Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Margaret Williams
Margaret Williams
Margaret Williams
Margaret Williams
Margaret Williams

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Margaret Williams yn gantores sydd â thrysorau amryliw yn ei chwpwrdd.

Margaret Williams

Ydych chi'n mwynhau gwisgo colur a dillad arbennig ar gyfer perfformio?

Ma' pobl yn disgwyl eich gweld chi'n edrych yn iawn. Pan wyt ti wrthi'n gwneud dy hun yn barod, yn rhoi colur ymlaen a gwneud dy wallt, ma' 'na berson gwahanol mewn ffordd yn dod allan ag yn mynd ar y llwyfan.

Margaret Williams

Pan ma' rhywun yn clywed yr enw Margaret Williams ma' nhw'n dueddol o feddwl am rywun 'glamorous' a dydych chi ddim wedi fy siomi fi Margaret.

Ti ofynnodd i mi wisgo rhywbeth dwi wedi ei wisgo i ganu Nia, neu faswn i ddim mewn rhywbeth fel hyn! Dwi'n licio gwisgo pethau hollol anffurfiol pan dwi ddim yn perfformio. Trowsus a siaced ddu a dwi'n hapus iawn. Mi ges i'r siwt wen yma ar gyfer Noson Lawen ryw dro a mi nes i'w gwisgo hi wedyn ar gyfer rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol ryw flwyddyn a hanner go dda yn ôl. Dwi'n licio'r math o ddillad ti'n medru eu gwisgo fwy nag unwaith.

Margaret Williams

Ma'r top gwyrdd yma'n anhygoel. O ba gyfnod mae o?

Ma' hwn o ganol y 60au. Summer season cynta' erioed i mi wneud. Mi o'n i'n Bournemouth hefo Cyril Fletcher, oedd yn enwog iawn ar y pryd, mi fuo wedyn hefo Esther Ranson ar raglen 'That's Life' am flynyddoedd. Mi oedd yna showbiz ball ar ddiwedd tymor yr haf ac roedd pawb oedd yn ffiniau Bournemouth ac yn Bournemouth ei hun yn mynd i'r ddawns. Dwi'n cofio mi oedd Frankie Vaughan, Jimmy Tarbuck, y Beverly sisters - llwyth o bobl yn mynd - felly roedd angen siwt newydd a mi brynais i hon. Mi o'n i am ei gwisgo hi hefo sgert hir werdd tebyg. Ond, pan ddoth y noson mi feddyliais i ei bod hi'n hen ffasiwn ac yn rhywbeth y bydda' mam yn ei gwisgo. Felly mi es i brynu ffrog fach mini blaen, shift ddu, dim llawes a pholo neck hollol blaen ac mi oedd hi'n edrych yn neis. Ond, ma'r ffrog wedi mynd a dwi wedi cadw'r top yma oherwydd yr achlysur. Mi oedd y top yn lot drytach na'r ffrog arall, ond dwi 'rioed wedi ei wisgo fo!

Margaret Williams

Ma' gennych chi ddwy siwt goch yma. O le gawsoch chi'r un gynta' yma sy'n un reit fitted?

Yn y 70au ges i hon. Mi fydda yna siop yn yr arcade yng Nghaerdydd o'r enw Hobby a oedd yn gwerthu dillad drud. Doeddwn i ond yn mynd yno weithiau, ac mi ges i hon yna ar gyfer clawr un o'r recordiau nes i yn y 70au. Mi o'n i'n ei gwisgo hi hefo Lurex polo arian. Ma' hi'n gul ofnadwy a dydy hi ddim wedi bod yn agos amdana'i ers blynyddoedd bellach.

Margaret Williams

Be am y siwt goch arall sydd gennych chi, ma' hon yn ysgafnach yn dydy?

Ma'r siwt goch yma gan Osi Clark. Mi o'n i'n mynd o gwmpas mewn sioe gerdd o'r enw Rose Marie, ag mi o'n i'n actio rhan Rose Marie. Mi oedden ni'n teithio ar hyd Prydain gyfan a mi brinish i hon jyst cyn mynd i'r Grand Theatre yn Leeds.

Margaret Williams

Ma' hon yn siwt sydd wedi cael ei gwneud ar gyfer y llwyfan hefo'r sequins yma i gyd.

