



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mam a merch o Ddyffryn Nantlle yw Nia a Lisa Pugh sydd yn rhannu’r un hoffter am ddillad, siopa ac edrych yn glam.
Ydach chi’n mwynhau siopa hefo’ch gilydd?
Lisa: Ma’ well gen i fynd i siopa hefo mam na’r un o ffrindiau fi.
Nia: Ma’ rywbeth gwahanol am fynd hefo’ch merch - ma’ na rhyw bond, mam a merch, mae o’n neis. Ma hi’n onest hefo fi ac os dwi’n rhoi rhywbeth ‘mlaen, mae hi’n dweud yn ‘mam dyro fo lawr’! Mae o’n neis pryd ‘da ni’n mynd hefo’n gilydd ein bod ni’n helpu’n gilydd i ddewis.
Wyt ti o hyd wedi licio dillad Lisa?
Lisa: Dwi’n meddwl ‘mod i 'di tyfu ers oeddwn i’n fabi bach i licio dillad achos dwi ‘di bod yn cael fy ngwisgo yn y dillad ‘ma gen Mam.
Fyswn i byth yn mynd i siopa heb wisgo colur achos dwi isio edrych fatha fi – dwi’n methu dewis pa fath o ddillad dwi isho wisgo heb y colur i fynd efo fo. Mae’n swnio’n rhyfadd ond mae o’n gwneud i mi deimlo’n well.
Nia: Dwi’n meddwl bod o’n rhan o’r wisg - fel yr icing on the cake. Ma cacan wedi ei addurno hefo icing yn edrych lawer yn neisiach nag un blaen, ag mae o yr un fath hefo gwisg. Dwi ddim yn gyfforddus yn mynd allan heb golur - ar wahân i pan 'dwi o gwmpas y tŷ – mae’r postmon ‘di ngweld i heb golur, ond faswn i byth yn mynd i’r stryd fawr i siopa na dim byd heb golur - faswn i'n teimlo’n noeth, de!
Ydych chi’n meddwl fod yr hoffter yma o ddillad rhywsut yn eich gwaed chi?
Nia: Oes, roedd fy nwy Nain, ar y naill ochr yn ‘milliners’, yn gwneud hetiau. Fe wnaeth fy Nain a ‘Nhaid ochr fy nhad ddod i’r Groeslon i agor siop ddillad. Felly mae’n siŵr fod yr hoffter o ddilyn ffasiwn wedi ei drosglwyddo drwy’r cenhedloedd.
Dwi’n cofio mynd i siopa efo Mam a Dad yn Lundain - oeddan ni’n mynd bob hydref – roeddwn i’n cael fy ngwisg am y gaeaf ac yn eu gwisgo nhw tan oeddwn i ‘di tyfu allan ohonyn nhw mewn ffordd! Y cof cyntaf sy’ gen i yw landio yn Llundain yn naw mlwydd oed – roedd Dad wastad yn dreifio – a cyrraedd strydoedd mawr fel Carnaby Street, gweld y siopau anhygoel mae, a Mary Quant ac ati’n ffasiynol iawn.
Mae’r dillad yn mynd a fi drwy wahanol gyfnodau bywyd - dwi’n mwynhau sbio arnyn nhw, a dwi’n dueddol i fynd yn reit sentimental! Dwi’n eu gwerthfawrogi gymaint ‘swn i byth yn medru cael gwared arnyn nhw! Odd mam yn cadw lot o ddillad hefyd , oeddan nhw’n mynd bob blwyddyn i ryw ddawnsfeydd yn ymwneud â gwaith fy nhad a mi oedd hi’n gwisgo i fyny’n neis ofnadwy. Ma na un ffrog arbennig o’r 60au y bydda Lisa’n ei gwisgo hi rwan.
Lisa: Dwi wedi trio hi a mae hi’n ffitio! Ma nhw’n lyfli ac yn hollol wahanol i’r petha sy’n cael eu gwerthu yn y siopau heddiw. Es i draw i dŷ Nain a jyst eistedd i lawr. Gofynnodd hi os o’n i di cal ffrog newydd oedd hi jyst yn sbio a wedyn ddeudodd hi ‘Ffrog fi ‘di honna!’ oedd hi ddim yn gwybod be’ i ddeud – chwerthin ta crio, roedd hi mor shocked! Dwi’n licio’r syniad o gadw dillad hefyd! Dwi’m yn gweld rheswm lluchio nhw - mae fel lluchio atgofion.
Oes gen ti atgofion o dy fam pan oeddet ti’n hogan fach yn edrych yn arbennig o glam?
Lisa: Dwi’n cofio nhw’n mynd i ryw ginio unwaith, oeddan nhw wedi gadael ond tua awr ar wedyn dwi’n cofio nhw’n cyrraedd yn ôl ac o’n i’m yn dallt be oedd. Oedd mam yn mortified achos odd rhywun yn gwisgo’r ru’n un ffrog a hi a odd hi’n gorfod dod adra i newid.
Nia: Odd o’n llai nag awr, Lisa! Nes i’m hyd yn oed tynnu fy nghot - nes i jyst gweld ryn ddynas ‘ma ym mhen draw’r stafell yn y ffroga dyma fi’n dweud ‘Tyd, ti’n mynd a fi adra rwan, mae’n rhaid i mi newid!’. Mi aethon ni nôl wedyn a drwy lwc doedden nhw heb ddechrau ar y bwyd!
Wrth edrych ar dy ddillad di heddiw - mae’r lliwiau’n edrych dipyn yn dawelach?
Nia: Dwi’n hoffi gwisgo lot o ddu a gwyn a wedyn hwyrach ryw sblash o liw. Mae’n lliwiau i wedi newid yn sicr, wedi mynd yn dawelach fel dwi 'di mynd yn hyn - ddim mor flamboyant, dwi’n mwynhau pethau mwy conservative rwan.
Beth am dy hoff wisg?
Fy hoff wisg erbyn hyn yw’r top du secwins yma. Mae hi gennyf i ers blynyddoedd, ond mae hi dal mewn ffasiwn. Dwi’n gallu gwisgo hi efo trowsus du. Gawson ni wahoddiad i ginio Testimonial Sir Alex Ferguson. Roedd fy ngŵr wrth ei fodd oherwydd bod tîm Man Utd yna i gyd, ond ro’n i wedi gwirioni oherwydd bod Mick Hucknall ar y bwrdd wrth ein hochr ni, nes i fynd ato fo a’i gyfarfod o.
Fyddi di Lisa reit hapus os edrychi di fel dy fam pan fyddi di ei hoedran hi?
Lisa: God byddaf! Bob tro dwi’n cyfarfod rhywun a ma nhw’n cyfarfod mam, ma nhw bob tro’n deud fod mam yn edrych yn rili del. A ma nhw’n gofyn faint di oed hi a ma nhw’n dychryn. Mai’n edrych yn reit dda iawn dydi?!
- Cyfres yn dychwelyd nos Fercher 3 Medi 20:25