



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Mary Lloyd Davies yn gantores opera o Lanuwchlyn. "Dwi’n canu ers pan o’n i’n fychan iawn, mi o’n i’n aelod o gôr plant y pentre pan o’n i’n dair oed, efo mam yn arwain. Mae canu wedi bod yn rhan o’n mywyd i ers y dechra i ddeud y gwir. Dwi ‘di bod yn ffodus iawn o rannu llwyfan a canu efo’r bobl enwog fel Carreras a Jon Vickers, Shirley Verrett a bobl felly, oedd o’n agoriad llygaid ac yn beth hyfryd i fod yn rhan o betha felly."
"O’n i wastad wedi bod efo diddordeb mewn gwisgo fyny, a gwisgo sgidia a hetiau a cal handbags ar fy mraich ers pan o’n i’n fach iawn, odda ni’n byw mewn siop efo lot o wahanol ddillada a phethe a o’n i’n gallu gwisgo fyny, a wedyn odd rhywun yn gallu bod mewn byd dychymygol hefyd."
Pa ffrog di’r hynaf yma?
Wel hon, y las ma, di’r hyna. Hon odd y ffrog gynta brynes i, glas odd fy hoff liw i ers stalwm, pan o'n i’n ifanc. O’n i’n arfar gwisgo lot o las, ond fel ‘da chi’n gweld, dwi wedi gallu mynd i ffwrdd oddi wrtho fo yn y blynyddodd dwytha...
Mai’n hyfryd...a wedyn ma na un binc llachar yn fama, ma honna yn hyfryd.
Wel, ma hon wedi’w gwneud o sidan pur a’n chwaer wnaeth hon i fi. Oedd hi’n dda iawn ei llaw, ac mi oeddwn i wedi cael gwahoddiad i ganu yn yr Albert Hall. Es i nôl y defnydd i John Lewis i Oxford Street, a nes i brynu patrwm a nath fy chwaer neud hi i fi. Pedair punt ar hugain gostiodd y ffrog yma, ond dwi’n credu fod yr addurn ma sydd ar y ffrog wedi costio hanner pris y ffrog!
Pa un yw dy hoff ffrog?
Hon ydi’n hoff ffrog i, nes i brynu hon yn Houston yn Saks Fifth Avenue. O’n i jusd yn hoffi’r lliwiau mor ofnadwy, dwi’n dueddol o gadw hon at betha pwysig mae’n debyg achos bo geni ofn i ddim byd ddigwydd iddi!
Dwi’n hoff iawn, wel, wedi bod erioed yn licio petha glittery sydd yn sefyll allan achos dwi’n meddwl, i’r gynulleidfa, ma nhw’n tynnu’ch sylw chi at y person ar y llwyfan a dwi ‘di bod yn ffodus o gael gwisgo dillad felly yn yr operau - dillad neis.
Ma honna’n drom dydi?
Yndi, ma rhai sequinned ‘ma yn drwm iawn i’w cario, brynes i hon yn America hefyd achos mae hi wastad yn handi i gal ffrog ddu ar gyfer offeren ne rwbath felly - canu mewn eglwys. Ma’ du wastad yn neis neu mewn rhwbath mwy seriws.
Nes i gal hon yn Llundain yn Harrods ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Y Bala yn 1997 achos o’n i’n canu yn y cyngerdd a ma’ ‘na rwbath reit Egyptian ynddi. Mae hi’n eitha slimming sydd yn neis, ond ac mai’n mynd yn gul at y gwaelod.
Mae’n siwr bod hi’n bwysig bod yn hollol gyfforddus pam ‘da chi ar lwyfan...
O yndi, yndi achos ‘da chi isho defnyddio muscles a da chi’m isho pawb weld be ‘da chi’n neud.
Cyn i chi berfformio wedyn, ydych chi’n licio’r broses yna o fynd i wisgo’ch ffrog, rhoi’ch colur a gwneud eich gwallt ac ati?
Yndw dwi’n meddwl bod o’n rhan honno fo. Rhywle yn ganol hynna i gyd i ma’ch syniad chi’n newid, dach chi’n dechrau meddwl reit, ma perfformiad yn mynd i ddod allan o hyn i gyd. Ma’ch hagwedd chi’n naturiol yn mynd i newid, da chi’n edrych ar eich hun yn y drych ac yn edrych bod popeth yn ei le ac yn iawn, mae o’n bwysig. O hynny da chi’n anelu am y llwyfan, wedyn mae o’n rhan o’r peth, siwr o fod, y llun sy’n eich meddwl, a’r llun ohonoch chi yn y drych, dyna’r llun ma’r gynulleidfa yn mynd i gal ohono chi pan fyddwch chi’n sefyll o’u blaena nhw. Felly mae o’n transition fel petai.
Os dach chi’n gwbod bod y gynulledifa wedi mwynhau a bo nhw’n datgan hynny ar y diwedd, mae o’n rhoi goblyn o rhyw lift i chi fel person. Da chi’n teimlo bo chi wedi cyflawni rwbeth wrth roi pleser i rywun arall.