Cwpwrdd Dillad: Luned Emyr
Luned Emyr
Luned Emyr
Luned Emyr
Luned Emyr

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Cyflwynydd teledu a dramodydd a’i dillad difyr.

Dibynnu ar ei hwyliau wrth godi yn y bore fydd y ferch hon i ddewis pa ddillad fydd yn gweddu, mympwy a nid cynllun syd yn arwain felly...

Luned Emyr

Luned: Dwi’m yn gwybod lot am ffasiwn y foment i ddeud y gwir, felly ryw ddehongli ffasiwn yn fy ffordd fach fy hun ydw i. Pan oeddwn i’n iau ro’n i yn arbrofi lot, a methu yn aml! Oeddwn i’n mynd i Lundain ar dripiau ac yn prynu petha dipyn bach yn ecsentrig, ychydig bach rhy lliwgar, ond erbyn hyn dwi’n meddwl mod i wedi ffendio yn steil i. Ar y foment - mae’n siwr y gwneith o newid eto yn y dyfodol.

Luned Emyr

Dwi’n cofio sbïo ar albyms llunia fy rhieni. Oeddwn i’n licio mynd drwy’r albyms teuluol. Yr albyms cynhara’ oedd rhain, lle oedda nhw yn ifanc ei hunain yn y 60au, a gweld y flares enfawr ‘ma ar fy nhad a mam a meddwl, ‘waw ma’r dillad yma yn eitha cool’. Ond ma na elfen greadigol i brynu dillad dwi’n meddwl. Ffordd ti’n sbïo ar y toriad a’r lliwiau. Mae nhw yn bethau hardd iawn yn aml iawn, felly mae o’n rywbeth personol iawn dwi’n meddwl - y ffordd ti’n gwisgo.

Luned Emyr

Mae cerdded mewn i dy lofft di fel cerdded mewn i oriel gelf hefo’r holl ddillad yma’n hongian! Mae yna gymaint o ffrogiau yma, a printiau a lliwia gwahanol, felly mae o yn wledd i’r llygaid, dydi?

Be am y ffrog yn fana? Ma hi’n amlwg ar gyfer achlysur arbennig.

Ges i wahoddiad i fynd i noson black tie ag oeddwn i erioed wedi bod i noson black tie o’r blaen felly oeddwn i ddim yn gwybod be i wisgo, ges i bach o ddeilema, felly mi es i siopa efo mam i Gaerdydd a ffeindio y ffrog yma yn sydyn - o fewn ryw awr - yn y siop gynta yr es i iddi, a meddwl ‘reit neith hon y tro’! Ac ro’n i reit hapus, achos dwi ddim yn licio mynd i siopa am oriau hefo’i gilydd.

Luned Emyr

Mae rhai o’r ffrogia eraill yma’n fwy o ffrogia bob dydd, anffurfiol dydi? Oes gen ti hoff un?

Mae gen i sawl dilledyn dwi’n licio, mae o’n amrywio hefo’r ffordd dwi’n teimlo. Un diwrnod fyddai’n licio rhyw batrwm penodol ac yn penderfynu gwisgo hwnna. Wrth ddewis dillad, dwi’n defnyddio fy ngreddf, mewn ffordd, pa siapiau a lliwiau sydd yn mynd hefo be’ yn hytrach na be’ sydd yn ffasiynol.

Luned Emyr

Sut fasa ti’n teimlo yn y bora er mwyn gwisgo hon?

Reit chwareus. Ella ‘swn i isho teimlo’n gadarnahol neu’n hapus. Ma’n neud i mi chwerthin, mae’n eitha dros y top, yn dydi?

Luned Emyr

Be am dy ddillad di pan ti’n cyflwyno ar y Sioe Gelf?

Wel am mod i yn cyflwyno, mae’r ddelwedd yn rhan annorfod o’r gwaith. Ond dwi wedi dysgu dros y blynyddoedd i beidio gwisgo pethau sydd yn rhy wahanol a sy’n tynnu gormod o sylw ata fi fy hun achos y gwaith celf a’r cyfranwyr sydd yn bwysig ar ddiwedd y dydd, a nid fi.

Os faswn i’n onast dwi’n flerach adra pan dwi’n sgwennu adra yn y stydi. Na i wisgo dillad di-lun achos does na neb yn gweld, a ga’i ymlacio. Ond na’i wisgo sgidiau dim slipars a dim pyjamas!

Dwi’n cofio Taid, oedd yn sgwennu ei hun, yn deud na fasa fo byth yn gwisgo slipars yn y stydi. Dwi’n meddwl ei fod o’n newid y ffordd ti’n meddwl pan ti’n gwisgo sgidia rhy gyfforddus i weithio, felly sgidia iawn wrth y ddesg!

Ges i honna yn San Francisco ha’ dwytha. Es i yno am wylia hefo ffrind i mi. Wedyn mi aethon ni o fana i LA i weld ‘yn nghefnder i, sy’n gerddor ffilmiau. Wedyn mi wnaeth o’n gwahodd ni i bremiere ffilm oedd o wedi gneud y sgôr ar ei chyfar hi, a dyna’r ffrog wisgais i ar gyfer y noson yna. Rodd hi’n noson hwyliog iawn!

Luned Emyr

Wyt ti’n siopa yn lleol o gwbl?

Yn y siopa ail law byddaf, mae yna siopa ddigon hwylus yma. Un siop rownd y gornel mae o fatha Aladdin’s Cave, yn ofnadwy o flêr a mi fydda i yn mynd i’r atig yna a dod o hyd i beth eitha anarferol. O ran siopa ail law, dwi’n teimlo fod gen ti rai siopa sydd yn rhy ffurfiol rwan. Mae gen ti liwiau penodol mewn adrannau penodol, ma petha mor glir mae o fel siop arferol bron.

Luned Emyr

Lle mae dy ddillad ail-law di?

Mae’r crys-t yna hefo’r sequins yn amlwg o’r 80au efo rhyw badiau ar y ‘sgwyddau. Faswn ni ddim yn wisgo hwnnw yn aml, ond mae dillad yn gallu bod yn eitha’ eironig ac yn dipyn o hwyl, dydi?

Luned Emyr

Be ydy hanes y gwlân yma?

Pan oeddwn i’n fach, o’n i’n gweu rhywfaint, ryw scarffiau. Mi nath nain, mam fy mam, fy nysgu i. Wedyn flwyddyn dwytha, ‘naeth hi fy ail-ddysgu i achos mod i wedi anghofio mewn ffordd. Felly mi wnes i ddechra’ gweu hon llynedd, ond ryw gywaith oedd hi’n diwedd, oeddwn i’n gweu hi hefo’n ffrindiau. Fyswn i’n mynd a hi i rhyw gaffis neu allan achos oedd o’n rwbath o’n i’n mwynhau ei wneud. Wedyn yn y diwedd, o’n i’n dysgu ffrindiau eraill. Felly dyna pam ei fod o’n flêr, achos fod yna gymaint o bobl wedi trio.

Luned Emyr

Mae’r defnydd yma yn hollol unigryw. Pwy sydd gennym ni’n fama... Che Guevara , Bob Marley, Salvador Dali... be ydy hanes hwn?

Weles i’r defnydd yma pan o’n i tua 17 yn byw ym Mangor, a penderfynu mod i yn licio’r defnydd yma lot. Wedyn nes i ofyn i Nain neud top hefo’r defnydd. Tydi o ddim yn ddefnydd sydd ar gyfer dillad nacdi?! Ond fe wnaeth hi y top i mi chwara’ teg a nesh i wisgo fo yn helaeth. O’n i’n meddwl mod i’n ddipyn o foi yn y top yma. Faswn i ddim yn ei wisgo hi ddim mwy, de. Ond dwi’n ei chadw hi achos mae Nain wnaeth hi i mi, mae hynny’n golygu rhywbeth i mi.

O’r blaen doeddwn i ddim yn gwisgo ffrogiau prin byth, i briodasau neu bartïon neu adegau arbennig. Ond fwya’ sydyn dwi’n gwisgo nhw yn amal iawn, yn enwedig yn yr haf pan ma ‘na haul. Dwi’n licio toriad ffrogia, y ffordd ma’ nhw yn gorwadd, ond falla rhan mawr o’r peth ydi mod i yn mynd yn hŷn ac yn addasu oherwydd hynna.

Dwi’n licio’r halterneck a’r ffrogia yma sy’n mynd allan o’r wasg– ei bod nhw’n dynn am y wasg a wedyn yn mynd allan. Ond ffrogia vintage dwi’n hoff iawn ohonyn nhw. Dwi’n meddwl bod nhw’n unigryw, yn aml iawn hefo defnyddia arbennig, a’r ffaith ei bod nhw wedi ei gneud hefo llaw yn aml iawn, ma’ hynny yn braf gwybod, mai ond chdi o bosib sydd hefo’r ffrog yma. Hefyd yr hanas tu ôl i’r dillad, y ffaith fod yna bobl wedi gwisgo’r dillad mewn cyfnod cyn i fi fodoli, ma’ hynny yn rywbeth reit ddifyr.

Luned Emyr

Felly rhyw fath o ail-fywyd iddyn nhw mewn ffordd...

Ydw, dwi’n atgyfodi y darnau ‘ma. Dwi’n cofio prynu cot ail law o siop yn Aber a ffendio ryw fath o gêm yn un o’r pocedi, allan o fatshis. Oedd o’n ddipyn o ddirgelwch, o’n i ddim yn dallt mai gêm oedd o i ddechra.

Luned Emyr

Yn gyffredinol, pa mor bwysig ydy’r dillad, defnyddia a’r holl dddelwedd yn dy fywyd di?

Dwi’n mwynhau dillad, a ma’ dillad yn hwyl ac yn rywbeth i’w fwynhau. Ond dwi’n meddwl ein bod ni’n byw mewn oes sydd yn ofnadwy o faterol, ac yn rhoi lot o bwys ar ddelwedd ac ar dillad, a does dim isho i ni roi gormod o le i ddillad dwi’m yn meddwl.