Cwpwrdd Dillad: Myra James
CWPWRDD DILLAD: Rhys Mwyn | Myra James | Siân Lloyd
Myra James
Myra James
Myra James
Myra James

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Myra James yn fam brysur sy’n gweithio yn y busnes teuluol yn llogi peiriannau amaethyddol. Erbyn hyn mae hi’n gweithio mewn ‘man’s world’ ac er bod ganddi ddiddordeb mewn ffasiwn pan yn ifanc, mae’r teulu a’r busnes wedi dod yn gyntaf, sydd heb adael rhyw lawer iawn o amser ar gyfer steil.

Myra James

Ydych chi’n meddwl fod eich diddordeb chi mewn dillad wedi diflannu’n llwyr dros y blynyddoedd? Ydy hynny yn gwneud chi’n drist?

Mae’n neis fel ti’n mynd yn hŷn bod ti’n gallu edrych yn ôl ar hen betha’ wyt ti wedi bod yn wisgo pan ti’n ifanc, atgofion melys, hapus. Ond mae fy niddordeb i mewn dillad wedi mynd achos bod dim amser gen i. Dwi’n teimlo trueni na fasa ‘chydig mwy o amser ‘da fi i neud hyn, ond ‘na fo, mae pobol eraill yn dod gynta’.


Myra James

Pa fath o broblemau ydych chi yn ei gael wrth drio dewis dillad?

S’mo fi’n gwybod be sydd yn fy siwtio i. Ac wedyn pan dwi wedi prynu rhywbeth dwi’n dod 'nôl, a ma’r plant yn dweud wrtha’i, “wel mam, o le ges di hwnna?” Felly mae be dwi yn ei brynu wedyn ddim yn iawn ar gyfer siâp yng nghorff i.


Myra James

Pa mor aml fyddwch chi’n deud ydych chi’n teimlo’n brydferth, yn rhywiol yn neis yn eich dillad chi?

Byth rili. Dwi’n gweithio gyda bechgyn, fi ydy’r unig fenyw felly mi faswn i’n licio cael new look Myra!


Myra James

Mae Eleanor Gardner yn steilydd sydd am roi help llaw i Myra hefo’i chwpwrdd dillad a’i hedrychiad.

Eleanor: Mae gan Myra lawer o ddillad vintage oedd hi’n eu gwisgo nôl yn y 1970au - mae’n bwysig i gadw’r ffrogiau yma, ond mae’n rhaid eu rhoi nhw mewn cwpwrdd arall er mwyn edrych ar eu hôl nhw.

E: Mae’r dillad sydd gan Myra yn edrych fel dillad o’r 90au a dydyn nhw ddim y lliwiau gorau ar ei chyfer oherwydd mae yna lawer ohonyn nhw hefo is-liw melyn, a dydy hynny ddim yn mynd i weddu hefo lliw ei chroen hi.


Myra James

Nia: Sut brofiad oedd cael Eleanor yn mynd drwy eich ddillad chi?

O'n i yn nerfus ar y dechra’, ond yn falch ei bod hi’n bod yn onest ‘da fi a dweud wrtha i be sydd yn fy siwtio fi a be sydd ddim. Pan oedd hi’n deud “allan” am bob dim ro’n i’n poeni na fydda dim ar ôl gen i! Dwi’n teimlo’n ysgafnach ar ôl cael gwared â’r dillad achos mi fydda i yn edrych yn well. Doedd y dillad yna ddim yn siwtio siââp ‘yng nghorff i, a dwi’n falch ei bod hi wedi deud hynny, fod rhywun yn dweud yn onest. Dwi’n edrych ymlaen iddi roi'r dillad sydd yn fy siwtio fi amdana i.


Myra James

E: Mae gan Myra lawer o drowsusau tri chwarter, ond dydy rheiny ddim yn gweddu iddi gan ei bod hi’n fyr. Maen nhw’n cwtogi’r coesau ac yn gwneud iddyn nhw edrych yn fyrrach. Dwi wedi gwagio’r cwpwrdd fel ei bod hi’n gallu gweld ei dillad bob bora. Dwi hefyd wedi prynu hangers pren er mwyn cadw siap y dillad.

E: Dwi wedi dewis ychydig o ddillad sy’n ymarferol gydag ychydig o liw a mwy o haenau ysgafn er mwyn creu delwedd ddiddorol.


Myra James

Ydych chi’n teimlo’n brydferth?

Yndw. Dwi’n teimlo’n neis iawn, a fel yna dwi’n teimlo tu mewn hefyd. Mae o wedi bod yn brofiad hapus dros ben, dwi wedi joio bob munud ohono fe. New look Myra! Dwi rili yn teimlo fel princess bach. Dwi’n teimlo’n lot fwy slim! Ar ôl cael sbectol newydd dwi’n meddwl bydd yr hen rai o'n i yn wisgo yn cael mynd.


Myra James

Ydych chi’n teimlo fod gennych chi ddillad ymarferol ar gyfer y gwaith?

Oes. Mae gen i jîns ac mi fydda i dal yn gallu mynd allan i helpu’r bechgyn, ond does dim rhaid i mi wisgo fel un ohonyn nhw a dyna dwi wedi ei wneud dros y blynyddoedd.