Cwpwrdd Dillad: Mari Ellis
Mari Ellis
Mari Ellis
Mari Ellis
Mari Ellis

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae'r awdures a'r genedlaetholwraig Mari Ellis yn byw yn Aberystwyth. Fe briododd ei gŵr Tom Ellis yn 1949 a hithau'n 35 mlwydd oed. Mae ei chwpwrdd dillad yn llawn atgofion o'i bywyd gyda Tom ac yn atsain oes a fu...

Mari Ellis

Oes na un cyfnod pam rydych yn sbio'n ol gyda atgofion braf ohonyn nhw?

Fyswn i'n ddweud yn ystod diwedd y pumdegau a dechrau'r chwedegau, roeddech chi'n gallu gwisgo dillad fel 'sa chi'n galw'n 'feminine'. Oedden nhw'n dillad o doriad da ac yn betha tlws iawn. Dwi di cadw rhai o'n ffrogia o'r cyfnod yna oherwydd eu bod nhw'n bethau mor tlws, dwi'n gwybod ddown nhw byth yn ol i ffasiwn wrth gwrs ond fedrwn ni ddim meddwl am ei taflu nhw.

Mari Ellis

Pam aethoch chi am ffrog briodas las yn lle'r ffrog wen draddodiadol?

Wel, oeddwn i'n teimlo braidd yn hen a fel fyswn i'n edrych yn 'mutton dressed as lamb' taswn i wedi gwisgo ffrog wen. Ac hefyd, fyswn i ddi wedi cael llawer o iws i ffrog wen wedyn ond efo hon wedi cael tynnu'r train oedd arni hi bryd hynny, o'n ni'n medru ei gwiso i fynd i giniawa neu i rhyw achlysuron arbennig pan oedd fy ngwr i'n wr gwadd i wahanol gymdeithasau felly.

Mari Ellis

A be am pan briododd eich chwaer chi wedyn?

Ie, nath mam wneud ei ffrog briodas hi, satin gwyn 1937 oedd y briodas honno. Fuodd hi am ryw bythefnos yn gwneud y ffrog, yr unig beth gaeth ei wneud yn broffesiynol oedd y botymau, achos roedd na tua 30 ohonyn nhw reit i lawr y cefn.

Mari Ellis

Mari ar ffrog go arbennig...

Mi brynais i hon bryd ddaeth y frenhines i Aberystwyth agor rhyw estyniad o'r llyfrgell. Roedd Tom yn gadeirydd rhyw bwyllgor neu gilydd ac felly roedden ni 'n cyflwyno iddi felly oedd rhaid cael dillad toedd? Buon ni yn Yr Amwythig am ddiwrnod cyfa' yn mynd rownd y siopau ac yn gweld dim byd ac wedyn dod yn i Aberystwyth a mynd i Siop Alison Coates a daeth honno a'r ffrog yma allan. Roedd hi'n ffitio i'r dim, ac roedd yr het yn mynd hefo hi. Roeddwn i'n teimlo wedyn fod hon yn rhywbeth hanesyddol y dyliwn i gadw, ond dwn i ddim be ddaw ohonyn nhw wedi fy amser i te.

Mari Ellis

Mari ar ddillad ei gwr...

Dyma gôt bach fyn ngwr i pan oedd o'n blentyn, roedd ei fam o wedi ei gadw. Dwi'n cadw pob peth sydd a wnelo fo â Tom rwan wrth gwrs, ers i mi ei golli o, achos roedd o'n golygu cymaint i mi.

Mari Ellis

Mari ar ei hedrychiad...

Fyddai'n licio teimlo mod i'n weddus ac fod fy ngwallt i'n dwt, a fyddai bob amser yn gwisgo het oni bai fod hi'n ganol haf poeth achos mae top fy mhen i'n oer. Dwi'n gweld pobl rwan yma ac maen nhw'n meddwl fod nhw wedi gwneud eu gwalltiau mae'n debyg ond mae golwg ofnadwy ar lawer iawn o ferched, a'i lluniau nhw yn y papur a'u gwalltiau nhw pob man.Mae o nid yn fy mrifo fi ond yn fy phoeni i bod cymdeithas wedi gadael i'w hun fynd felly.