Cwpwrdd Dillad: Lisa Heledd
Lisa Heledd
Lisa Heledd
Lisa Heledd
Lisa Heledd

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Lisa Heledd

Mae gen i ddwy nain. Mae un nain yn fy nghof i, ac mae’r nain arall wedi colli ei cho’. Mae’r ddwy nain yn brydferth, yn ddoniol ac yn finiog pan yn flin, ond y gwahaniaeth rhwng y ddwy ohonyn nhw ydi mai ond un sydd yn cofio fy enw i. Mae’r cof yn beth rhyfedd. Mae nain yn cofio ei bod hi’n licio paned o de hefo lot o siwgr ac mai dim ond cwpan China neith y tro. Dydy hi ddim yn cofio ei bod hi yn nain i fi, ac yn fam i fy mam. Dim ond Marks a Sparks fydda hi’n wisgo, roedd hi’n cael gwneud ei gwallt pob wythnos, a ‘na hi ddim gadael y tŷ heb dipyn o lipstick a phowdr. Ddim yn bell cyn i’r nain sydd yn fy ngho’ droi mewn i’r nain dwi yn ei nabod rŵan, mi ‘steddodd hi fi lawr a rhoi mwytha' i fy ngwallt, ac mi ddwedodd hi wrtha i bod hi yn mynd yn hen ac yn dechrau anghofio pethe, ond beth bynnag ddaw, mi fydda hi wastad yn fy ngharu.

Lisa Heledd

Beth sydd wedi dylanwadu fwyaf ar dy steil di?

Nain faswn i’n deud ydy’r dylanwad mwya’ arna’ i - yn y mywyd ac yn bob dim dwi’n i neud. 'Nath hi ddechra' hefo dementia pan o’n i tua deg mlwydd oed ond dwi’n cofio sut oedd hi o’r blaen. Roedd hi’n ddynes smart iawn, o hyd yn gwisgo dillad rili neis. Pan ddechreuodd hi hefo dementia, mi gollodd hi’r balchder yn y ffordd oedd hi’n gwisgo. Be sy’n effeithio fi fwy na dim byd ydy’r ffaith ei bod hi wedi colli’w straeon hi- straeon sy’n dal popeth i fi mewn bywyd. Dwi’n meddwl mai dyna pam dwi’n caru dillad ail-law cymaint, oherwydd y ffaith mod i’n caru’r stori sydd tu ôl iddyn nhw -pwy oedd yn ei gwisgo nhw o’r blaen? A bod ‘na ryw look sy’n dod hefo rhai dillad. Ond dwi hefyd yn reit ofergoelus am rai petha'.

Lisa Heledd

Pa fath o ddillad sy gen ti yn dy gwpwrdd?

Ma rhan fwya’ o’r dillad yn rai hen, neu’n ddillad dwi ‘di gael fel anrhegion, ond ma’ lot ohonyn nhw o siopa’ elusen. Pan dwi’n mynd i siop dwi’n sylwi ar batrwm, lliw a defnydd yn syth. Fel arfer dwi jyst yn pasio unrhyw beth du neu wyn, dwi’m rili yn sylwi arnyn nhw. Ma rhywbeth hefo patrwm yn sefyll allan i fi a mae o jyst yn instinct i mi fynd atyn nhw. Dwi’n mynd yn reit ecseited pan dwi’n mynd i siop elusen neu i siop ail law ag yn teimlo’r defnydd, ac os oes yna rywbeth arbennig amdano fo, mae ‘na rywbeth yn cynhyrfu y tu mewn i mi!

Lisa Heledd

Wyt ti’n cadw dy ddillad a’r bagiau ar y wal drwy’r amser?

Dwi’n ffeindio fo’r ffordd orau i weld be sydd gen i. Dwi’n rhoi rhai o’r ffrogia fyny, ond mwy na dim y bagiau. Dwi’n ei licio fo, mae o fel darn o gelf ynddo’i hun a dwi’n swopio’r ffrogia bob hyn a hyn i gael newid bach.

