Cwpwrdd Dillad: Mags Harries
Mags Harries
Mags Harries
Mags Harries
Mags Harries

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mags: Ni ‘di bod yn briod am ugain mlynedd. Hanner tymor odd hi. O’n i’n dysgu cerdd yn Glantaf bryd ‘ny, a dath yr ysgol i gyd i’r briodas bron! O’ nhw ‘di dod a stands cerddoriaeth! Odd hi’n amser hapus iawn...

Mags Harries

Mags: O’n i ddim yn ffansio Phil ar y dechre - odd gwyneb ffantastig ‘da fe, ond o’ ti tamed bach yn dew. Pity about the body ife!

Phil: Wel, odd ffrindiau i ni, Cliff ac Eirlys, wedi gweud wrtho fi bod menyw yn gweithio yng Nghastell Caerdydd, yn chwarae’r delyn a bydden i’n dod mlân yn dda ‘da hi a ‘na i gyd ‘wedon nhw. Yna fe gwrddes i â Mags am y tro cynta’, ag o’n i’n meddwl ‘Na fenyw ddiddorol’...

Mags: Ond beth ddigwyddodd y nosweth ‘ny - nath y ferch hyn, fi ffili cofio’i henw hi nawr, dwli ar Phil. Doedd dim immediate rapport achos wy’ lawer henach na Phil, ond pryd nath y fenyw hyn neud beeline am Phil , o’n i’n teimlo mor flin amdano fe! Fi’n cofio gweud ‘tho Eirlys, ‘gwed ‘tho’r crwtyn bach ‘na i fod yn ofalus - ma’r fenyw na’n wyllt!’

Mags Harries

Yn amlwg nathoch chi ei achub o grafangau’r ferch yna?

Mags: Heather, wy di cofio’i henw hi, Heather. Fe nath ofyn cant a mil o weithie - a fi’n gweud ‘cer mas ‘da merched oedran dy hunan, gad fi llonydd’ achos odd tri o blant ‘da fi bryd ‘ny. Ac ar ôl mynd trwy doriad priodas ma’ ofn mawr arnoch chi - ond odd Phil just yn bril. Wedyn ar ôl blynydde’, o’n i ar y llwyfan yn perfformio yng Nghaerdydd ac o’n i’n meddwl ‘Oh, ma fe’n foi ffein!’ a feddylies i ‘olreit os ma’r plant yn hapus, na’i rhoi miwn a na i briodi ti.’

Mags Harries

Dudwch wrtha i am y ffrog...

Mags: Wel, odd dim lot fowr o amser ‘da ni – tair wythnos - a odd Phil yn gwitho mewn panto yn y Sherman bryd ‘ny. Roedd un o’r actoresau, Lisa, allan o waith a wedodd hi ‘Mags, I’ll do the clothes for you’ a fi’n credu odd popeth dan ddau gan punt!

Mags Harries

Pam wnaethoch chi benderfynu gwisgo coch?

Mags: Wel, du odd hi’n mynd i fod, ac odd ffrind i fi newydd briodi mewn du, yn Hamburg. Es i mas i’r briodas - ond bwdodd y merched a gweud nag o’n i’n cal gwisgo du. Dwli ar rygbi, coch odd yn naturiol, so coch o’dd hi!

Phil: O’n ni di cal y cravats yn y bore, so odd rhyw syniad ‘da fi fod yna goch yn mynd i fod yn rhywle. Ond pan gerddodd hi i mewn o’n i’n teimlo’n hapus iawn. Ges i ddim sioc – odd e’n ddileit a dweud y gwir, achos coch oedd fy hoff liw – a dath hi i mewn yn goch ac yn edrych yn bictiwr ma’n rhaid dweud.

Mags Harries

Ydy hi’n rhyfedd neu’n braf cael gweld y ffrog yma, fel hyn yn ei gogoniant unwaith eto?

Mags: Odi - wy’n falch mod i wedi ffindo fe cofia – odd hi yn y coffor o dan hen flancedi.

Phil: Wy heb weld hi am ugain mlynedd, o’n i ‘di anghofio mor neis odd e’n edrych a gweud y gwir. Mae’n edrych fel ffrog y bydde Princess Grace yn gwisgo fi’n credu.

Mags: O diar – so fe’n arfer bod mor felys!

Phil: Charming!