



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Leisa Mererid yn actores sydd â dillad unigryw o bedwar ban byd. Fe'i magwyd ar fferm ym mhentref Betws Gwerfyl Goch ger Corwen ac yno mae ganddi drysorfa o wisgoedd ac atgofion o flynyddoedd o deithio'r byd.
Beth mae dillad yn ei olygu i ti?
Os dwi'n ffendio rhywbeth dwi wirioneddol yn hoffi mae o fatha bod mewn cariad am y tro cyntaf. Ond hefyd, mae gen i berthynas fatha hen ffrind hefo fy nillad, rhai pethau dwi wedi eu cael ers blynyddoedd sydd efallai ddim yn edrych ar eu gorau bellach, ond os ydw i mewn rhyw fath o greisys bersonol a ddim yn gwybod be i roi amdana'I, mi fyddai yn estyn yr hen ffefryn ac mi fyddai wastad yn teimlo fod o'n iawn.
Beth yw hanes y ffrog yma?
Mi brynais i hon ym Mharis. Roeddwn i'n cerdded lawr y stryd a fe nes i weld y ffrog yma a meddwl fod yn rhaid i mi ei chael hi, a dwi wedi gwisgo a gwisgo hi, mae 'na olwg y diawch arni erbyn rŵan. Ond os oes gen i ddim syniad be i wisgo a does yna ddim yn edrych yn iawn, dwi wastad yn rhoi hon ymlaen a dwi wrth fy modd. Mae hi fatha ffrog 'can-can' mewn ffordd, ond mae hon yn un o'n ffefrynnau fi ac mae hi gen i ers dros chwe blynedd ac wedi cael lot, lot o wisg.
O le ddaeth y sgerti yma i gyd?
Dwi wrth fy modd hefo'r net a chynllunydd o Ffrainc sydd wedi eu gwneud nhw, maen nhw'n ffantastig. Mae hi'n siâp ffantastig ac yn symud wrth i mi gerdded. Mae gen i wn i ddim faint o'r rhain, mae gen i un aur, un wen, un ddu...mae gen i lawer iawn.
Os gen ti gynllunydd arbennig wyt ti'n ei hoffi?
Dwi'n hoff o'r dillad arbennig yma. Brawd a chwaer o Wlad y Basg sydd yn cynllunio'r rhain ac Ian Mosh yw enw'r casgliad. Maen nhw'n defnyddio gwlân a lot o dextures gwahanol i greu'r dillad, mae yna rywbeth arbennig a lliwgar am eu dillad nhw.
Beth am dy ddillad di tra wyt ti'n feichiog?
Pan nes i ffendio mod i'n feichiog fe ddois i o hyd i rhain, a ma' nhw mor hawdd i'w gwisgo. Mae'r dewis yn y siopau mor warthus o wael, does yna ddim siâp iddyn nhw o gwbl. Ac ar gyfnod mor ecseiting, rwyt ti eisiau dathlu mewn ffordd yn hytrach na chuddio dy siâp. Dwi'n teimlo fod pethau fel hyn yn grêt gan fod modd i lerio nhw.
O ble ddaeth y diddordeb mewn dillad?
Roedden ni'n gwisgo fyny lot fel plant bach. Dwi'n meddwl fod chwarae yn rhan bwysig o'r ffordd mae fy niddordeb i mewn dillad wedi datblygu. Erbyn heddiw dwi'n defnyddio pâr o esgidiau fel ysgogiad i gymeriad, felly mae o'n dal i barhau hyd heddiw.
Ydy dillad yn rhywbeth creadigol?
Ydyn, yn bendant. Does gen i ddim diddordeb mewn mynd i siopa ar y stryd fawr gan fod popeth yn edrych yr un peth dro ar ôl tro, does gen i ddim diddordeb mewn ffaswin y foment chwaith. Mae gen i fwy o ddiddordeb mewn rhywbeth sy'n para drwy'r oes a falla yn cael ei ailadrodd mewn hanes.
Mae gen ti ddillad o bedwar ban byd.
Dwi'n ffendio, bob gwlad dwi'n mynd iddi hi, dwi'n dod a wn i ddim faint o bethe yn ôl hefo fi! Dwi'n mynd hefo bag bach ac yn dod yn ôl hefo anferth o fag. Mae o'r un fath a thynnu lluniau mewn ffordd, mae'n cadw ar gof y profiad a'r foment o fod yn rhywle. Mae bag yn rhywbeth hawdd ei gludo adre achos tydi o ddim yn cymryd llawer o le, felly mae gen i lot dwi wedi eu hel. Mae gen i rai o Affrica, Lesotho, De America, Periw, Bolifia, Ecwador a Gwlad Tai.
Beth yw hanes yr het yma?
Hon ydy un o'r pethau fwyaf arbennig sydd gen i. Pan o'n i yn Lesotho yn gweithio, mae ganddyn nhw hetiau traddodiadol, a dwi'n cofio gweld yr hen ddynes 'ma heb ddim dannedd, ac roedd hi'n rêl 'mama', yn gwisgo'r het yma. Roeddwn i wedi hoffi'r het cymaint, nes i ofyn iddi hi os fasa hi'n hoffi het newydd. Felly, fe wnaethon ni fargen. Mi gafodd hi fy het newydd sbon i, ac roedd hi wrth ei bodd, ac fe ges i ei hen un hi. Mae hi wedi cael ei thrwsio lawer gwaith, ond i mi mae hynny lawer mwy arbennig na het newydd. Mae hon yn dweud stori ac yn fy atgoffa i o'r ddynes.
Wnes di erioed ystyried cynllunio dillad?
Dwi'n cynllunio pethau drwy'r amser yn fy mhen. Y gôt yma sydd gen i, fi ddaru dynnu llun o hon pan o'n i'n teithio yn Fietnam. Fe aethom ni yn styc mewn pentre' bach bendigedig am fod yna lifogydd mawr a doedden ni ddim yn gallu mynd yn ddim pellach dros dir. Felly fe fu'n rhaid i ni ddisgwyl ryw bum diwrnod i allu hedfan oddi yno, ac fe roedd hi'n pistyllio glaw. Fe ddois i ar draws ryw ferch fach oedd yn gwnïo ar ochor y stryd. Fe gynlluniais i'r siaced ar ddarn o bapur iddi, ac mewn ychydig oriau fe roth hi hon at ei gilydd i mi. Mae hi fatha sidan. Mi fuodd hi o fewn diwrnod i mi ei chynllunio hi ac i'r ferch ei gorffen hi. Dwi ddim yn meddwl mod i wedi talu mwy na phunt amdani!
Wyt ti'n meddwl y gwneith dy steil di newid wedi i ti ddod yn fam?
Dydw i ddim yn gwybod, hwyrach y bydd yn rhaid i mi fod yn ychydig mwy ymarferol, fyddai ddim yn gallu gwisgo top sydd yn 'dry clean only'. Dwi'n berson eithaf easy going beth bynnag, dydw i ddim yn cadw fy nillad gorau ar gyfer achlysur arbennig. Mi fyddai'n gwisgo sgerti net i fynd allan i'r siop yn aml iawn. Efallai y byddai'n fwy ymarferol ar y dechrau ond dwi ddim yn meddwl y gwnâi newid llawer.