Cwpwrdd Dillad: Margaret Noakes
Margaret Noakes
Margaret Noakes
Margaret Noakes
Margaret Noakes

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

O’r saithdegau hyd y dim degau, mae gan Margaret Noakes ddau gwpwrdd sy’n llawn o ddillad yn cynrychioli bob cyfnod, ac maen nhw’n ei hatgoffa o ddigwyddiadau difyr iawn yn ei bywyd.

Margaret Noakes

Y ffrog yma wisges i fynd i Highgrove gyda Tudor. Oedd Tudor yn gweithio gyda’r Prince’s Trust ar y pryd, a dwi’n cofio mynd rownd y cefn, ac roedd Camellia’s lan ar y wal, ac wrth gwrs oeddwn i wedi bod yn siarad ‘byty Camilla yn doeddwn i? A dyma fi’n deud ‘Yn dydi’r Camillas ‘na i gyd yn neis fan ‘na?’ Peth gwael i ddeud! Mae hon yn neis, Jonah yw hon a chi’n medru golchi'r rhain a jyst hongian nhw ar y lein ac maen nhw jyst yn sychu heb smwddio na dim byd.

Margaret Noakes

Gwisgais i hon i fynd i’r Garden Party yn Buckingham Palace. Tywysog Charles yn dod lawr i siarad ‘da ni, a ma’ fe’n deud ‘Well, you’ve got the right clothes on today’. Oeddwn i’n meddwl ‘O mae fe siŵr yn meddwl mod i’n reit smart’. Ond flat shot, roedd ei fam o’n gwisgo melyn hefyd!

Margaret Noakes

Dwi’n hoffi hon yn fawr achos mae hwn eto yn gyfforddus, ond oeddwn i’n hoffi’r lliw ac roeddwn i eisiau edrych yn neis i briodas Helen, fy merch. Ac roedd hwnna’n ddiwrnod go emosiynol, rili. Dwi’n mynd i llefen nawr yn meddwl amdano fe. Felly na’i gadw honna am byth. Fydd honna’n mynd gyda fi.

Margaret Noakes

Ond mae 'na rywbeth sentimental iawn am y dillad mae Margaret wedi eu cadw. Y ffrog goch wisgodd hi ar ei phen-blwydd yn chwedeg oed, a’r got felen ym mhriodas ei mab, Peter. Ac yna dillad digwyddiadau eglwysig pwysig.

Margaret Noakes

Oedd mam Tudor a George dros ei nawdeg ac amser gath e ei wneud yn Archesgob Cymru, roedd rhaid iddi fynd lawr i Dyddewi felly mae’r got yna yn bwysig.

Margaret Noakes

Dwi wedi sylweddoli mai dylanwad fy mam rili yw’r dillad. Roedd hi’n hoff iawn ohonyn nhw ac fel plentyn dwi’n cofio hi’n cynllunio ffasiynau a phatrymau yn wahanol i bethe oedd rhywun yn medru eu prynu yn y siop. Dwi’n cofio siwt fach tartan wnaeth hi i mi, gyda het Tam O’Shanter i fynd gyda fe. Oeddwn i’n teimlo mor arbennig yn y siwt, ac yn teimlo’n falch i fod mor unigol.

Margaret Noakes

Oeddwn i’n meddwl fod mam yn smart. Wrth gwrs, fuodd hi farw’n ifanc, ac achos hynny'r cof sydd gennyf i ohoni yw'r lluniau. Oedd hi’n gwisgo dillad anarferol, i fod yn onest. Achos dwi’n cofio pan o’n i’n blentyn oedd y plant eraill yn tynnu’n goes i achos oedd mam wastad yn gwisgo hetiau gyda phluen hir ynddo fe, ond oeddwn i’n falch bod hi yn wahanol.

Yn hoffter i o gotiau llac, cotiau a ffỳr arnyn nhw, neu adio ffỳr i’r wisg, ffrogiau a phatrymau anarferol, hetiau cloche mae hwn yn amlwg wrth edrych ar y darluniau yma.

Os ydych chi’n edrych, mae shoes fy mam dyma rai sydd yr un peth i be oedd mam yn gwisgo.

Margaret Noakes

Da chi’n amlwg yn licio dipyn bach o sparc yn dydach? Ac mae 'na dipyn o bethe efo’r un math o steil yn does?

Dwi wedi cael llawer o lawdriniaeth ar fy nhraed, ac ambell waith os y fi’n gwisgo shoes sydd yn gaeedig, maen nhw’n anghyfforddus oni bai bod rhaid eu gwisgo i fynd i rywle sbesial...

Margaret Noakes

Ac mae'r rhain yn Jimmy Choo....ond dwi’n sylwi fod gwaelodion yn edrych fel bod nhw erioed, erioed wedi cael eu gwisgo, ydych chi ddim wedi eu gwisgo nhw eto?

Dim ond wedi gwisgo nhw yn y tŷ. Roedd y rhain yn saith punt, oedd y rheina’n ddrud ofnadwy, wrth gwrs maen nhw’n fwy cyfforddus i wisgo'r rhain tu allan nag i wisgo'r rheina tu allan. Ond mae’n neis cael y shoes.

Margaret Noakes

Frog Zandra Rhodes. Oeddech chi’n ffan enfawr o’i gwaith hi oeddech?

Oeddwn i’n hoffi ei chynlluniau hi i gyd, ac mae llawer ffrog gennyf i ond mae hon yn ffefryn. Roeddwn i’n arfer ei gwisgo hi efo hon rownd fy ngwddf. Neu oeddwn i’n arfer rhoi hwn rown fy mhen ac edrych fel Zandra Rhodes! Ond oeddwn, roeddwn i’n hoffi hon ac mae hi’n soft neis. Wisgais i hon yn y nos ym mhriodas fy merch. Oeddwn i’n teimlo’n reit sbesial.

Margaret Noakes

Kanga yw hwn. Oedd hi’n ddynes roedd yn dod o Awstralia. Wnaeth hi’n dda rili, oedd hi’n neud siwtiau bach, oedd hi’n gwybod dillad hefyd a dwi’n gwisgo hon o hyd ac mae hi’n hen, ond dwi’n ei hoffi hi.

Margaret Noakes

A da chi’n amlwg yn edrych ar ôl eich dillad yn dydach?

Ydw, yn rhy dda. Achos dwi’n dweud wrth Tudor ambell waith. ‘Beth ydw i’n mynd i wisgo heno, ac mae fe’n dweud ‘Beth?’. Ac wrth gwrs, y dewis sydd yn anodd.

Margaret Noakes

Sa’ chi’n dweud bod eich steil chI wedi newid erbyn hyn, ydi’r dillad ‘da chi’n prynu yn wahanol iawn?

O ydi mai’n steil i wedi newid lot. Wy’n teimlo rili, rwy’n gwisgo pethe sydd yn fwy cymeradwy gyda’r gymdeithas wy’n cymysgu yn. A falle achos fi’n mynd yn dewach ac yn dewach mae’n rhaid cael dillad sy’n cuddio fi. Wy’n hoffi dillad sy’n gyfforddus nawr. Amser o’n i’n ifanc, oeddwn i’n medru gwisgo pethau mwy tynn, ond nawr fi’n hoffi pethe sy’n gyfforddus amdana i.