Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Lleucu Cravos
CWPWRDD DILLAD: Heulwen Haf | Lleucu Cravos | Alan Jones
Lleucu Cravos
Lleucu Cravos
Lleucu Cravos
Lleucu Cravos

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Eleanor Gardner yn mynd i roi trawsnewidiad syfrdanol i edrychiad merch ifanc o Gaerdydd.

Lleucu Cravos

Deud wrtha'i be ydy dy waith di a'r disgwyliadau gwisg yno?

Dwi'n gweithio ym Mhrifysgol Caerdydd yn y Ganolfan Gymraeg i Oedolion. Dwi ddim yn teimlo fod 'na ddisgwyliadau mawr arna'i i edrych yn anhygoel o smart, dwi ddim yn dysgu, dwi ddim yn sefyll o flaen dosbarth a 'di prifysgolion ddim yn lefydd smart yn na' 'dyn nhw? Ma' nhw'n lefydd lle ma' pobol yn gwisgo be' ma' nhw moyn.

Lleucu Cravos

Pan ti'n deffro yn y bore ac yn penderfynu be i wisgo, oes 'na ryw fath o ddillad ma'n rhaid i chdi wisgo i roi dy hun yn y ffrâm o feddwl am y gwaith?

Na! Falle dylen ni os yw pawb arall yn ei neud e. Ond na!

Lleucu Cravos

Pam wyt ti wedi gofyn am gyngor Eleanor? Be wyt ti isho yn arbennig?

Ma'n rhaid i mi ddysgu sut i wisgo'n iawn. Ma'n rhaid i mi ddysgu mwynhau mynd i siopa dillad – ma' pawb arall yn mwynhau, ond dwi'n cal panic attack llwyr, dwi jyst ddim yn gwybod be i wneud. Dwi'n cerdded drwy'r drws a meddwl, Aaaaaa! Ma' na gannoedd o betha' fan hyn, a dwi ddim yn licio dim -does na'm byd yn gweddu i mi - a dwi jyst yn cerdded mas drwy'r drws. Ma' angen help arna'i!

Lleucu Cravos

Eleanor: Dwi'n mynd i roi wast, bronnau mawr a phen-ôl mawr i Lleucu, ac mi fydd o'n grêt!

Ma'r siâp yma'n mynd i fod yn dda i Lleucu achos ei fod o'n creu wast ac ma'n ferchetaidd iawn, felly dwi'n meddwl y byddai'r ffrog yma'n ychwanegiad da i'r cwpwrdd dillad.

Lleucu Cravos

E: Ma'r lliwia' meddal yng ngwallt Lleucu wedi ysgafnhau ei hwyneb hi gan ddangos ei siâp yn well ac ma'i llygaid hi rŵan yn sefyll allan.

Catrin (colur) - Mae croen ffantastig gan Lleucu, felly dwi wedi cadw popeth yn ysgafn. Dwi wedi defnyddio lliwia' fel brown ac aur ac mae'n gweithio.

Lleucu Cravos

Nia: Ma'r foment fawr wedi cyrraedd i ni gael gweld sut mae Lleucu wedi cael ei thrawsnewid. Nia, rwyt ti'n ffrindiau gyda Lleucu, sut fydda ti'n disgrifio ei steil hi cyn y trawsnewidiad?

Nia: Dwi'n 'nabod Lleucu ers blynyddoedd mawr ac ro'n i yn y Brifysgol gyda hi. Ma' hi dal i wisgo dillad ro'n i'n eu benthyg iddi yn y Brifysgol nawr. Roedd diddordeb mawr ganddi mewn ffasiwn pan oedd hi yn y Brifysgol, ond erbyn hyn mae'n dueddol o wisgo dillad sy'n eitha' llac a bach yn henaidd iddi, felly mi fyddai'n neis ei gweld hi'n gwisgo rhywbeth sydd yn ei siwtio hi lot gwell.

Lleucu Cravos

Be amdanat ti Anna, ti'n gweithio hefo Lleucu, be fydd hi 'n wisgo i'r gwaith?

Anna: Dwi'n ei gweld hi mewn dillad du neu lwyd sydd ddim yn edrych yn dda, ma' nhw hefyd ac yn reit llac felly mi fydd hi'n neis ei gweld hi mewn lliw.

Lleucu Cravos

Be ydy'ch barn chi ar yr edrychiad newydd?

Nia: Ma hi'n edrych yn hollol wahanol, ei gwallt hi! Ma' hi'n edrych yn anhygoel!

Lleucu Cravos

N: Lleucu, dwi'n meddwl fod y trawsnewidiad yn gwbl syfrdanol. Ond be wyt ti'n feddwl sy'n bwysig?

Dwi'n meddwl ei fod o'n anhygoel. Dwi wedi joio'r holl beth, mae o wedi bod yn ffantastig a dwi'n teimlo'n hollol gorjys!

Lleucu Cravos

N: Oeddet ti'n teimlo dy fod di wedi dechra' diystyru dy hun rywsut?

Ie, dwi wedi colli'n ffordd, wedi colli'n hyder ond dwi wedi ei ffeindio fo'n ôl eto nawr a ma' hynna'n deimlad grêt - yn deimlad braf.

Lleucu Cravos

N: Wyt ti'n teimlo fod cael cymorth Eleanor i ddysgu rheola' dillad wedi bod o werth i ti?

Yn anhygoel o werthfawr. Dwi wedi mynd o rywun sy'n gasiau siopa i rywun sy'n caru siopa mewn tridiau!

Eleanor: Paid â bod ofn trio pethau newydd ymlaen.

Ma hynny'n rywbeth pwysig dwi wedi ei ddysgu o hyn – go for it!

  • CWPWRDD DILLAD