



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
O Fam i ferch, mae cwpwrdd Lisa Efyn yn llawn o ddillad sy'n profi eu gwerth drwy'r cenedlaethau.
Beth neu bwy sydd wedi dylanwadu ar dy steil di?
S'nam dwywaith, Mam oedd y dylanwad mwya' arna'i ac ar be sydd gen i yn fy nghwpwrdd dillad i heddiw 'ma'. 'Odd hi bob tro yn steilish, bob tro'n smart, bob dim yn gorfod mynd hefo'i gilydd - clustdlysau, bagiau a'r sgidiau ac roedd lliw yn bwysig iawn iddi. Roedd ganddi lygad da am liw a pha liwia' oedd yn mynd hefo'i gilydd, a llygaid craff hefyd am steil, sut fath o siapia dillad oedd yn mynd hefo'i gilydd.
Roedd dy fam yn athrawes dda felly?
Oedd! Oracle o'n i'n ei galw hi! O'n i'n gwybod yn syth os oedd rhywbeth ddim yn fy ngweddu i. Os o'n i'n gofyn, "Ti'n licio hwn mam?" o'n i'n gallu deud hefo un edrychiad ganddi, ac mi oedd hynny'n deud y cwbl lot. Mae'n dri mis ers i mi golli mam, a dwi'n ffeindio fo'n gysur ofnadwy medru mynd mewn i'r cwpwrdd dillad a chymryd eitem o'i dillad hi a'i wisgo fo, achos mae o hefo fi wedyn.
Wyt ti wedi cadw rhai o dy ddillad di ers pan oeddet ti'n cyflwyno ar y teledu o gwbl?
Do, ma' gen i 'chydig o gotia' dwi wedi eu cadw ers pan o'n ni'n gneud rhaglenni adar hefo Iolo Williams a rhai o'r rhaglenni eraill. Ti'n gwbod sut wyt ti pan ti'n ifanc, ti'n trio cael rhyw edrychiad neu ryw ddelwedd ifanc, wedyn ro'n i'n gwisgo'r crysa-t hefo ice cream cones a rhyw betha' tebyg arnyn nhw, a ro'n i wastad hefo fy ngwallt mewn plethi ac yn gwisgo ryw het. Ro'n i'n trio cael rhyw ddelwedd y bydda'r plant yn medru ei adnabod yn syth.
Mae rhan fawr o dy gwpwrdd dillad di wrth y drws ffrynt - mae gen ti lawer o gotiau a hetiau, fyddi di'n ei gwisgo nhw'n aml?
Hen gôt mam ydy hon o'r 80au. Fedri di ddim mynd yn wrong hefo côt blaen ddu, neu raincoat fel ma' nhw'n ei ddeud. Mae gen i gôt frown o'r 60au hefyd a ma' 'na 'wbath yn debyg i gôt swing ynddi, a ma' hi'n dod allan bob blwyddyn gen i. Ma' gen i hefyd gôt sy'n syth o'r 80au. Mi ddois i a hi allan flwyddyn dwytha' achos fod y golar yn nôl mewn ffasiwn. Ma' 'na fotyma' a belt arni, a ma' hi hefyd yn un cynnes iawn a ma'r lliw'n mynd hefo bob dim.
Mae'r gôt goch yma'n fendigedig, o le ges di hon?
Ma' hon yn gôt fodern, un fi 'di hon, ond ma' 'na stori tu ôl iddi. Roedd gan mam un binc a fi un goch, union yr un fath, ond brynish i hon yn Melbourne. Roedd hi'n 98 fahrenheit tu allan, yn ferwedig o boeth, a dyna lle'r o'n i yn trio cotiau gaeaf ymlaen achos eu bod nhw yn hanner pris - a ma' nhw'n hanner cashmere hefyd. Dros y blynyddoedd, 'da ni wedi cael wear da iawn ohonyn nhw.
Mae gen ti gymaint o ddillad fel bod yn rhaid i ti gael ystafell gyfan i'w cadw nhw! Dweud wrtha'i o ble ges di'r siwt las yma?
Ma' hi'n handi iawn cael digon o le i roi pob dim! Roedd y siwt yma'n perthyn i Nain, mam mam, ac roedd hi'n ddynas smart. Roedd hi'n dod o deulu o Lanfairfechan, teulu eitha' da, ond eto dim llawer o bres i wario ar ddillad, felly ma' hon yn siwt sydd wedi ei gwneud i bara. Ma' hi wedi cael ei gwneud yn fendigedig gyda'r gwaith pwytho manwl ynddi, ac mae hi'n flattering iawn. Ma' 'na boxpleat ar gefn y sgert, steil sydd wedi dod yn ôl mewn ffasiwn erbyn hyn.
Sut fath o ddillad fyddi di'n ei wisgo pan fyddi di'n canu'r delyn mewn digwyddiadau arbennig?
Pan o'n i'n dechra' chwarae'r delyn, ac yn chwara' mewn cyngherddau a ballu, roedden nhw wastad yn gofyn i mi chwarae ar ddydd Gŵyl Dewi. Do'n i'm isho troi fyny mewn siwt Gymreig draddodiadol, a beth bynnag, wrth chwarae'r delyn ro' ti'n methu rhoi'r het fawr ymlaen, felly hon oeddwn i'n wisgo achos ei bod hi rwbath yn debyg i wisg Gymreig mewn ffordd.
Mae'r ffrog werdd yma'n anhygoel, be ydy hanes hon?
Hon ydy'n ffefryn i ma'n rhaid i mi ddeud. Dwi'n meddwl fod y lliw'n drawiadol a ma'r gemwaith sydd o gwmpas y goler yn fendigedig. Ma'r strapia' yn gorwedd ar yr ysgwydd, dy'n nhw ddim yn cydio o gwbl, ma' nhw jyst yn gorwedd yn neis i gyd. Dydw i heb gael yr achlysur iawn i'w gwisgo hi eto achos gan ei bod hi'n syth, dwi heb fentro canu'r delyn ynddi a dydw i ddim isho ei thorri hi i'w haddasu hi. Ond dwi yn ysu i gael ei gwisgo hi.
Be mae dillad dy fam yn ei olygu i ti?
Dwi'n teimlo fod y dillad yn gysegredig iawn i mi. Dwi'n eu parchu nhw ac yn eu caru nhw am eu bod nhw'n rhan ohoni hi a'i bod hi wedi eu dewis nhw a'u gwisgo nhw, a'i bod hi wedi meddwl eu bod nhw'n ddigon da i basio ymlaen i fi. Mae'n deimlad arbennig iawn achos rodd hi'n ddynes arbennig iawn - ma' bob mam yn arbennig dydy. Ei moto hi oedd, "clothes maketh a man". Mi fydd y dillad yma wastad hefo fi, nai byth daflyd rhain, a dwi'n gobeithio y gwneith Angharad, ym merch i, eu gwisgo nhw hefyd.
- CWPWRDD DILLAD