Yn yr 80au mi o'n i'n cyflwyno Steddfod Llangollen ar y llwyfan. Mi o'n i'n mynd yn syth o'r Steddfod, tridiau yno i Lundain a hedfan i Norwy i ganu ar un o'r llongau. Fel o'n i'n mynd mewn i'r gwesty yn Llangollen, pwy oedd yn sefyll yna yn ymyl y ddesg ond Hywel D Roberts a'i wraig, Mrs Roberts ag mi oedd o wedi dychryn gweld y siwt yma, y sequins Bernshaw, a dyma fo'n dweud, 'Da chi'n mynd i wisgo honna i gyflwyno yn Llangollen?'. Mi o'n i'n cyflwyno yn un o'r cyngherddau nos ond nesh i ddim ei gwisgo hi. Taswn i'n canu 'falla y baswn i wedi ei gwisgo hi, ond i gyflwyno, fel deudodd o, 'mi fasa nhw'n eich gweld chi o bell"

Margaret Williams

Beth sydd gennych chi'n ddillad o'r 1990au?

Dwi'n cofio canu cân 'My Hero' allan o'r sioe gerdd Chocolate Soldier hefo Côr Orpheus Treforys yn y stiwdio a mi nes i wisgo'r ffrog ddu a choch yma. Dwi'n cofio gwisgo'r un werdd yn Llandudno pan o'n i'n recordio yno hefo Côr Meibion Rhos ac mi oedden ni'n canu un o ganeuon Andrew Lloyd Webber. Yn rhyfedd iawn ma'r caneuon yn dod yn ôl i mi yn ogystal â phobol wrth hel atgofion sy'n beth neis iawn.

Margaret Williams

Mae'r ffrog ddu yma gyda'r blodau arni yn edrych yn un arbennig iawn, at ba achlysur gawsoch chi hon?

Mi wnes i gyngerdd i S4C i ddathlu 40 mlynedd yn y gwaith yn Theatr Gogledd Cymru ryw bedair pum mlynedd yn ôl, Venue Cymru ydi o erbyn hyn wrth gwrs. Mi ges i'r ffrog ddu yma ar gyfer y noson. Belleville Sassoon ydi hi a ma' gen i nifer o'r ffrogiau gan yr un cynllunydd. Ma' yna ambell i gynllunydd fedra'i ddim gwisgo eu dillad nhw hyd yn oed os ydy'r maint yn iawn, dydyn nhw ddim yn gweddu achos fod y toriad yn fach neu'n fawr, ond ma' Belleville Sassoon yn ffitio i'r dim.

Margaret Williams

Mae'r sgert ddu yma yn edrych yn un ddefnyddiol iawn. Pryd gawsoch chi hon?

Ma' hon yn ryw sgert ro'n i'n wisgo mewn cyfresi ac ma hi'n handi achos mi o'n i'n gallu gwisgo siacedi gwahanol hefo hi. Ma' yna rywbeth reit flirty o'i chwmpas hi. Dwi'n cofio mynd â hi hefo fi ar un o'r llongau, ag un noson doeddwn i ddim yn canu ac ro'n i wedi mynd mewn i'r neuadd i weld y criw oedd wrthi'n perfformio. Mi o'n i wedi cerdded drwy'r neuadd ac i'r pen draw ac fel o'n i'n cyrraedd y llwyfan dyma rywun ata'i i gael llofnod. Felly mi rois i'n llofnod, a tra o'n i wrthi yn gwneud hyn mi ddoth yna ddynas arall a thapio fi ar fy ysgwydd a medda hi, "Excuse me Margaret but your skirt is inside your knickers". Ro'n i wedi cerdded drwy'r neuadd ac mi oedd yn fy sgert i mewn yn fy nheits i. O! Mi fuo jyst i mi a marw o gywilydd!

Margaret Williams

Be ydy eich hoff wisg chi?

Na'i ddim gwisgo rhywbeth dwi'n deimlo mod i ddim yn hapus ynddo fo. Ella eu bod nhw ddim yn ffasiynol ac ella bod rhywun arall ddim yn licio nhw, ond mae'n rhaid i mi fod yn hapus achos mae o'n dipyn o beth i fynd ar lwyfan heb son am deimlo'n anghyfforddus hefyd. Ond, a dweud yn onest, o'r holl ddillad sydd gen i, fedrai ddim deud mod i wrth fy modd hefo nhw. I mi mae dillad yn golygu mod i un ai yn edrych yn dew neu yn edrych yn denau - ma'r cwpwrdd yn llawn o un neu'r llall. Ma gen i un siwt dwi'n ei licio'n fawr iawn, sef un ddu ac arian Escada. Mi brynais i hi ar gyfer BAFTA ro'n i'n gyflwyno flwyddyn ddwy yn ôl a gwisgo hi wedyn wneud ar raglen Leslie Wynne, dwi'n ei licio hi'n arw.

Margaret Williams

Fyddwch chi'n parhau i brynu sequins yn y dyfodol?

Wel, ma sequins yn dechra' dod yn ôl rŵan. Ma nhw'n deud fod ysgwyddau mawr yn dod yn ôl hefyd, dwi reit hapus hefo hynna. Dwi'n mwynhau perfformio, felly tra dwi'n perfformio mi fydd yn rhaid cael y dillad perfformio.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales