



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Be ma’ dillad yn ei olygu i ti?
Dwi’n hoffi dillad newydd. Dwi dal yn cael y buzz o fynd i rywle a ffeindio bargen neu ffeindio ffrog sy’n edrych yn ffantastig! Dwi’n fwy gofalus na rhai pobl hwyrach oherwydd dwi’n gwybod pa liw fydd mewn y tymor yna a dyna sut y byddai’n prynu pethe’ i’r cwpwrdd dillad, eu dewis nhw hefo’r lliwiau.
Wyt ti’n gorfod gwisgo dillad arbennig i dy waith?
Mae’n rhaid i mi ddeud fod y dillad dwi’n wisgo i'r gwaith yn eitha’ tebyg i’r dillad faswn i’n wisgo i fynd allan hefyd, mae o fatha sioe weithiau. Mae’r gwaith yn gyffrous, ma’ rywbeth wastad yn digwydd a rhyw gossip yn mynd o gwmpas am rywun neu rywun di gwneud rhywbeth, mae’n eithaf byrlymus. Dydy o ddim yn debyg i ‘Ugly Betty’, mi faswn i’n deud ei fod yn debycach i ‘A Devil Wears Prada’ achos mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n edrych y rhan, yn well groomed a phroffesiynol ac yn barod i weithio ac i ddylunio. Ma’ ‘na ddelwedd mae’n rhaid i chi gadw ati.
Be wyt ti’n hoffi ei wisgo fwyaf?
Fy ffefrynnau fi mae’n rhaid dweud yw ffrogiau. Ma’ gennai gant a mil o ffrogiau gwahanol. Dwi’n mwynhau patrymau gwahanol, y lliwiau arnyn nhw ac yn gwneud yn siŵr bod yr un un lliwiau yn dod i mewn yn y ffrogiau a fasen i taswn i yn trio eu cynllunio nhw. Fwy na thebyg ar ôl gwisgo rhywbeth mwy na thair gwaith fyddai ‘di cael llond bol arno fo neu mi fyddai isio lliw arall fel mod i’n trio cadw mewn ffasiwn.
Os gen ti hoff steil ffrog o gwbl?
Oes, dwi fwy na thebyg yn mynd am y siâp hawdd yma oherwydd mae o’n gwneud i mi edrych yn dalach - fel rhyw fath o optical illusion.
Mae dy swydd di’n swnio’n glam iawn, ond oes yna lot o bwysau arnat ti?
Mae o’n waith caled achos unwaith ‘da ni’n mynd i’r siopau, mae’n swnio’n glamorous, ond ‘da ni’n gallu bod yna am ddeuddydd ella tridiau. Mi fasa rhai pobl yn disgyn mewn cariad gyda siopa drwy’r dydd, ond ma’n eitha’ stressful os ‘da chi yna hefo’r boss ac yn dangos petha’ a ma’ hi’n deud ‘dwi’m yn licio fo’. Ma’ hynna’n eitha’ caled. Wedyn mae’n rhaid trio ei chael hi ar ych ochr chi. Unwaith da ni ‘di cael ein hysbrydoli gan y pethau newydd ‘da ni wedi eu prynu, mi wnawn ni ddechrau dylunio. Be’ sy’n cael ei drafod rhan amlaf ydy’r syniad nesa’ nid ‘da iawn chdi’, ond ‘be ‘di’r syniad nesa’ be ‘sgen ti i gynnig?’, mae’n eitha’ cut-throat mewn ffordd.
Ma’r ffrog yma’n fendigedig.
Fy ffefryn o’r cwpwrdd dillad i gyd ar hyn o bryd ydy hon, nes i’w phrynu hi’n Hong Kong ar fy nhrip diwethaf gyda gwaith a ‘dwi jyst wrth fy modd hefo’r siâp, y ffaith ei bod hi’n wahanol, y pocedi ar yr ochr a hefyd y gwaith sydd wedi mynd mewn i’w gwneud hi ac mae’r lliw yma’n boblogaidd y mis yma.
Pam dy fod di wedi dewis cynllunio dillad dynion? Fyddai ddim yn haws i ti gynllunio dillad merched gan dy fod di’n gwybod sut ma’ merched yn meddwl?
Mi oeddwn i’n hoff o greu dillad i fi fy hun, ond da’ch chi’n tueddu i greu be’ ‘dach chi’n licio a dydach chi ddim yn meddwl am be’ mae’r cwsmer yn ei hoffi. Nes i benderfynu gwneud dillad dynion oherwydd allai ddim dod a 'nhast personol i iddo fo, mae’n rhaid i fi feddwl fwy am pam fasa dyn yn licio ei wisgo fo a pham bod o’n licio’r lliw a hefyd be fasa’i ffrindiau’ fo’n wisgo. Os fyddai o gwmpas Llundain, neu os fyddai’n mynd adre ac yn gweld y bag dwi wedi ei ddylunio mae’n anhygoel oherwydd dyna lle da’ch chi’n cael y teimlad bod chi wedi gwneud rhywbeth sy’n dda a bod rhywun isio’i brynu o.
Pa ddilledyn fydda ti yn methu byw hebddo fo?
Mae’r ffrog fach ddu bob amser yn mynd i fod yma ac mae’n rhaid i mi ddweud mai hon ydy fy ffefryn i. Mae’n glasurol ond eto mae’r holl embellishments yma arni yn gwneud iddi edrych yn fwy jazzy pan fyddai’n mynd allan. Gallwch chi adio lliw yn eitha’ hawdd ac yn rhad, drwy roi teits gwahanol liwiau neu rhai hefo bach o sparkle - dwi’n meddwl fod y steil yn edrych yn fwy funky wedyn.
Ydy dy waith di’n rhan fawr o dy fywyd di?
Mae’n anodd anghofio am y gwaith oherwydd fe allwch chi gael syniad pan ‘dach chi’n eistedd lawr ac yn gwylio’r teledu neu rywbeth. Wedyn mae’n rhaid i fi neidio yn syth i gofnodi’r syniad. Mae’n bwysig mod i wastad yn cadw hwnna, oherwydd unwaith fydd hynny wedi mynd ohoni i dwi'm yn meddwl y byddai’n medru gweithio rhagor oherwydd mae’n rhaid i fi wneud yn siŵr fod yn meddwl a’n syniadau i o hyd yn ffres.
- CWPWRDD DILLAD