Cwpwrdd Dillad: Lisa Reich
CWPWRDD DILLAD: Gwen Hatcher | Alun Guy | Lisa Reich
Lisa Reich
Lisa Reich
Lisa Reich
Lisa Reich

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Lisa Reich yn newyddiadurwraig sy’n byw yn Llundain. Yn ogystal â bod yn golofnydd yng nghylchgrawn Golwg, mae Lisa hefyd wedi cyfrannu i gylchgronnau glossy megis Cosmopolitan a Heat, ac wedi bod yn byw a gweithio yn Tokyo am gyfnod.

Lisa Reich

Lisa ar Llundain…

’Dwi wastad wedi licio gwisgo fyny. Oedd nain fi, mam dad, yn rili glamorous mewn rhyw ffordd ‘Cruella de Ville’ gyda sigaret holders ac oeddwn i wastad yn meddwl ‘dwi isho bod fel ’na’. Nes i symud i Llundain ac ar y dechrau roedd gen i rhyw fath o ‘Dick Whittington Syndrome’, y palmentydd i gyd yn aur. Roedd fy job cyntaf i yn Cosmo, ac oeddwn i’n edrych i fyny i’r merched glamorous ’ma ac yr wythnos wedyn roeddwn i yn y banc yn cael loan i brynu siwt Joseph. Rwan pryd ti’n ennill £9,000 y flwyddyn mae hynny braidd yn stiwpid!

Lisa Reich

Lisa ar ei eitem ddrutaf ei chwpwrdd…

Mae’r gôt yma’n amazing, yn stunning, ond na’i byth wisgo fo achos fyddai gen i ofn i rywbeth ddigwydd iddo fo. Roeddwn i mewn shoot gyda’r cylchgrawn dwi’n gweithio arno fo ar hyn o bryd ac roedd o fel ‘love at first sight’ math o beth. Gaethon ni rhyw fath o foment, fi a’r gôt ’ma, a roedd o fel mod i mewn trance a mae o braidd yn weird. Dwi’m yn gwybod os wyt ti rioed wedi cael y profiad ’na lle ti mewn siop ac yn mynd yn boeth wedyn yn oer ac yn gorfod cael o? Na? O wel…

Lisa Reich

Wyt ti’n mynd i ddatgelu faint wnes di wario arni ta sgen ti ormod o gywilydd?

Mae gen i gywilydd oes, ond rho fo fel hyn, o’dd hi’n fwy na £700.

Lisa Reich

Lisa ar y pwysau sydd ar ferched…

Mae ’na bwysau ar ferched i edrych rhyw ffordd ac mae ’na ormod o bwysa’ yn enwedig pryd da chi’n ifanc, ti’n edrych i fyny i’r cylchgronnau ’ma a ti isio efelychu nhw a dwi ’di yn teimlo’r un fath, dwi di teimlo fel mod i ddim digon da mond bo fi di gwisgo be mae Elle neu Glamour yn dweud y dyliwn i wisgo. Dwi’n meddwl fod o wedi cymryd rhyw 5 neu 6 mlynedd i mi sylweddoli nad ydw i byth yn mynd i fedru siopa yn Hermes neu Gucci a mae Top Shop digon da!

Lisa Reich

Lisa ar ddillad…

Dylai dillad wneud i chdi deimlo’n amazing ac yn ferchetaidd neu’n rhywiol neu’n beth bynnag ti isio deimlo, ddim teimlo’n annigonol. Dwi wedi trio rhai pethau gan ddylunwyr a maen nhw wedi gwneud i mi deimlo fel bod siap fy nghorff i’n rong, a tydi o ddim yn rong diolch yn fawr!

Lisa Reich

Lisa ar y sêr…

Dwi’n ffan mawr o Paris Hilton – dwi’n meddwl bod hi’n amazing ac es i lawns perfume hi a probably claim to fame mwya fi ydi bod Paris Hilton wedi dweud ‘God I so want that dress’!

Lisa Reich

Lisa ar ei hoff ddillad…

Mae gen i un neu ddau o bethau mae fel bod ’na rhyw hud amdanyn nhw, mae dynion i weld yn disgyn wrth fy nhraed i pryd dwi’n gwisgo nhw, maen nhw’n taflu pres a Bollinger ata i – amazing!