



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Y 70au oedd blynyddoedd plentyndod y perfformiwr Marc Rees ac mae profiadau’r ddegawd honno wedi dylanwadu ar ei gymeriad, ei gartref a’i gwpwrdd dillad.
Nia: Pryd faset ti’n dweud fod y berthynas arbennig yma a dillad wedi dechrau i ti?
Marc: Wel odd perthynas arbennig gyda fi pan o’n i’n fachgen ifanc. Dwi’n cofio bod eisiau mynegi fy hunan drwy wisgo lan a fi’n cofio gwisgo lan fel Dennis Rousseau neu Kate Bush a gwneud gwahanol eitemau o flaen fy rhieni neu y teulu agos ac odd hynny’n ymddangos yn fy nillad bob dydd wedyn.
Nia: Felly ma’ perfformio wastad wedi bod yn dy waed di felly?
Marc: Odi, ma’ wedi wastod. Wy wastad wedi defnyddio dillad drwy wisg arbennig neu greu dillad arbennig ar gyfer perfformio.
Nia: Ma’ lot o dy waith perfformio di yn hunangofiannol ei naws tydi. Ydi hynny’n wir am y dillad hefyd?
Marc: Odi, oherwydd ma fy ngwaith i’n cael ei ysbrydoli gan y filltir sgwâr a’m milltir sgwâr yw Cwm Tawe. Dwi wastod yn mynd nôl i dy fy rhieni yno a wy’n chwilmentan trwy’r cypyrddau neu drwy’r atig a wy dal yn darganfod dilledyn er yn blentyn neu ryw siwt arbennig o’r 70au a wedyn ma’ hwnna’n ysbrydoli syniadau gwaith corfforol a dwi’n creu hynny fewn i waith celf newydd.
Nia: Tydi hynny ddim yn rhoi ti mewn sefyllfa agored iawn wedyn, gan dy fod ti yn dweud y gwir drwy dy ddillad?
Marc: Wel, odi ond y peth ydi mae’n holl waith i wneud â hunaniaeth bersonol, wel hunaniaeth rywiol, felly ma’ hwnna’n ymddangos trwy wisgo dillad neu ddadwisgo dillad oherwydd ma’ lot o’r gwaith dwi’n ei wneud yn noeth neu phan yn gwisgo dim ond pâr o bans.
Marc: Mae fy nghwpwrdd dillad yn fychan iawn ac fe’i cedwir yn yr ystafell sbar. Does dim lot o ddillad yn y cwpwrdd ond y peth cyntaf hoffwn i ddangos yw pâr o bans pan o’n i’n 8 oed. Wy ddim yn credu eu bod yn ffitio erbyn hyn felly nai ddim eu trio mlaen. Ond, ma’ 'na stori arbennig yn gysylltiedig a’r rhain. Wy’n cofio o’n i tua 8oed ac o’n i’n cael gwers PE ac odd y genod yn newid fewn i nicers a’u festiau so nes i feddwl bod angen i mi wneud yr un peth ac mi wnes i ddadwisgo at fy mhans. Ac wrth gwrs, nath pawb ddechre chwerthin ac odd fy athrawes yn 'hysterical’. Beth nath hi wedyn odd 'paradio’ fi yn fy mhans o gwmpas yr ysgol i gyd a hefyd dros y buarth a fewn i ddosbarthiadau o flaen pawb. Wrth gwrs, odd hynny’n brofiad trawmatig dros ben a fi’n credu dynna’r rheswm pam dwi’n treulio gymaint o fy amser perfformio yn fy mhans neu dim pans ac yn noeth.
Marc: Ma’ lot o bethau yn fy nghwpwrdd dillad sy’n gysylltiedig â’m plentyndod. Pan o’n in fach, odd tueddiad gyda fi gael gwallt cwrlog a phan ddechreuodd y gwallt a’r cwrls dyfu, o’n i’n dueddol o banicio felly o’n i’n arfer gwisgo balaclafa yn y nos yn y gwely i drio stopio’r cwrls oherwydd mod i’n ofnus eu bod nhw’n rhy ferchetaidd!
Marc: Hefyd, ma na ddilledyn arall sy’n gysylltiedig â’m plentyndod yn y cwpwrdd. Wy’n cofio mynd i Road Race Cwm Tawe ym 1982, felly er mwyn profi fy 'masculinity’ nes i ymarfer fy mherfformiad bob nos ac yn y diwedd nes i ennill y Road Race a dyma’r wisg nes i wisgo. Fel ti’n gweld ma’ nhw dal yn ffitio…bron!
Nia: Dwi'n cymryd dy fod ti'n gwisgo ffrog yn aml i wneud dy waith di?!
Marc: Wel na, dim bob tro, ma’ 'na stori tu ôl i’r wisg arbennig yma. Tua dechrau’r 90au nes i sioe o’r enw 'Iddo Ef’ oedd yn seiliedig ar waith Ann Griffiths felly dyma’r wisg ges i wedi’i chreu yn arbennig i mi ar gyfer y sioe honno. A ma’ 'na stori tu ôl i’r ysbrydoliaeth ar gyfer y wisg – wy’n cofio gwylio seremoni wobrwyo’r BAFTA ac odd Nia Ceidiog yn gwisgo ffrog debyg i hon a’r siâp yma er mwyn dangos ei mysls hi felly dyna oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl creu’r wisg yma. A mae’n dal i ffitio!
Nia: Dwi'n cymryd bod yna arwyddocad i'r got yma?
Marc: Oes, ma’ 'na swn arbennig i’r lledr yma pan ti’n symud ynddi. Felly’r swn yma nath sbarduno’r gwaith corfforol a’r ffordd nes i ddatblygu’r perfformiad. Nes i’r perfformiad yn noeth, nes i wisgo’r siaced yma dros fy mhen fel bod yr holl beth yn cymryd rhan o dan y siaced. Odd yr holl berfformiad yn ceisio adlewyrchu beth sy’n digwydd gyda’r croen wrth iddo heneiddio a falle’r obsesiwn sydd gennym o drio cadw’n croen a’n cyrff yn iach ac yn edrych yn ifanc.
Marc: Yn yr 80au, es i Goleg Celf yn Brighton a meddyliais i ei fod yn syniad gret ar y pryd i greu gwisg ar gyfer fy niwrnod cyntaf i yn y coleg celf, ond cofia odd e yn yr 80au. Dyma’r top wedi’i wneud o ddefnydd 'towelling’, erchyll tydi?
Nia: Ydi, mae o!
Marc: A ma’ 'na drowsus yr un peth! A choelia fi neu beidio wisges i’r top a’r trowsus a wedyn wisges i fwts Dr Martens a siaced lledr motobeic ar y top ac o’n i’n meddwl o’n i’n gret. Wedi’r diwrnod hwnnw, roedd pawb yn fy ngalw y 'little Welsh boy’!
Nia: Un peth sydd yn fy nharo i ydi faint wyt ti wir yn mwynhau dy ddillad di dwyt?
Marc: Ydw. Fel ti di ffeindio mas, ma dillad yn bwysig yn fy ngwaith perfformio yn ogystal â’r dillad dwi’n eu gwisgo bob dydd.
Nia: Sut fyset ti’n crisialu dy berthynas di gyda dy gwpwrdd di?
Marc: Wel, fel ti 'di darganfod ma’r cwpwrdd dillad yn bwysig dros ben oherwydd ma’n tyfu allan fewn i’m mywyd gwaith i, fy ngwaith creadigol i, felly mae’n hynod, hynod o bwysig i mi.
- Bob nos Fercher 20:25