



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae esgidiau'r cynllunydd Christian Louboutin yn ddigon i dynnu dŵr o ddannedd, ond dim ond y cyfoethog, enwog a'r lwcus sy'n cael eu gwisgo. Yn adnabyddus am eu gwadnau coch, mae'r sgidiau hyn rhan amla' i'w gweld yn troedio'r carped coch.
Un o'r merched lwcus hynny sy'n berchen ar esgidiau'r cynllunydd yw Elen Davies o Gaerdydd.
Wyt ti wedi prynu dy esgidiau Louboutin ar gyfer achlysur arbennig?
Elen: Mae ffrind i mi yn priodi mis nesaf, ac mi oedd angen pâr newydd arna i - wel dim angen pâr ond eisiau pâr newydd ar gyfer y briodas! Mi gerddais i mewn i'r siop a ro'n i'n gorfod dod mas a dau bâr achos o'n i jyst ffili gwneud fy meddwl lan pa rai o'n i moyn! Ma' nhw union yr un fath, ond dwi ddim yn siŵr os ydw i'n cadw'r ddau bâr eto ….mae o'n tempting iawn mae'n rhaid i mi ddweud! Gan eu bod nhw mor ddrud ro'n i'n chwysu stêcs yn dod mas o 'na, palpitations, ond dyna fe, be arall o'n i fod i'w wneud!
Mae o'n brofiad mynd i brynu 'sgidiau mor arbennig â hyn dydy, nid fel prynu pâr cyffredin!
Na, na. Ti'n cael eistedd ar soffa, maen nhw yn dod a champagne i ti neu goffi - beth bynnag ti moyn a ti'n gweld y celebs yn dod mewn a mas. Mae o jyst yn brofiad hollol anhygoel.
Mae'r gwaelod coch yn rhywbeth arbennig iawn. Ma' Louboutin ei hun yn dweud ei fod o'n fwy na lliw, ei fod yn symbol o angerdd neu gariad.
Yn gwmws, yndi ma' fe. Dwi'n credu pan fo unrhyw ferch yn rhoi high heel ymlaen, ti'n teimlo ychydig bach yn fwy sbesial, ac ychydig bach fwy benywaidd hefyd. Pan dwi'n gwisgo'r rhain dwi'n teimlo fod rhyw fath o bŵer 'da fi. Mae dy sgwydde' di'n mynd nôl ac mae dy ben di'n mynd lan, ma' fe'n rhywbeth sy'n apelio ata i ac mae e'n hala fi deimlo'n eitha' sbeshial hefyd. Dwi'n eu prynu nhw i fi a neb arall.
Felly sut berthynas sydd gen ti efo dy Christian Louboutins?
Dwi'n eu caru nhw! Does yna ddim gair arall amdano fe. Ma' nhw fyny yn eu bocsys 'da fi, gyda'r dust bags drostyn nhw. Weithiau mi a'i mewn i'r wardrobe a'u tynnu nhw mas er mwyn edrych arnyn nhw - maen nhw wastad yn dod â gwên i'n wyneb i. Ma' nhw'n dod ag atgofion melys iawn yn ôl i mi.
Fe brynodd Lisa Jên Brown bâr o Louboutin's ar gyfer diwrnod ei phriodas.
Be ydy'r hanes tu ôl i'r pâr o Laboutin's yma?
Lisa: Pan o'n i'n trio meddwl be o'n i'n mynd i wisgo ar gyfer fy mhriodas, nes i benderfynu mod i eisiau Jimmy Choo's, achos os oes yna unrhyw adeg y ca' i brynu sgidiau drud, diwrnod fy mhriodas ydy hwnnw! A phan wnes i fynd i Harvey Nicks i edrych ar y Jimmy Choo's doeddwn i ddim yn licio dim un - mi oeddan nhw'n rhy strappy, a rhy dainty a finna' hefo hen draed hogan y wlad! Felly mi wnes i droi at y Louboutin's a thrio pâr ymlaen a meddwl wow! Mi wnes i holi dynes y siop, ac mi ddywedodd hi nad oedd yna bâr yn y lliw pinc yma ar gael trwy Ewrop gan eu bod nhw wedi gwerthu allan. Yn lwcus, mae gen i ffrind sydd yn bennaeth PR Agent Provocateur sydd yn digwydd adnabod pennaeth PR Christian Louboutin, ac mi lwyddodd i gael y rhain i mi o'r catwalk, sy'n golygu fod yna fodel rhywle wedi eu gwisgo nhw o fy mlaen i! Ond, mi wnaeth o hefyd olygu mod i wedi eu cael nhw am £200 yn hytrach na £400 - £500.
Sut oeddet ti'n teimlo ar fore dy briodas yn eu gwisgo nhw?
Fel aur, mi oeddwn i wrth fy modd. Mae'r sodlau yn uchel, ond wir maen nhw'n gwneud i dy goesau di edrych yn hir. Mi wnes i eu gwisgo ar ddiwrnod fy mhriodas, nid bo chdi'n gallu gweld achos mi oedd yn ffrog i yn hir, ond mi o'n i yn gwybod mod i'n eu gwisgo nhw. Mi wnes i lwyddo i'w gwisgo nhw o un ar ddeg y bore tan ddau o'r gloch bore wedyn, ond doeddwn i ddim yn gallu cerdded am fis wedyn!
Pam wyt ti'n meddwl fod esgidiau Laboutin mor iconic erbyn hyn?
Wel yn sicr mae'r wadan goch yn stamp nad oes gan neb arall mohono, a phan dwi'n cael rhyw sbec bach o'r coch dwi'n ecseitio drwyddaf, ac yn meddwl 'ohhh Louboutin'. Maen nhw hefyd yn gwneud rhywbeth arbennig iawn i'r goes, a ti'n teimlo'n sbeshial ynddyn nhw. Ma' nhw'n hardd iawn ac mi wyt tithau'n teimlo'n harddach ynddyn nhw mewn ffordd.
Be ydy dyfodol dy esgidiau Laboutins di?
Dwi wedi clywed dy fod di'n gallu gyrru dy 'sgidiau i ffwrdd i rywle lle ma nhw'n paentio'r gwadnau yn ôl yn goch, ond dwi ddim yn meddwl y byddwn i isho gneud hynny oherwydd ma' yna hanas i'r gwadna yma. Mi oedd diwrnod y mhriodas i yn un o ddiwrnoda gora y mywyd i, felly dwi'n meddwl y gwnai adael y sgidiau yma fel ag y ma' nhw.
- CWPWRDD DILLAD