



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
"Mi gadwa i siwt am flwyddyn heb ei gwisgo tan fydda i wedi casglu bob dim dwi isho i gyd-fynd a hi, tan ei lawnsio hi fel petai!"...
Nia: Pan dach chi'n mynd allan i brynu dillad, be ydi'r peth pwysicaf i chi?
Linda: Bod pob peth yn cyd-fynd â'i gilydd. Ma'hynny'n hynod bwysig i mi ac mi ydw i'n casglu popeth nes 'mod i wedi cael pob peth i gyd-fynd.
Linda: O'n i'n eistedd yn y staffell folchi un diwrnod ag o'n i newdd brynu ffrog a chôt ryw liw 'aqua'ag o'n i'n gwbod to'n i ddim 'di cael clust dlysau i gyd-fynd, o'n i'n methu'n glir â ffeindio rhai. Dyma fi'n meddwl dwi'n siwr bod lliw y waliau yma yr un â'r ffrog a'r gôt felly lawr a mi i chwilio am y pot paent a mi oedd genai hen glust dlysau, rhai metel gwyn a nes i feddwl dwi'n siwr neith hein beintio felly dyna nes i, eu peintio nhw ac mi oedden nhw'n cydfynd yn union wedyn efo'r ffrog. Fyddai'n gneud pethau gwirion felna weithiau.
Nia: Lle dach chi'n meddwl bod hyn i gyd wedi dechrau?
Linda: Dylanwad fy mam mae'n siwr. Ma'hi'n hoffi pethau sy'n cydfynd fatha ma'fy merch i, Glesni, ma'hi'n tueddu i fod yr un fath hefyd. Ella dan ni'm cweit yr un chwaeth ond mae'r miri cydfynd yma yn rywbeth pwysig a'n cario mlaen yn y teulu o'm mam lawr ata i yna at fy merch.
Nia: Pam bo'cael y peth bach yna sy'fymryn yn wahanol mor bwysig i chi?
Linda: Dwi'n meddwl 'mod i 'di arfer gyda chwilio am rywbeth gwahanol. Fydda i ddim yn licio gwisgo run fath a phawb arall. Ma'r plant yn rysgol yn sylwi os oes gennoch chi rywbeth gwahanol a'n holi 'lle gafoch chi hwnna Miss'a dwi'n meddwl bobol bach mi ydw i'n rhy hen i'r rhain fod eisiau yr un pethau a mi ond dwi'n meddwl bod hynny'n beth reit neis.
Linda: Ma'gen i dri chwpwrdd dillad. Yn yr ystafell sbâr fydda i'n cadw fy nghotiau.
Nia: Mae gennoch chi ddigon o ddewis does.
Mefus: Bob Nos Sul fydda i’n mynychu’r cymanfaoedd canu sy’n digwydd ar Suliau ar yr ynys ac felly ma’n rhaid cael côt wahanol i’w cylchdroi.
Nia: Ma’ 'na ddigon o gotiau gennych am ryw dri mis does!
Nia: Faint o barau o esgidiau ydych chi'n meddwl sy'gennoch chi?
Linda: Wel, dwi'n meddwl bod genai 32 o barau o fwts i ddechrau arni, ac yna'n agos at gant o barau o sgidiau dwi'n siwr ond mae'r gwr yn deud 'i be?'gan mai dim ond dwy droed sy'genai!
Nia: Dach chi’n edrych yn smart yn eich swêd. Dach chi’n hoffi’ch dillad swêd tydach.
Linda: Ydw, mae gen i gwpwrdd arbennig ar gyfer fy nillad swêd a lledr.
Nia: Oes yna ffefryn yn y cwpwrdd?
Mefus: Dwi’n meddwl bod hon yn cyfuno dipyn bach o bopeth o ran y lledr a’r trim ffwr ac ma’ hi fel petai hi’n cau i un ochr felly ma’ 'na rywbeth sy’ ddipyn bach yn anarferol amdani.
Nia: Be 'di rhain? Ma’ rhain yn 'kinky’ tydyn!
Linda: Ma’ rhain yn rai da. Ma’r gwr yn gofyn i mi 'lle ma’ dy chwip di?’ bob tro dwi’n eu rhoi amdanaf ond dwi’n eu licio nhw am eu bod nhw’n wahanol ac ma’ nhw’n braf wrth gwrs.
Nia: Be’ ma’ pobl y pentre’n meddwl ohonoch chi?
Linda: Duw â wyr, faswn i’n licio os y baswn i’n bry ar y wal!
Nia: Ma’n well chi beidio gwbod tydi!
Linda: Ma'r siwt yma'n ffefryn hefyd - ma'hon yn un y baswn i'n ei gwisgo i fynd i barti priodas gyda'r nos gyda'r gadwen rownd y gwddw i gyd-fynd â sgidiau wrth gwrs.
Linda: Brynes i'r ffrog felen ar gyfer penblwydd arbennig. Mae'r gwaelod yn eitha gwahanol ac mi oedd rhaid cael sgidiau i gyd-fynd wrth gwrs.
Linda: Mae'r bag yma wedi dod o'r Efrog Newydd. Fy chwaer, Sandra, ddaeth a'r bag i mi.
Nia: Be sy'n fy nharo i am y cwpwrdd yma ydi ma''na lot o sgertiau steil 'gypsy'tebyg yma.
Linda: Oes, dwi 'di deud 'mod i’n stopio ar bedair o’r rhain ac mae’r ferch yn dweud nad ydyn nhw’n y ffasiwn ddim mwy.
Nia: Ac mi newch chi stopio eu gwisgo wedyn pan fyddant allan o ffasiwn?
Mefus: Gwnaf
Nia: A’u taflu allan?
Mefus: Wel, mae’n anodd gwbod be’ i neud. Dwi 'di trio mynd a nhw i 'car boot sales’ ond ma’ genai ofn does neb yn eu prynu nhw achos does 'na neb arall yn gwisgo run fath a fi. Ma’ pawb arall yn gwisgo’n normal felly tydyn nhw ddim eu heisiau nhw!
Nia: Sut fath o berthynas fasech chi’n deud sy’ ganddoch chi efo’ch dillad?
Linda: Perthynas reit agos faswn i’n deud a dwi’n gobeithio eu bod nhw’n rhoi chydig bach o hyder i mi. Tydw i ddim yn berson hyderus ofnadwy, ma’ pobl yn meddwl 'mod i ond yn blentyn mi oeddwn i’n berson swil iawn. Dwi’n meddwl bod pethau fel llefaru wedi magu mwy o hyder ond mae’r berthynas sy’ genai dillad yn rhoi chydig mwy o hyder ac mae’n rywbeth cyffrous i’w gwisgo nhw o’r newydd, a’r holl gyd-fynd yma.
- Bob nos Fercher 20:25