



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Maureen, gwraig y cyn-chwaraewr rygbi Gareth Edwards, yn ddynes hynod o ffasiynol.
Mae 'na rywbeth mor neis am edrych drwy hen luniau yn does? Mae na lun yma o'ch priodas, 'da chi'n edrych mor glamorous... a tydi Gareth ddim yn edrych yn ddrwg chwaith...
Ie, 36 mlynedd yn ôl nawr. Roedd y gwallt hir yn ffasiynol iawn yn y saithdegau!
Ac o ble gaethoch chi'ch ffrog?
Prynnais i'r ffrog o siop o'r enw Mamens yn Nghaerdydd, es i miwn a weles i hi a'i phrynu hi yn syth. Oeddwn i moyn rhywbeth eitha' plaen, dim lot o veil na dim train na dim, rhywbeth syml.
Mae hi dal mor wyn...
Ydi. Sai'n meddwl ei bod hi wedi cael ei golchi. Mae hi wedi cadw'n eitha da rili. Nag wy'n credu y gallai fynd mewn i honna rhagor!
Ydi'r ffrog wedi cael ei gwisgo gan unrhywun arall?
Amser ddaru Rhys, y mab, ac Eirlys briodi cwpwl o flynydde yn ôl, fe wnes i ofyn i Eirlys drio'r ffrog 'mlaen ac roedd hi'n edrych mor bert. Ond wrth gwrs, roedd Rhys yn dweud 'mae hi'n edrych yn hen ffasiwn, mae'n rhaid i ti gael rhywbeth arall'. Ac roedd o yn dweud y gwir, oherwydd yr un oedd 'da hi oedd e'n spectacular. Ofynnais iddi 'Beth chi moyn i mi wisgo i'r briodas?' a ddwedodd hi ei bod hi'n licio'r lliwiau pastel. Felly aeth criw ohonom ni lawr i Lundain ac oedd y siwt hyn ar y model yn y siop. Wedes i 'Acw fe', brynais i fe, a brynais i'r top 'ma yn Karen Millen a'r peth i'r pen yn Y Bontfaen. Dwi'n dwli gwisgo het.
Beth am y ffrog glaswyrdd yma?
Hon wisges i i briodas Rhian ac Owen llynedd. Ac i ddeud y gwir, roeddwn i isie gwisgo rhywbeth cream a brown oherwydd dyna oedd ei lliwie hi, ond ffiles i ffeindio dim. So ofynnes iddi os fyddai ots ganddi imi wisgo lliw llachar fel hyn, a fi byth yn gwisgo dim byd llachar i weud y gwir, ond gwympes i am hon a nes i brynu fe straight away. Fi'n licio prynu dillad fi'n gwybod fi'n mynd i gael lot o wear allan ohonyn nhw.
Lle 'da chi yn y llun yma?
O flaen Buckingham Palace mae hwn. Roedden ni yna i weld Gareth yn derbyn ei CBE.
A beth wisgoch chi ar gyfer yr achlysur?
Ychydig o mish-mash. Cot oeddwn i wedi pigo lan draw yn y Mumbles, ac roedd y trowsus gyda fi. Credwch neu beidio, yn Marks and Spencers ges i'r hat! Ond oedd dwy ohonym ni â'r un het! Ond oedd hi wedi gwisgo fe'n wahanol i fi, felly doedd dim ots 'da ni! Oedd e'n shwt ddiwrnod hyfryd oedd dim ots beth oedd gennych chi rili, achos oedd e'n brofiad bythgofiadwy.
Ar hyd eich oes, 'da chi wedi bod yn ddynes sy'n licio dillad yn dydech?
Wel, amser oeddwn i'n ferch fach yn cael yng nghodi ar y Waun oeddwn i'n un o bump o blant a hand-me-downs oeddwn i'n cael. Am flynyddoedd oeddwn i jyst yn gwisgo beth oedd rhywun arall wedi gwisgo, a doedd dim ots 'da fi bryd hynny. A wedyn daeth siop newydd i Abertawe o'r enw C&A. Roedd y prisiau'n resymol ac roedd y siop yn boblogaidd i'n ardal ni achos oedden ni'n gallu fforddio prynu 'ne. Oedd rhywun wedi gwneud lan yr enw 'Cuthberts & Alison's', un o ferched y pentref, felly roedd rhywun yn dweud 'Www, o le gaethoch chi'r trowsus 'ne?' ac roedden ni'n ateb 'O siop o'r enw Cuthbert's & Alison's'! Ond C&A oedd e!
