Cwpwrdd Dillad: Meri Huws
Meri Huws
Meri Huws
Meri Huws
Meri Huws

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Yn un o hoelion wyth y Sefydliad, mae Meri Huws yn dal dwy swydd uchel iawn o fewn ei wythnos waith sydd bellach yn rhychwantu saith diwrnod yn ôl ei chyfaddefiad ei hun! Yn ogystal â bod y ferch gyntaf i gael ei phenodi'n Ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Cymru, Bangor, mae hi hefyd yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg ers Awst 2004. Ond tra bod ei gyrfa'n un o barchusrwydd ac awdurdod, mae ei chwpwrdd dillad, ar y llaw arall yn datgelu ei bod hi hefyd yn dipyn o rebel.

Meri Huws

Meri ar ei dillad gwaith...

Ar hyn o bryd dwi'n gwneud dwy swydd. Mae'r wythnos wedi cael ei hymestyn i fod yn saith diwrnod dwi'n credu o waith erbyn hyn. Dwi yn Ddirprwy is Ganghellor yn y Brifysgol fan hyn yn Fangor, sy'n yffach o sialens mae'n rhaid dweud, oherwydd dyma'r tro cyntaf i fenyw fod yn y swydd. Felly o ran dillad dwi'n cerdded rhyw ffin denau rhwng parchusrwydd a bod yn fi. Ac wedyn wrth gwrs, rwy'n Gadeirydd Bwrdd yr Iaith, sy'n swydd eitha' cyhoeddus. Ac un peth sydd wedi nharo i yw na fedra i wisgo'r un dillad o un diwrnod i'r llall, felly mae o'n sialens i gadw'r balans rhwng y Meri Huws sydd mewn dwy swydd barchus a'r Meri Huws sy'n dal yn dipyn bach o rebel.

Meri Huws

Oes gen ti hoff liw?

Brown tywyll a du, ar bob achlysur.

Meri Huws

Pa fath o ddillad wyt ti'n eu gwisgo?

Dros amser dwi'n credu mod i 'di mynd yn lot mwy radical o ran y siapie dwi'n wisgo. A 'ma'n nillad i'n mynd yn fwy traddodiadol, yn debycach i ddillad ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Ac wrth gwrs, mae'r dylanwad gothig 'na hefyd.

Meri Huws

Meri ar ei hoff ffrog...

Ma'r ffrog yma'n bwysig, bwysig. Dyma hen ffrog fy mam, 'swn i'n dweud o ddechrau'r 50au. A ma' rhywun yn dechre meddwl be o'dd merch o'r Henllan yn ei wneud efo ffrog fel hyn.

Meri Huws

Wyt ti'n dal yn ei gwisgo hi?

Odw, ar achlysuron arbennig, fel y parti pan wnaeth dad ymddeol, a diwrnod fy ail briodas wrth gwrs. Hon wisges i'r diwrnod hwnnw.

Meri Huws

Oes gen ti unrhyw gyngor i bobl eraill am ffasiwn?

Peidiwch disgyn mewn i dudalennau Hello gan feddwl bod rhaid i chi wisgo fel pawb arall. Gwisgwch be chi'n gyfforddus ynddo fo, ac os ydy hynny'n golygu gwisgo du bob dydd, wel ffein.