Cwpwrdd Dillad: Lowri Ann Richards
lowri ann richards
lowri ann richards
lowri ann richards
lowri ann richards

Wedi hyfforddi yn Llundain fel actores a chantores mae Lowri Ann ac mae hi wedi actio ar lwyfan yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yn ystod yr 80'au bu'n aelod o'r bandiau pop 'Shock' a 'Tightfit' ac roedd hon yn ddegawd bwysig o ran delwedd a dillad i Lowri. Sut nes di ffeindio dy steil arbennig di?

Lowri: Dwi wedi cael bywyd bendigedig a lot o brofiadau gwych a pan ti'n edrych ar rhai o'r dillad, mae 'na atgofion. O'n i wastad yn licio ffasiwn. Ma' mam yn licio prynu dillad ac efallai mod i wedi dilyn ar ei hôl hi.

ffion jones

Lowri: Pan o'n i'n byw yn South Kensington, o'n i'n mynd i Kensington Market ac oedd na ddillad, antique a nes i ddechre prynu pethe fel cowboy boots a wedyn o'n i'n cloncian i lawr y stryd efo spurs...

Lowri: Nes i wisgo'r flows yma ar gyfer Top of the Pops a dwi heb ei gwisgo hi wedyn. 'Back to the 60's' oedd enw'r casgliad o ganeuon a mi gyrhaeddodd rhif 4 yn y siartiau!

*

Lowri: Dwi'n rili licio hetiau. Dwi'n dal i wisgo lot o hetiau heddiw. Mae gen i un oeddwn yn ei wisgo pan o'n i'n teithio gyda P&O cruises ac mae'r un yma yn het blismon o Rwsia nes i brynu yn St Petersburg.

ffion jones

Nia: Ti'n edrych yn awdurdodol yn yr het o Rwsia!

Lowri: O diolch yn fawr! Ddaru nhw drio fy stopio i fynd drwy customs, ond nes i eu hosgoi nhw a rhedeg ar y llong felly doeddan nhw ddim yn medru fy nilyn wrth fynd dros y gangway. Nain oedd biau hon a nes i ei ffeindio hi yn y ty ffarm oeddan ni'n byw lle gafodd Nain a mam eu geni. Ma hi'n un wreiddiol o'r 1920's. Ac i fod yn onest, dwi byth di gwisgo hi, ond fyswn i'n hoff iawn o wisgo hi i fynd i briodas neu rwbeth.

ffion jones

Nia: A dyma dy wisg briodas?!

Lowri: Ia, sgert fer, siaced a het du a gwyn!

ffion jones

Nia: O le ges di'r wisg oes Fictoria gwreiddiol 'ma?

Lowri: Wel, tra roeddwn yn rhan o'r cwmni Fictoria The Players, nes i wisgo hon yn Efrog Newydd a wedyn hedfan nôl a nath hi jest aros yn fy nghes i! I fod yn onest, be ddigwyddodd oedd bod yr hogyn oedd yn gyfrifol am y gwisgoedd wedi deud wrtha i gan bod y lle ar fin cau, mi oedd o'n gwbod bod yr holl wisgoedd ar fin mynd a roedd o'n gwbod mod i'n ei hoffi. Felly, dyma fo'n deud wrtha i un diwrnod, "rhaid i ti gadw hon" achos o'n i wedi gwisgo gymaint ohoni, a dyna fo, sori, sori Players Theatre. Ond dyna be nath ddigwydd!

ffion jones

Lowri: Dwi di clirio pethau a dwi'n cicio fy hun. Roedd y ffrog yma'n ffantastig. Un Vivienne Westwood oedd hi a wedyn flwyddyn dwytha, a dwn i ddim pam, nes i jest ei gwerthu hi, nes i roi hi mewn i Christies Auction House, a ma hwnna yn le ffantastig i ffeindio pethau hen a darnau gan ddylunwyr byd-eang. Yna, dwi'n cofio gweld hi wedyn ryw chwe mis ar ôl ei gwerthu ar Kate Moss, a dwi'n gwbod mai fy un i oedd hi, achos oedd na ddim llawer o rhain o gwmpas. Ond dyna ni!

ffion jones

Lowri ar ddillad...
Dwi wrth fy modd gyda bling a dwi'n licio pethau lliwgar.


    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25