Ydi gwisgo'n ifanc a teimlo'n ifanc yn mynd law-yn-llaw 'da chi'n meddwl?
Nag wy'n moyn gwisgo'n rhy ifanc. Fi ddim yn moyn gwisgo fel mutton dressed as lamb. Fi'n credu mod i'n gwybod beth i'w wisgo. Ond sdim ots nagoes e? Chi'n gwisgo beth chi'n hoffi wisgo. Yn aml iawn fyddai yn yr ardd mewn tracsiwt a sdim ots 'da fi wisgo tracsiwt a wellingtons a mynd lawr i nôl llaeth...
Oes unrhyw outfits heblaw am y rhai priodas yn sefyll allan yn y cof?
Llynedd oedd e'n benblwydd arna i yn chwedeg, ac aeth y chwech ohonom ni allan am bryd o fwyd. Hales i'r llun o'r chwech ohonom ni i'n fam yng nghyfraith ac oedd hi wedi dwli cael y llun. Wedodd hi, 'Diolch am y llun, ond mae'r ffrog na'n horrible arno chi, dwi ddim yn licio honna o gwbl.' Mae hi'n un sy'n siarad yn blwmp ac yn blaen! Wedes i 'O wel, oce!'. Sdim pawb yn hoffi fe, ond dwi'n hoffi gwisgo fe achos mae'r defnydd yn neis iawn hefyd.
Rydych chi'n hoff o wisgo jîns hefyd yn dydech?
Ydw, anrheg arall oedd rhain blwyddyn diwethaf.
Does dim lot o bobl yn mynd i gael pâr o jîns Rock & Republic pan maen nhw'n chwedeg...da chi Maureen! A beth am y sgidiau Gina ma?
Roedd 'na siop hyfryd gennym ni yma yn Porthcawl yn yr wythdegau, a wnes i jyst disgyn mewn cariad gyda'r lliw pinc llachar hyn a'r navy. Roedd priodas 'da ni a nes i brynu'r sgidie a ffiles i ffeindio ffrog i fynd gyda nhw felly gorfod fi brynu rhywbeth arall i fynd i'r briodas. Ond ges i ffrog yn y diwedd i fynd 'da'r sgidie hyn, yn gwmws yr un lliw, a bues i'n gwisgo nhw am flynyddoedd a blynyddoedd. Dwi ddim yn gallu ffeindio'r ffrog ar hyn o bryd – mae hi yma yn rhywle! Oedd dim syniad bod pâr o Gina's 'da fi felly amser welais i pris Gina's nawr, gefais i sioc!
Yn wraig rygbi wrth gwrs, dwi'n siwr eich bod chi wedi sefyll droeon ar ochr y cae yn rhynnu, felly dwi'n siwr bod cotiau'n bwysig i chi?
Mae cot dwym yn bwysig iawn i fynd i wylio'r rygbi. Hon ffeindies i 'to yn Marks and Spencers. Ond mae'n got sy'n mor gyfforddus a chi'n teimlo fel bod hen flanced amdanoch chi, mae mor dwym.
Brynais i'r got binc hon yn y siop fwyd Somerfield sydd 'da ni yma ym Mhorthcawl! Saith punt oedd hi! A lliw llachar pinc. Mae hi'n hyfryd, a bob tro fi'n gwisgo'r got hyn, os wisgaf hi 'da du, mae rhywun yn gweud rhywbeth am y got. A dwi yn gweud o ble ges i hi! Ddwedes i wrth un ferch ac aeth hi lawr i brynu un iddi hi ac un i'w ffrind hi!
Felly 'da chi'n meddwl eich bod chi'n mynd i ddal i siopa, dal i wario, dal i wisgo jîns Rock and Republic pryd 'da chi'n wythdeg?
O, gobeithio!
Yey! Chi mor glam! Dwi isho bod fel 'na pryd dwi'n chwedeg!
Wel diolch i chi!
- CWPWRDD DILLAD