gyda Sara, dwi di cadw lot o'r dillad a mae'n steil i wedi addasu tamed bach nawr.

Lauren Phillips

Oes gen ti un hoff ddarn Kate Moss yn dy gwpwrdd?

Oes, pan oeddwn i yn ymarfer ar gyfer sioe theatr ryw ddwy flynedd yn ôl, mi wnaethom ni orffen tua hanner awr wedi pump, a finne'n sylweddoli mod i'n mynd mas y noson honno, a heb ddod a dillad hefo fi i wisgo. Doeddwn i ddim am fynd yn ôl adre, felly es i mewn i dre, syth mewn i Topshop a ffeindio'r trowsus anhygoel yma! Maen nhw mor gyfforddus ac yn aur - sy'n swnio'n disgusting dwi'n gwybod!

Alex Jones

Mae Alex Jones wrth ei bodd yn prynu dillad gan gynllunwyr a selebs ar y stryd fawr.

Alex Jones

Pam dy fod di'n hoff o wisgo dillad gan gynllunwyr ar y stryd fawr?

Dwi ddim yn gwario lot ar ddillad. Dwi'n berson sy'n siopa yn aml, ond dwi'n rhoi nenfwd ar faint dwi'n cael wario. Wrth i gynllunwyr ddod a chasgliadau mewn i'r siopau ma'n meddwl fod ni'n gallu cael rhywbeth ni'n teimlo sydd ychydig bach yn ecsgliwsif, ond heb y tag arian mawr.


Alex Jones

Lle gychwynnodd dy ddiddordeb di yn nillad Julien McDonald?

Sioe Julien McDonald oedd y sioe ffasiwn gyntaf es i weld yn wythnos ffasiwn Llundain, ac mi oedd ei ddillad e yn anhygoel, yn glamorous - lot o ffrogiau, lot o sequins, ffwr ffug a lliwiau ffantastig fel aur ac arian. Wedyn wrth gwrs daeth e a chasgliad mas i Debenhams.

Alex Jones

Dweud wrtha'i ychydig am y ffrog las fendigedig yma?

Un diwrnod es i heibio ffenest siop a gweld y ffrog bert ma' - glas llachar sy'n edrych yn eitha' vintage - rhywbeth y bydda' ti'n gweld mewn ffilm yn y 1940au. Es i mewn i'r siop a gofyn i'r fenyw faint oedd y ffrog yn ei gostio, a mi wedodd hi nad oedd y ffrog ar werth, a'i bod hi yno i'w harddangos yn unig. Ond, doeddwn i jyst methu mynd adre o'r siop heb brynu'r ffrog. Felly yn y diwedd fe aeth hi i'r ffenest, fe dynnodd hi'r ffrog oddi ar y model ac roedd hi'n ffitio fel maneg a mi wnes i ei phrynu hi. Mi oedd hi'n ddrud i fi achos mod i'n eitha' tynn gyda'n arian. Mi oedd hi ryw £150 - £160, sydd ddim yn eithriadol o ddrud, ond dwi'n meddwl bod e'n eitha' dipyn am ffrog. Ond dwi wedi ca' lot o ddefnydd ohoni. Ac mai'n ddarn fydd yn yng nghwpwrdd dillad i am sbel fawr.

Alex Jones

Pam dy fod di mor hoff o ddillad Julien McDonald?

Mae ei ddillad sy'n eitemau gwreiddiol yn ddrud iawn, a dwi ddim yn gallu fforddio pris fel na ar betha'. Dwi'n meddwl ei fod e'n neis cael ambell i ddarn ti'n gallu ei fforddio a hynny'n gyfforddus. Mi fydda fe'n neis meddwl y gallwn i gael un o'i ffrogiau go iawn e, ond ma'r pethe sydd da' fe yn Debenhams gystal â'r rhai gwreiddiol, dwi'n meddwl.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales