Cwpwrdd Dillad: Lydia Whitfield
Lydia Whitfield
Lydia Whitfield
Lydia Whitfield
Lydia Whitfield

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Newyddiadurwraig 'glam' o Benarth yw Lydia Whitfield. Mae hi'n ysgrifennu am ffasiwn a cholur ar gyfer y South Wales Echo ac i'r Wales on Sunday. "Rwy’n dod o deulu llawn merched, y ieuengaf o dair chwaer, felly roedd dillad a ffasiwn o nghwmpas i erioed. Mae’n well gen i wisgo lan na gwisgo lawr a dwi’n gwisgo sodlau drwy’r amser. Dwi’n dwli ar ddillad a dwi’n dwli ar ffasiwn."

Lydia Whitfield

Wyt ti wedi bod i sioe ffasiwn?

Dwi wedi bod i sioe ffasiwn Julian MacDonald ryw ddwywaith, dair yn Llundain, pan oeddwn i’n gweithio i’r Wales on Sunday. Noson anhygoel. Roedd pob tocyn yn brin, a dim ond un tocyn oedd gen i, ond doedd dim ots gen i o gwbl i fynd fy hun. Mae yna gymaint o ‘buzz’ o gwmpas y lle ar y noson, o’r aros i fynd mewn i’r ciwio, a phopeth yn rhedeg yn hwyr. Mae o jyst yn ‘spectacular’!

Lydia Whitfield

Beth yw hanes y ffrog hon?

Y ffrog yma wisgais i ar gyfer fy sioe Julien MacDonald cyntaf. Roed Anti Mary yn byw yn Kuala Lumpur ac fe ddanfonodd hi ddarn o ddefnydd draw, ac fe gaeth hon ei gwneud yn lleol i mi. Dwi’n gwybod na fydd gan neb arall ffrog fel hon.

Lydia Whitfield

O ble ddaeth y ffrog yma?

Dwi wedi cwrdd â Trinny a Susannah, doedden nhw ddim yn sêr mawr ar y pryd, ond roeddwn i’n reit nerfus yn eu cwrdd. Doedd dim syniad gen i beth i wisgo! Fe edrychais i am rywbeth newydd, ond fe ddes i’n ôl at hen ffrog o Topshop. Aethon nhw ddim dros ben llestri, ond fe ddywedon nhw, “nice dress” wrtha, ac roedd hynny’n ddigon da i mi!

Lydia Whitfield

Dyma ffrog bendigedig, o le ddaeth hon?

Mae hon yn ffab. Mam welodd hon i mi mewn jymbl sêl ysgol - athrawes oedd hi, ac fe ddaeth hi a hon i mi am gwpwl o bunnoedd. Mae llawer o’n ffrindiau i wedi benthyg hi hefyd, ac mae hi’n cwympo o amgylch y corff yn fendigedig.

Lydia Whitfield

Sut fydde ti’n disgrifio dy steil di?

Does gen i ddim llawer o bethau drud, ond dwi’n hoff o gymysgu pethau hollol ffasiynol gyda hen bethau mam a mam gu. Mae mam yn dipyn o ‘horder’ ac mae hi’n cadw pethau mewn cyflwr da iawn. Mam gu oedd berchen ar hon, dwi wedi gwisgo llawer arni. Mae hi’n debyg iawn i steil Missoni.

Lydia Whitfield

Mae hon yn anghyffredin iawn, o ble y cest di hi?

Fe brynodd mam hon gyda'i siec grant cyntaf pan aeth hi i’r Brifysgol yn Abertawe. Roedd ei chwaer, Anti Pam, mor genfigennus roedd yn rhaid iddi brynu un iddi hi ei hun hefyd! Ond mae mam wedi dweud na fuodd hi erioed mor gyfoethog â’r amser pan gafodd hi ei siec grant cyntaf!

Lydia Whitfield

Beth yw hanes yr het wen yma?

Nain Thomas wnaeth hon. Roedd nain a Anti Kath yn eitha’ enwog ym Mhenarth am eu hetiau a hi wnaeth hon. Tydi hi ddim yn fy siwtio fi cymaint â nain ond mae’n fy nghadw fi’n gynnes.

Lydia Whitfield

Wyt ti’n mynd i gadw’r ddelwedd ‘glam’ yma am byth?

Dwi’n gobeithio. Mi faswn ni’n hoffi bod yn ‘glammy granny’!