



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Llinos Lee yn gyflwynwraig sy'n serennu ar y llawr ddawns.
Beth mae dillad yn ei olygu i ti?
Dwi wrth fy modd gyda ffrogiau lliwiau gwahanol, dwi'n hoffi arbrofi hefo steiliau newydd. Dwi wastad yn edrych drwy'r cylchgronau ac yn gweld be sy'n mynd i fod yn ffasiynol a thrio rhoi pethau at ei gilydd er mwyn bod yn unigryw.
Mae gen ti dipyn o ddillad hefo sequins, wyt ti'n hoffi dillad sy'n sgleinio?
Dwi wrth fy modd hefo dillad sy'n sgleinio. Dwi'n meddwl fod hynny achos pan o'n i'n fach ro'n i'n gwneud lot o sioeau. Dwi wedi bod yn perfformio ers pan o'n i'n dair blwydd oed - nes i mi ddechrau Uned 5 a dweud y gwir - felly dwi 'di hen arfer gwisgo lan a gorfod gwisgo colur ar y llwyfan. Dwi wrth fy modd hefo pethau girly gyda lot o sequins arnyn nhw.
Ydy bod ar Uned 5 yn rhoi'r cyfle i ti wisgo fyny?
O'n i byth yn meddwl y baswn i'n mynd mewn i gyflwyno, ar hap a damwain nesh i ddechrau. Dwi o hyd yn hoffi edrych yn smart. Dwi'n meddwl fod hynny wedi dod o steil nain a mam - ma' nhw'n bobl smart iawn a dwi'n meddwl mod i jyst yn dilyn eu hesiampl nhw.
Oes gen ti ddillad yn dy gwpwrdd di na wnei di byth gael gwared â nhw?
Ma' gen i lot o bethau sydd hefo stori i gyd-fynd hefo nhw, er enghraifft, ro'n i'n gwisgo ffrog lwyd hefo sequins arno fo pan nath Huw ofyn wrtha fi ei briodi o. Felly wnâi byth gael gwared o'r ffrog, achos mae'n cyd-fynd hefo stori neis ac amser hapus iawn.
Rwyt ti'n ferch lwcus iawn gan fod gen ti nid yn unig gwpwrdd ond ystafell gyfan i gadw dy ddillad!
Roedd cael ystafell i gadw'n nillad yn un o'r amodau gen i pan wnes i symud mewn gyda Huw. Ro'n i wastad wedi bod ishe cwpwrdd dillad neu walk in wardrobe ers pan o'n i'n fach. Dwi'n ffan mawr o'r gyfres Sex and the City, ac mae gan y cymeriad Carrie Bradshaw yn y gyfres gwpwrdd dillad anhygoel. Felly dwi wastad wedi dweud mod i ishe un fel hi - dwi ishe bod yn Carrie Bradshaw!
Mae gen ti ddegau o focsys esgidiau yma - pob un hefo Polaroid o'r esgid sydd tu mewn!
Ma' gen i gymaint o focsys, dwi ddim yn cofio pa sgidie sydd ym mha focs, felly mi nesh i benderfynu rhoi Polaroid ar y bocsys fel Carrie Bradshaw yn Sex and the City. Trist iawn, dwi'n gwybod!
Mae gen ti gasgliad anhygoel o ffrogiau. Be ydy hanes yr un fendigedig yma?
Ffrog mam ydy hon. Mi nath hi ei gwisgo hi ar gyfer priodas ei brawd, felly ro'n i'n ryw flwydd ar y pryd. Am ryw reswm dwi wrth fy modd yn edrych drwy luniau priodas a phan welish i mam yn hon, dwi'n cofio dweud, 'o waw, mam ti'n edrych mor bert, nei di gadw'r ffrog yma i fi?' Y bag sydd gen i i fynd gyda'r ffrog ydy hen un nain. Nath nain wisgo'r handbag yma ar gyfer priodas mam. Ym mhob handbag Nain dwi wedi eu hetifeddu, dwi wedi darganfod drych bach, pwrs sydd yn cyd-fynd a'r bag a hances boced hefyd.
Mae'r ffrog yma'n fendigedig, at ba achlysur ges di hon?
Dyma'r ffrog nes i wisgo i seremoni BAFTA Cymru cwpwl o flynyddoedd yn ôl. Fe gafodd Uned 5 ei enwebu am wobr a doeddwn i ddim am brynu ffrog newydd achos fod gen i hen ddigon o ddillad. Ond, diolch byth mod i wedi, achos mi wnaethon ni ennill a ro'n i mor falch achos, er bod y ffrynt yn edrych yn eitha' plaen, ma' 'na ryw fath o effaith corset ar y cefn. Ro'n i mor falch achos pan wnaethon ni ennill, mi oedden ni'n cael cerdded lan i'r llwyfan ac yr unig beth ro'n i'n meddwl amdano oedd, grêt ma' pawb yn cael gweld cefn y ffrog!
Ma'r ffrog goch yma'n fendigedig, o le ges di hon?
Mi nathon ni wneud underwater photoshoot ar gyfer Uned 5 a oedd yn lot fawr o hwyl - roedd hi'n ddiwrnod anhygoel a nesh i wir fwynhau. Roedd hi'n waith caled achos unwaith ro'n i yn y dŵr, roedd y ffrog yn mynd yn drwm ofnadwy. Pan ddois i allan o'r pwll nofio, ro'n i'n poeni y bydda'r ffrog wedi cael ei difetha ond diolch byth ma hi'n edrych yn iawn.
Mae gen ti lawer o ddillad arbennig. Ydy hynny yn golygu fod gen ti hefyd lawer o gotiau arbennig?
Un o fy hoff gotiau i ydy un llwyd ffwr ffug sydd gen i. Pan o'n i'n arfer gwneud sioeau, mi oedd ganddyn nhw gwpwrdd dillad anhygoel lle ma pobl wedi rhoi eu hen ddillad nhw i'r cwpwrdd er mwyn gwneud costumes. Un tro pan o'n i mewn yna, nes i weld y siaced ffwr ffug yma a ro'n i'n meddwl, 'wwww vintage, ma hwnna'n edrych yn neis'. Mi wnes i holi "Gai fenthyg hon i fynd i briodas?" Mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydw i erioed wedi mynd â hi'n ôl!
- CWPWRDD DILLAD