Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Mathiew Bowden
Mathiew Bowden
Mathiew Bowden
Mathiew Bowden
Mathiew Bowden

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae gan Mathiew Bowden steil gyfoes sydd wedi cael ei ddylanwadu gan gerddoriaeth.

Mathiew Bowden

O weld dy 'stafell wely di, mae'n ymddangos i mi dy fod di'n dipyn o gasglwr yn dwyt?

Yndw, dwi'n licio hel trinkets mae'n rhaid i mi ddweud. Dros y blynyddoedd dwi wedi cael casgliad bach neis o amryw o betha'. Pan mae'n dod i vinyl, dwi'n ffeindio fo'n ascetically pleasing - dwi'n licio rhoi'r nodwydd lawr a dwi'n licio'r holl 'geekness' iddo fo rili! Mae rhai pethau y byddai pobl eraill yn weld yn mundane yn niddori fi.

Mathiew Bowden

Ai 'geek chic' ydy dy edrychiad di hefyd?

Mi fyddwn i yn dweud mod i yn fwy o geek na chic, gan mod i yn licio hel pethau fel Star Wars, gemau, cardiau a sticeri. Dwi wastad wedi bod fel 'na ers i mi fod yn hogyn bach.



Mathiew Bowden

Wyt ti'n licio hel dillad hefyd?

Ydw. Fel pob dim arall, dwi ddim yn un am daflu pethau i ffwrdd. Unwaith dwi'n cael dilledyn, dwi ddim yn ei ffeindio fo'n hawdd iawn i'w lechio fo i ffwrdd oherwydd ei werth sentimental o. Dwi'n licio'r holl look retro sports a petha o'r 80au, a'r cleancut look.

Mathiew Bowden

Ma'r esgidiau yma'n llawn o dyllau, wyt ti dal yn eu gwisgo nhw?

Mae mam wedi bod yn trio nghal i daflu'r 'sgida yma allan ers oes, ond alla i ddim cael gwared ohonyn nhw. Ma' nhw'n ffitio mor neis. Dwi'n licio gwisgo nhw yn yr haf, a theimlo'r gwynt yn erbyn fy nhraed! Fyddai ddim yn licio gwario lot ar ddillad, mi fyddai'n trio ei gadw o dan ryw £20.

Mathiew Bowden

Be ydy apêl dillad ail law a vintage i ti?

Dwi'n meddwl ma'r ffaith dy fod di wedi ei ffeindio fo dy hun, a bo' chdi'n gwybod nad wyt ti'n talu cymaint. Mae 'na siawns y byddi di'n pasio rhywun arall ar y stryd yn gwisgo yn union yr un peth, ond eu bod nhw wedi talu dwywaith y pris amdano fo! Er enghraifft mae gen i'r siwmper 100% cashmere yma, a dim ond rhywbeth fel £8 y nes i roi amdani. Er bod yna dwll ar y llawes, fedri di ddim mynd yn wrong am £8! Mi nesh i dalu tua £10 am grys Ralph Lauren streips yn hytrach na'r ffortiwn y bydda' fo wedi costio mewn siop.

Mathiew Bowden

Ydy'r ffaith dy fod di'n lliw ddall yn achosi problem i ti wrth wisgo yn y bore?

Fel arfer mi fyddai'n trio cadw at liwia eitha' tywyll, ond pan dwi'n mynd am betha' eitha' llachar, dyna pryd mae'r problemau yn cychwyn! Dwi'n cofio unwaith nes i brynu trainers winkle pickers gwyn o'n i'n meddwl oeddan nhw, a dyma nghariad i'n troi rownd a deud wrtha'i "Pam ma' gen ti sgidia baby pink?" Mi oeddwn i 'di gwisgo nhw am bythefnos yn meddwl y mod i'n rêl boi.

Mathiew Bowden

Dyma siaced wahanol - be ydy hanes hon?

Mae honna yn gem mae'n rhaid i mi ddweud. Tyveck neu rywbeth ydy'r defnydd - mae nhw'n ei ddefnyddio fo i wneud dillad i astronauts fynd i'r gofod. Er dwi ddim yn meddwl bod hon yn siaced sydd wedi ei chynllunio i fynd i'r gofod! Ma' yna zip ar y cefn fel bo chdi'n gallu ei hagor hi reit lawr y cefn!

Mathiew Bowden

Oes gen ti hoff ddilledyn yn dy gwpwrdd di?

Mae'n rhaid i mi ddweud mai'r siaced glas tywyll Adidas yma ydy un o'n ffefryna i. Mi alla i'w wisgo fo i fynd allan, neu yn fwy casual o gwmpas y lle. Ond, mae hi'n dechrau mynd yn rhy fach i fi rŵan, gan fod y llawes braidd yn fyr. Ond nai ddim ei thaflu hi, mi fydd hi yma o hyd!

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales