Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Linda Morus
CWPWRDD DILLAD: Dion Padan | Fflur Edwards | Linda Morus
Linda Morus
Linda Morus
Linda Morus
Linda Morus

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Linda Morus yn athrawes gerdd sy'n mwynhau tynnu sylw.

Linda Morus

Linda, ma' gen ti chwech o blant, ti'n gweithio'n llawn amser a ti'n edrych yn ffantastig! Wyt ti wedi ymddiddori mewn dillad erioed, hyd yn oed pan oedda chdi'n fach?

Do, rili. Ond mi faswn i'n deud mai ar ôl cael y plant nes i ddechrau cymryd diddordeb ynddo fi fy hun. Dwi'n gwbod fod hynny'n swnio'n rhyfedd, ond do'n i ddim isho gadael i mi fy hun fynd. Ma' dillad yn rhoi hunan hyder i mi a dweud y gwir. Os dwi'n teimlo'n dda ynddo fi fy hun, dwi'n teimlo'n well mam, yn well gwraig a dwi'n well bob dim! Roedd e'n bwysig i mi mod i'n teimlo'n dda hefo'r plant, mod i'n teimlo'n dda ynddo fi fy hun. Mi 'nath o newid fi rywsut dwi'n meddwl.

Linda Morus

Be am Dewi dy ŵr di, faint o fewnbwn sydd ganddo fo i'r ffordd ti'n edrych?

Ar y cychwyn dwi'n cofio Dewi'n dweud, pan nath o ngweld i gynta', doedd o ddim yn very impressed hefo be o'n i'n wisgo, a dyma fo'n dweud wrtho'i hun, "Well, she's got a pretty face, I can do something with the clothes!". Felly mae o wedi trio newid fi a dwi'n meddwl ei fod o wedi helpu 'chydig 'de. Roedd o'n meddwl mod i'n reit hen ffasiwn ar y dechra!

Linda Morus

Ma'r ffrog yma'n un anhygoel, ar gyfer pa achlysur fyddi di'n gwisgo hon!

Mi faswn i'n gwisgo hon pan dwi isho teimlo fel fi fy hun, ddim fel Linda a dim fel mam - pam faswn i'n gallu sbwylio fy hun ar benwythnos i ffwrdd hefo Dewi 'falla. Dwi'n hoffi'r defnydd, dwi'n hoffi'r figure hugging style, a does 'na ddim slits mawr na dim byd ynddo fo felly ma' hi'n ffrog rili neis. Dwi'n edrych ymlaen at wisgo hon yn fuan - esgus i mi wisgo fyny'n bendant.

Linda Morus

Oes gan y merched farn ar be ti'n wisgo?

Ma nhw'n deud wrtha' fi os nai wisgo rwbath sydd ddim yn iawn. Ma' gen i'r trowsus yma sydd yn check a dydyn nhw ddim yn eu hoffi nhw o gwbl. Pob tro dwi'n i gwisgo nhw ma' nhw'n dweud, "Mum, please don't wear those farmer trousers, not to school, anywhere else but not to school!" Dwi'm yn gwrando arnyn nhw o gwbl!

Linda Morus

Hefo dy waith di rŵan, os wyt ti'n arwain côr, pa mor bwysig ydi o dy fod di'n teimlo'n smart?

O, ma' hynny'n bwysig iawn. Pob blwyddyn ar gyfer y 'Steddfod ma'n rhaid i mi fynd i siopa i gael rhywbeth rili neis yn y gobaith y bydda' ni'n cael llwyfan, felly ma'r Eisteddfod yn rhywbeth pwysig iawn i mi. Mi a'i Fanceinion i chwilio am rywbeth neis.

Linda Morus

Ydy cael gwisg newydd ar gyfer yr Eisteddfod yn rhywbeth i'w wneud hefo bod yn ofergoelus neu i'w wneud hefo lwc?

Na, ond mae o'n rhoi'r elfen yna o hunanhyder i mi. Dwi'n teimlo'n dda, a dwi hefyd yn meddwl ei fod o'n bwysig i'r plant os dwi'n sefyll yna o'u blaen nhw. Ma nhw'n hoffi gweld Mrs Morus wedi gwisgo yn neis, ma nhw'n cael y boddhad yna hefyd dwi'n meddwl.

Linda Morus

Wyt ti'n un sy'n gwario llawer ar un darn o ddilledyn?

Mi wnâi wario dipyn ar ddillad yn dibynnu ar yr achlysur. Mi brynais i hon ar gyfer yr Eisteddfod eleni hefo esgidiau uchel aur. Oherwydd y platform sydd ar ffrynt y 'sgidia, ma nhw'n weddol gyfforddus a dydy nhw ddim mor uchel â hynny! Ro'n i'n meddwl mod i'n reit ddewr i ddweud y gwir!

Linda Morus

Ydy hi'n bwysig i ti wisgo rhywbeth hefo label?

Na dim o gwbl, oherwydd dwi wrth fy modd hefo'r ffrog biws yma, ac mi oedd hon rywbeth fel £10. Dwi wrth fy modd yn ei gwisgo hi, ond o ran label, ma' hynny'n dibynnu ar yr achlysur?

Linda Morus

Wyt ti'n ymwybodol fod pobl yn sylwi arna chdi achos dy fod di'n gwneud ymdrech?

Dwi'n hoffi'r sylw a dwi wrth fy modd yn gwisgo ffrogia figure hugging os dwi'n mynd allan – pam ddim yn de?

Linda Morus

Sonia wrtha'i am dy golur di, achos ti'n licio colur yn dwyt?

Dwi'n gwisgo gormod, gwisgo gormod - dwi'n gwybod hynny, ond dwi wrth fy modd hefo colur. A'i byth allan heb golur o gwbl, hyd yn oed wrth nofio ma'n rhaid i mi gael rhoi fy mhen uwchben y dŵr er mwyn cadw'r lipstick ymlaen! Ond dyna fi, a nai ddim newid i neb!

Linda Morus

Wyt ti'n teimlo fod yn a lot o bwysa ar ferched i edrych yn ifanc?

Yn enwedig pan ti mewn swydd pan ma pobol yn sbïo arnat ti'n ddyddiol. Dwi'n sefyll o flaen dosbarth a chorau ar lwyfan, dwi ddim yn meindio hynny os dwi'n teimlo'n dda mewn dillad sy'n gwneud i mi deimlo'n fwy hyderus. Dwi'n 45 ac yn mynd at y big 5 0, falla mod i'n panicio 'chydig bach! Pan o'n i'n 40 nath o daro fi fel bricsen ag roedd o'n deimlad ofnadwy. Dwi'n fwy ymwybodol rŵan o ddillad a'r ffordd ydw i nac o'n i yn fy 20au a'n 30au. Pan fyddai'n 50 mi fyddai'n ofnadwy! Dwi ddim yn edrych ymlaen at fod yn 50 o gwbl!

Linda Morus

Wyt ti'n meddwl y gnei di newid y ffordd ti'n edrych eto?

Mi fydd yn rhaid i mi achos mi fyddai'n teimlo, gosh, dwi'n 50! Dwi'n meddwl y byddai'n gwisgo siwts a linen jackets a phetha' felly'n bendant, felly dwi am wneud y gorau fedra'i rŵan!

  • CWPWRDD DILLAD