Lisa Heledd

Mae hon yn ffrog fendigedig.

Dwi’n meddwl fod hon yn un o’n favourites i. Y ffrog yma oedd y cynta’ i mi brynu o’r steil vintage flynyddoedd yn ôl yn Amsterdam. Amser hynny nes i ffendio am y tro cynta’ fod y math yma o ddillad yn gweddu’n siâp i. Dwi’n ei gwisgo hi o hyd. Dwi’n caru’r ffrog yma.

Lisa Heledd

Ma’ oren y ffrog yma’n liw cyfoethog iawn tydi.

Dwi’n caru’r ffrog yma. Ges i hi fel anrheg gan fy ffrind gorau i sy’n byw yn Norwy. Mi nes i'w gwisgo hi i barti ryw dro a do’n i’m ‘di bod yno pum munud pan ges i lasiad o win coch yn y bar, ac wrth i mi fynd yn ôl at fy ffrindiau, dyma ‘na ddyn oedd yn dawnsio yn fy nharo fi a mi ath yna win reit lawr y ffrynt. Mi fasa ti jyst yn meddwl disaster! Ond ar ôl ryw hanner awr rodd o wedi diflannu - gwin coch yn diflannu! Mae fel tasa hi’n ffrog hud!

Lisa Heledd

Be ydi hanes y top yma hefo’r perlau bach arno fo?

Ges i hon mewn clothes swap. Bob hyn a hyn da ni yn cael clothes swaps lle mae grŵp o ffrindiau yn dod at ei gilydd hefo dillad dydyn nhw ddim isho ddim mwy a ma un ohono ni, fi y tro dwytha, yn ocsiwnio’r dillad i bawb arall yn y stafell er mwyn codi arian i ryw elusen neu'i gilydd. Mi ges i hon, a dwi’n i charu hi. Achos mai fi oedd yn ocsiwnio oeddwn i ddim yn licio bidio yn erbyn pobl. Ond mae rhaid fod o yn fy llygaid i faint oeddwn i’n ei hoffi hi, achos mi nath un o’n ffrindiau fi bidio, ac wedyn ar ddiwedd y noson fe wnaeth hi roi hi i mi a dweud, “dwi’n gwbod bo' ti isho hi.” A dwi yn, dwi’n i charu hi!

Lisa Heledd

Mae hon yn ffrog anghyffredin.

Ebay…..ebay-tastic!! £1.50 nes i roi am hon. Nai byth fynd yn uwch na £10 - dyna ydy’n limit i. Dwi’n reit gry’ hefo’n hun hefo dillad, achos mi faswn i yn gallu mynd yn nyts! Felly mae’n rhaid cael rhyw fath o limit!

Lisa Heledd

Pam fod gen ti filoedd o fotymau?

Dwi’n casglu botyma’ a ma’ gen i gasgliad mawr ohonyn nhw rŵan. Dwi’m yn mynd allan i brynu botyma newydd, dwi’n mynd i siop elusen a phrynu crys neu rwbath achos fod ganddyn nhw fotyma diddorol arnyn nhw. Dwi’n caru pan ti jyst yn gweld loads o fotyma a ti’n ffendio un a meddwl, “ar be oedd hwn?”

Lisa Heledd

Be mae dillad yn ei olygu i ti?

Dwi’n casglu dillad am fod gan bob dim stori newydd i mi, felly dwi wedi casglu’r straeon a’r gwrthrychau ‘ma dros y blynyddoedd. Mi faswn i’n ypset tasa rhywbeth yn digwydd iddyn nhw. Dwi’n siŵr y baswn i yn dechra casgliad newydd ag y bysa fo’n iawn, ond na, i ddeud y gwir mi faswn i’n torri nghalon taswn i’n i colli nhw i gyd achos ma nhw fel storyboard o ‘mywyd i.