Cwpwrdd Dillad: Lisa Jên
CWPWRDD DILLAD: Karl Davies | Megan Evans | Lisa Jên
Lisa Jen
Lisa Jen
Lisa Jen
Lisa Jen

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Lisa Jen

Wyt ti’n hoffi ffasiwn a dillad?

Ma' gen i broblem, dwi’n addicted, hollol, hollol addicted, ond s’ gen i ddim cywilydd. Os dwi wedi gweld rwbath mewn cylchgrawn, neu rhywle fel ‘na, mi wnâi freuddwydio a breuddwydio amdano fo, tan dwi’n ei gael o.

Lisa Jen

Be ydy dy steil di?

Tua tair, bedair blynedd yn ôl pan nes i ddyweddïo, mi benderfynais i mod i angen gwisgo ychydig bach mwy fel dynes. Roeddwn i’n teimlo’n hollol frustrated o hyd. Ro’n i’n gwisgo jeans baggy a jumpers baggy a trainers, ac yn teimlo’n anhapus. O’n i wedi bod yn cuddio’n siâp ar hyd y blynyddoedd achos bo fi’n teimlo mod i’n ddi-siâp, ac wedyn nes i feddwl y bydd rhaid i mi fod yn fwy hyderus ynddo fi fy hun, ac mi nes i. Fe es i ddechrau trio ffrogiau ymlaen a ballu, a meddwl i bod nhw yn eitha’ siwtio’n siâp i, wedyn mi ddois i ddechrau teimlo’n fwy a mwy hyderus. Mi ddechreuodd y gŵr, mam a ‘n ffrindia’ i ddeud mod i yn edrych yn neis, gan roi hyder i mi a sylweddoli, does yna ddim byd fedri di ‘neud am dy siâp, rhaid i chdi jyst i ddathlu o, felly dyna nes i!

Lisa Jen

Oes gen ti hoff steil ffasiwn?

Dwi’n teimlo bod y ffrogiau o’r 1940au yn siwtio’n siâp i. Dwi’n teimlo eu bod nhw’n slimmio’r hips a’r pen-ôl i lawr, ond yn dangos y wast. Yr un peth hefo’r ffrogiau o’r 1950au, ma' rheiny yn eitha’ tynn ar y wast hefyd, ag yn mynd allan lot, yn cuddio’r pechodau, ond yn dangos y petha dwi ddim yn meindio’i dangos.

Lisa Jen

Ti’n treulio lot o amser yn rhyw fath o rhamanteiddio am fywyd, am fyw yn y bwthyn bach ym Methesda?

Dwi’m di meddwl amdano fo fel yna, ond dwi yn berson adra, dwi’n licio bod adra lot. Mae yna rwbath am y lle dwi’n byw, am hen dŷ nain, a’r wardrobe yn yr union yr un lle ac mae o ‘di bod erioed. Roedd nain wrth ei bodd hefo dillad hefyd, ac roedd y wardrobe yn byrlymu hefo dillad yn disgyn allan! A ma' nghwpwrdd i yn union yr un fath rŵan hefo nillad i. Does yna ddim lle i roi dim byd arall yno fo, felly dwi’n licio cario hynna ymlaen yn y tŷ

Lisa Jen

Lle ges ti’r ffrogiau yma?

Bron iawn i fi beidio priodi achos y ddwy ffrog yma. Ma rhain yn ddwy o ryw chwe ffrog nes i brynu pan es i Efrog Newydd i neud gig. Doedd Martin y gŵr, fy nyweddi i ar y pryd, ddim yn gallu fforddio dŵad achos odd o jyst cyn y briodas. Ond ges i ryw botel fach o rosé allan ar y stryd yn Efrog Newydd a mynd i siopa, ag rodd rhain yn ‘chydig o’r ffrogiau nes i brynu yna. Doedden nhw ddim rhyw ddrwg, rhyw naw deg punt yr un, ond mi nes i brynu tua saith ffrog!

Lisa Jen

Ti’n gwisgo lot o ddillad vintage

Ma’ dillad vintage yn ffasiynol iawn ond, ma nhw yn mynd yn anoddach i’w ffeindio, a ma’ nhw’n mynd yn ddrytach hefyd, achos fod mwy a mwy o bobl yn dod i licio nhw. Ond dwi’n teimlo weithia na ddyla’ pawb arall ei gwisgo nhw gan mai fi oedd yn eu hoffi nhw gynta'!

Lisa Jen

Ydi o’n wir fod gen ti ddwy ffrog briodas?

Yndi, mae o yn wir, dwi di bod yn ffŵl chydig bach. Ro ni wedi cal y ddelwedd ‘ma mod i isho ffrog vintage i briodi ynddi hi, ac mi ddois i ar draws y ffrog yma sydd cyn vintage, mai’n dod o un wyth pedwar rwbath, ac mai’n dylla i gyd! Ddois i a hi adra, ac mi ddwedodd fy ffrind gora a mam mod i yn edrych yn od ynddi. Ond ma’ hi’n anhygoel, dychmyga’r hanes sy’ tu ôl iddi hi. Dwi’n meddwl i bod hi wedi bod mewn cynhyrchiad yn y National yn Llundain! Felly nes i benderfynu ella bod ganddyn nhw bwynt, wedyn nes i weld y ffrog yma, yr un wisgais i ar ddiwrnod ym mhriodas. Ma nhw fatha cal aelodau o’r teulu a deud y gwir, ma bob un ohonyn nhw hefo’i stori wahanol.

Lisa Jen

Be wisgis di ar dy draed ar ddiwrnod dy briodas?

Sgidia Christian Leboutin. Ma’ nhw’n andros o uchel! Cychwyn y dydd ro ni’n meddwl i bod nhw mor gyfforddus, dyna be ti’n gal am wario ar sgidia da. Mi wisgais i nhw am ryw ddeunaw awr, ond wedi tynnu nhw ar ôl mynd yn ôl i’r gwesty'r noson honno, roedd y nhraed i’n goch!

Lisa Jen

Be ydy hanes y dillad yma?

Ma hon yn outfit fyddai’n gwisgo’n aml. Blows a pencil skirt, dwi’n gwisgo nhw’n aml pan dwi’n gneud gigs a ballu, dwi’n teimlo fatha dynes yn i gwisgo nhw. Mae o’n neud i chdi gerdded yn wahanol, a dy neud yn ymwybodol pan ti’n eistedd, rhaid i ti eistedd hefo dy gefn yn syth.

Lisa Jen

Oes gen ti sgidiau lwcus?

Oes, y rhai glas. Pob tro dwi ‘di gwisgo rheina dwi di cael gig da. Felly rŵan dwi’n ffeindio hi’n anodd peidio’i gwisgo nhw, rhag ofn i mi beidio cael gig da. Dwi’n gallu bod yn eitha’ ofergoelus fel yna, ac mae rhaid i mi gal y sgidia glas. Dwi wedi cael ambell i un o’r gynulleidfa’n gweiddi, ‘Nice Shoes’! Dim byd am y canu, ond ma nhw’n licio’n sgidia i!