



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Mari Emlyn yn actores a nofelydd sy'n ffafrio delwedd tawel.
Oes gen ti ddiddordeb mewn ffasiwn?
Dwi'n mwynhau dillad ma'n rhaid i mi ddeud a dwi'n mwynhau sbïo ar be' ma' pobol eraill yn wisgo. Dwi'n mynd ar ôl be dwi'n teimlo'n braf ynddo fo, ag os ydw i'n teimlo'n braf yn fy nillad yna dwi'n teimlo fod hynny'n rhoi hwb i mi wedyn wynebu'r diwrnod neu beth bynnag sydd o 'mlaen i. Dwi ddim yn gwisgo lot o liwia' cry' na dillad hefo lot o batrwm neu flodau, ma' bob dim yn tueddu i fod yn blaen, ma' 'na lot o ddu a llwyd ag yn yr ha' dwi'n gwisgo dipyn o wyn a rhyw liw tywod.
Pam y lliwia niwtral tawel 'ma?
Dwi'm yn siŵr yn iawn. Ma' gin i ofn weithia pan dwi'n mynd allan o fod yn overdressed. Ma gen i ofn cerdded mewn i rywla a mod i wedi gwisgo mewn rhywbeth hollol anaddas ag yn wahanol i bawb arall. Felly ma' 'na ran ohona fi'n trio gwisgo dillad tawel heb dynnu gormod o sylw. Falla' fod hynny'n esbonio pam fod yng nghwpwrdd i'n llawn o ddillad sydd byth yn cael eu gwisgo!
Dwyt ti ddim felly'n gwisgo i dynu sylw ata' ti dy hun?
'Sa well gin i i rywun ddeud os dwi 'di bod i rwla, "O, yn doedd Mari Emlyn yn edrych yn flêr heno" yn hytrach na'i bod nhw'n deud, "O, weloch chi sioe oedd dillad Mari Emlyn". 'Sa well gin i bod nhw'n siarad fel arall - peth rhyfedd yn dydy?
Ma' gen ti un cwpwrdd dillad tywyll ac un cwpwrdd tawel.
Wel ma'r ochor dywyll yn tueddu i fod yn gwpwrdd gaeaf, dillad reit drwm, reit dywyll. Ma 'na dipyn o ffrogia' bach du yma hefyd - dwi'n teimlo'n gyfforddus mewn ffrogia bach du, dwi'm yn teimlo'n overdressed am ryw reswm. Ma' hon yn un bach o Marks ond dwi'n licio'r ffaith fod y ddwy strap yn wahanol, ma'n rhoi 'chydig bach o amrywiaeth i ffrog fach ddu.
O le ges di'r ffrog ddu yma?
Ma hon yn ffefryn gen i, dwi wedi gwisgo hon. Ffrog brinish i pan o'n i'n Ffrainc ydy hi. O'n i wedi mynd draw i wneud gwaith ymchwil ar nofel nes i 'sgwennu am y Rhyfel Byd Cyntaf yn Ffrainc, a thra ro'n i yno nes i weld y ffrog fach yma a dwi wedi gwisgo dipyn ar hon. Ond eto ma hi'n ffrog ar gyfer achlysur, dydy hi ddim yn ffrog bob dydd.
Fasa ti'n deud fod gen ti unrhyw wendidau penodol – petha ti'n licio yn dy gwpwrdd?
Yn bendant oes – sgarffiau ydy'r prif un. Faswn i'n deud mod i'n gwisgo sgarff bron iawn bob dydd. Pan dwi o gwmpas y tŷ mi fyddai'n gwisgo sgarff fach, ond taswn i'n mynd allan o'r tŷ mi fasa gin i sgarff fwy.
Felly drwy ychwanegu ryw sgarff ti'n ychwanegu ryw fymryn o liw?
Ydw. Ma' rhai pobol yn deud fod yn rhaid iddyn nhw roi lipstick neu glustdlysa' er mwyn rhoi lliw i'w gwyneb, ond i mi ma'n rhaid i mi roi sgarff. Dwi'n teimlo fod gen i wddw reit hir, a heb y sgarff dwi'n teimlo fatha jiráff, felly ma'r sgarff yn ychwanegu lliw ac yn neud i mi deimlo'n fwy hyderus am ryw reswm!
Oes gen ti steil penodol wyt ti'n hoff iawn ohono?
Dwi'n licio sgertiau llaes ma'n rhaid i mi ddeud. Dwn i'm os ydi o'n mynd nôl i'n magwraeth i fel plentyn y 60au a'r 70au. Roedd mam er enghraifft fel rhan fwyaf o ferched ei chenhedlaeth hi, os oeddan nhw'n mynd allan, hyd yn oed os oeddan nhw'n mynd allan i dŷ cymydog neu am bryd o fwyd lawr y lôn, roedd hi wastad mewn ffrogiau hir, neu sgertiau llaes ac ro'n i wastad yn edrych ymlaen pan oedd mam yn mynd allan i weld pa ffrog hir 'oedd hi'n mynd i wisgo'r noson honno.
Be ydy hanes y siaced yma?
Ma'r flazer yma gen i ers pan o'n i'n ddwy ar bymtheg oed a hon ydy un o'r petha cynta' brynish i hefo fy mhres fy hun - ma hi'n ryw liwiau anghyffredin. Ma hon wedi cael ei gwisgo i bob gig Jarman oedd yn y dociau, fel oeddan ni yn galw'r Bae adeg honno, yn y Casablanca a mewn llefydd eraill. Ma' hon wedi bod yn bob man. Er mod i ddim yn ei gwisgo hi rŵan, fedra'i ddim cal gwared ohoni - ma hi'n llawn sentiment.
Sut fydda ti'n disgrifio dy steil di?
Dwi'm yn teimlo fod gen i ddelwedd arbennig a dwi ddim yn teimlo mod i'n dilyn ffasiwn yn ofnadwy. Dwi'n tueddu i wisgo'r un math o bethau a phan oeddwn i yn yr ysgol - jîns a chrys-t. Dydy'n steil i ddim wedi newid cymaint â hynny.
Ma'n ddiddorol achos ma gen ti dipyn o'r ffrogia yma sydd yn eitha' glam, ond dwyt ti ddim yn cael cymaint o ddefnydd ohonyn nhw. O le ges di'r ffrog aur yma?
Ma' 'na dipyn mwy o addurn ar hon. Ma hon wedi dod o siop ddillad ail law, ond unwaith eto ma' angen achlysur arbennig i wisgo rhywbeth fel hyn. Dwi wedi ei gwisgo hi unwaith, i ginio Clwb Rygbi Caernarfon, ac mi o'n i'n teimlo ychydig yn overdressed, ond doedd dim ots adeg honno. Felly dwi wrth fy modd yn prynu dillad ar gyfer achlysuron, ond anaml iawn y byddai'n eu gwisgo nhw a dweud y gwir.
Pam dy fod ti ddim yn gwisgo rhan fwyaf o dy ddillad erbyn hyn?
Aros am ryw achlysur ma rhywun - achlysur sydd byth yn dod. Fel ma' rhywun yn mynd yn hŷn dydw i ddim yn mynd i briodasau ddim mwy, a ma' hyn yn swnio fel ryw sob story fawr, ond dydy rhywun ddim yn cael gwahoddiad i briodasau fel oeddan nhw, ma' rhywun yn tueddu i fynd i fwy o angladda' fel 'ma nhw'n mynd yn hŷn. Ella fod hynny i gyfri am yr holl ddillad du sydd gen i, ond prin iawn ydy'r achlysuron i wisgo dillad gwahanol i'r arfer felly.
- CWPWRDD DILLAD