Cwpwrdd Dillad: Siân Naomi
CWPWRDD DILLAD: Owen Powell | Siân Naomi

sian naomi
sian naomi
sian naomi
sian naomi

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae'r actores Siân Naomi yn wyneb adnabyddus i wylwyr S4C, ac wedi chwarae ystod eang o gymeriadau ar lwyfan ac ar y sgrin fach, gan gynnwys rhan Sharon Burgess yn Pobol y Cwm. Mae hi bellach i'w chlywed yn ddyddiol yn lleisio cymeriad Miriam Evans yng nghyfres ddrama Rhydeglwys ar Radio Cymru.

sian naomi

Pa mor aml wyt ti'n prynu pethau, cyrraedd adref, trio nhw ymlaen a meddwl 'Pam wnes i hynna'?

Byth. Dwi byth yn gwneud hynny. Dwi wastad yn gwybod yn union be dwi'n licio. Dwi'n mwynhau dillad sydd wedi cael eu torri'n dda a'u gwneud yn dda. Pan dwi'n prynu rhywbeth fydda i'n gallu gweld yn union sut y bydd o'n mynd efo lot o bethau yn fy wardrob i

sian naomi

Siân ar steil...

Mi wna i weld rhywbeth mewn siop neu gylchgrawn neu rywbeth a mynd am y ddelwedd yna wedyn - dyna dwi'n neud. O'n i'n rili licio dillad y cymeriad Carrie ar 'Sex and The City', actually y dillad oedd y rheswm gwnes i ddechrau gwylio'r rhaglen.

sian naomi

Be oeddet ti'n licio am steil Carrie?

Y ffaith bod o'n eclectic a bod hi'n rhoi lot o bethau efo'i gilydd. O'n i'n meddwl bod hynny'n brilliant.

sian naomi

Siân ar ddillad...

Ges i'r siaced hon o Efrog Newydd, mae hi'n un Roberto Cavalli. Ar y pryd doeddwn i rioed wedi clywed am Roberto Cavalli, ond mae o'n massive rwan tydi. Mae hi'n siaced eitha cynnes yn rhyfeddol, ond dwi yn berson rhynllyd, felly mi fydda i'n gwisgo'r wasgod fach 'ma o Marks & Spencers ar ei phen hi'n gaeaf.

sian naomi

Wyt ti'n mynd am ddillad drud neu rad?

Dwi'n meddwl fod 'na fyd o wahaniaeth rhwng dillad designer a dillad high street - ond mae 'na fyd o wahaniaeth yn y pris hefyd. Yn bendant dwi'm yn prynu nhw oherwydd eu bod nhw'n designer a mod i eisiau impression neb. Fyswn i'n licio petawn i ddim yn licio'r stwff drud oherwydd byddai gen i lot mwy o bres, ond dwi ddim yn gallu helpu fo...

sian naomi

Sân ar siwtiau...

Er bod hon (siwt Vivienne Westwood) wedi bod gen i ers talwm, mae'r look yma'n ffasiynol iawn rwan - y 50s glamour, pencil skirts a ma' hi jyst yn grêt am rwan.

Lle wyt ti'n mynd i siopa yng Nghaerdydd, ac ydyn nhw'n cadw dillad ar dy gyfer di erbyn hyn?

Body Basics a Jon Ian gyda sgidiau - maen nhw jyst yn gwerthu lot o bethau dwi'n licio.

    CWPWRDD DILLAD