



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Sut fydda ti’n disgrifio dy steil di?
Dwi’n ymwybodol o ffasiwn a dwi’n hoffi dillad. Ond ma’ yr arian a’r amser yn mynd yn brin, a dydw i ddim yn hollol siŵr lle i fynd, lost my way dwi’n credu yw’r ffordd oraf o egluro.
Wyt ti’n meddwl dy fod di wedi diystyru dy steil dy hun ar ôl cael plant?
Mae hynny yn hollol gywir. Cyn i mi gael y plant roeddwn i’n Megan. Ond nawr dwi’n mam Rhys, mam Rhiannedd a mam Lili, ac mae’r person wedi newid i fod yn rhywun hollol wahanol. Mae pob mam yn gallu dweud hynny, dydw i byth yn enw nac yn berson, dim ond mam.
Pa mor aml fyddi di’n mynd i siopa a faint fyddi di’n ei wario ar y tro?
Does dim arferion siopa o gwbl gen i. Falle y byddai’n mynd i Tesco neu Asda er mwyn gwneud y siop wythnosol, ac os welai rhywbeth yno fe gaiff fynd i’r troli, cheap and cheerful yw hi ma arna’i ofn. Dwi wedi colli’n ffordd a’n hyder. Roeddwn i’n faint 10 cyn ges i’r plant, ond mae hynny wedi newid dros y blynyddoedd. Dwi wrth ym modd bod yn fam i dri, ond fe hoffwn i gael mwy o ganol!!
Ti’n edrych yn ffantastig!
Dwi’n teimlo’n ffantastig i fod yn onest, rili ffantastig! Dwi wedi colli hanner stôn dros nos! Dwi’n teimlo’n grêt, dwi’n teimlo’n dalach ac yn deneuach. Mae’r ffrog yn hyfryd, bydden ni byth wedi meddwl prynu rhywbeth fel hyn, ond mai’n edrych yn grêt. Mae’r profiad di bod yn anhygoel. Dwi dal yn fam i dri, ond dwi’n credu bod ‘Megan’ di dod yn ôl nawr.