Cwpwrdd Dillad: Margaret Hughes
Margaret Hughes
Margaret Hughes
Margaret Hughes
Margaret Hughes

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Yma cawn fwrw golwg yn ôl ar hanes bywyd Margaret drwy ei dillad. Drwy ei chyfnod fel merch ifanc yn Llandysul, i fod yn fam, yn athrawes ysgol yn Llanboidy a chyn-lywydd Merched y Wawr, cawn ddarganfod sut mae ei dillad chwaethus yn adlewyrchu'r cyfnodau gwahanol hyn yn ei bywyd.

Margaret Hughes

Beth sy’n eich denu chi at ddillad?

Dwi’n hoffi smotiau ers pan o’n i’n groten fach. Smotiau a streipiau. Ond mae’r rhan fwya’ o fy nillad i’n ddu a gwyn!


Margaret Hughes

Pam fod gennych chi ddwy ffrog mor debyg i’w gilydd?

Ma’r ffrog sydd yn y cwpwrdd yn un dwi wedi ei phrynu eleni ar gyfer priodas ac felly dwi heb ei gwisgo hi eto. Ond mae honno a’r un dwi yn ei gwisgo nawr yn fy atgoffa i o’r ffrog wisges i pan o’n i’n priodi ac yn gadael Stesion Caerfyrddin i fynd ar fy mis mêl bythgofiadwy yn Falmouth. Dyma fy hoff ffrog ymysg fy nillad i gyd, siŵr o fod, ac yn y saithdegau a’r wythdegau roedd Gina Fratini yn enw eithaf cyfarwydd. Hon yw fy ngwisg Gymreig i mewn ffordd. Mae’n edrych fel rhywbeth traddodiadol Cymreig wedi ei wneud o wlân ffein.

Margaret Hughes

Ydych chi’n sentimental am eich dillad?

Ydw, dwi’n dueddol o gadw pethau. Mae gen i focseidi o hen ddillad. Mi ddylwn i gael gwared ohonyn nhw dwi’n siŵr. Ond fel mae dyn sy’n boddi yn cael fflachiadau o’i fywyd o’i flaen yn y dŵr, dwi’n cael fflachiadau o 'mywyd i drwy hen focsys!

Dwi’n cofio bod yn blentyn ysgol yn Llandysul ac yn cerdded adre o’r ysgol gyda’m ffrind, Siân ac fe weles i’r ffrog binc yma yn ffenest siop Mrs Jones. Mi ddwedes i, “ma’ rhaid i mi gael honna. Dyna’n ffrog i”! Ond o’n i newydd gael ffrog newydd o David Morgan ag roedd Mam yn gwrthod gadel i mi gael un arall. Ond roedd dad-cu yn hen sofftyn, ac fe ges i’r arian ganddo fo i’w phrynu hi a chael pleser mawr o wisgo’r ddwy.

Yna, fe es i’r Brifysgol yng Nghaerdydd ac agor cyfrif gyda Wallis a thalu £5 y mis fel mod i’n gallu prynu ffrogiau a siwtia bach. Erbyn diwedd y chwedegau ar ôl gorffen yn y Brifysgol ro’n i’n feichiog a do’dd dim dillad ‘da fi, mond trwseri a sloppy sweaters.

Margaret Hughes

Oes yna rai dillad sy’n dod ag atgofion arbennig i chi?

Pan ‘da chi’n gweld dillad ma’ nhw’n dod â phopeth nôl i chi. Pan es i nôl i weithio, ro’n i wedi dechrau gwneud dillad fy hun ac yn prynu’r defnydd o siop yng Nghaerfyrddin. Erbyn hyn mae’r steil a’r patryma’ hynny’n ôl mewn ffasiwn! Dwi’n cofio symud i Hendy-gwyn ar Daf yn y saithdegau ac roedd o’n gyfnod o wneud ffrindiau newydd ac o ddawnsfeydd a chiniawa ac roedd pawb yn gwisgo maxis. Pan es i nôl i ddysgu’n llawn amser, roedd gen i fwy o arian ac fe nes i ffeindio siop fach yng Nghaerfyrddin yr o’n i wrth fy modd hefo, a dwi’n ofni fy mod i wedi gwario fy arian i gyd yn y siop honno!

Margaret Hughes

Sut mae eich steil wedi newid dros y blynyddoedd?

Dwi’n dueddol i brynu’r un siâp dillad nawr ag o’n i pan o’n i’n prynu dillad 'slawer dydd, achos dyna be' dwi’n ei hoffi. Mae gen i ffrog o’n i’n wisgo pan o’n i’n ddeunaw a ffrog o’n i’n ei wisgo pan o’n i’n Lywydd Cenedlaethol Merched y Wawr ac mae’r ddwy'r un siâp!

Margaret Hughes

Oes gan ddillad le arbennig yn eich bywyd?

Pan ydych chi’n gweld dilledyn, dwi’n credu eich bod chi’n gweld eich hunan yn ei wisgo mewn rhyw achlysur arbennig. Dwi’n credu falle y dylwn i wedi bod yn actores, ond nath ‘na neb ddarganfod fy nhalent i. I ddod rownd hynny, dwi wastad wedi gwisgo lan. Os o’n i’n teimlo mod i’n edrych y rhan o’n i’n teimlo’n fwy hyderus!