Cwpwrdd Dillad: Nicola Pilkinton
nicola pilkinton
nicola pilkinton
nicola pilkinton
nicola pilkinton

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Dim ond deunaw oed ydi Nicola Pilkinton ond yn ystod y blynyddoedd hynny, ma hi wedi datblygu steil unigryw iawn...

nicola pilkinton

Nia: O’r holl gypyrddau dillad dwi wedi eu gweld, dwi’n meddwl mai dyma ydi’r un mwya anarferol ohonyn nhw gyd. Sut ges di’r syniad i storio pethau fel hyn?

Nicola: Pan odd genai gwpwrdd dillad arferol, odd bob dim wedi’u stwffio fewn i’r cwpwrdd a doeddwn i ddim yn gallu ffeindio dim byd. Ma’n haws fel hyn.

nicola pilkinton

Nia: Ma’ popeth yn edrych run peth o fan hyn gyda’r holl liwiau gyda’i gilydd.

Nicola: Dwi di arfer efo bob dim, dwi’n gwbod be sgenai. Dwi hefyd wedi arfer gyda’r gwahanol 'textures’ felly dwi’n gwybod yn union be sgenai a lle i’w ffeindio… heblaw am ddu…ma’ du yn anodd i’w ffeindio!

nicola pilkinton

Nicola: Pan o’n i’n fach, o’n i’n dipyn o 'tomboy’ rili a do’n i ddim rili fewn i ffasiwn. Pan oedd fy ffrindiau gyd yn cyfuno bob dim, doeddwn i ddim. O’n i’n gorfod gwisgo iwnifform yn ysgol odd mor gyfyng o ran beth oeddwn eisiau’i wisgo mewn gwirionedd. Do’n i ddim isho bod yr un peth a phawb arall. Dwi’n licio sefyll allan a bod yn unigryw.

nicola pilkinton

Nia: Sut faset ti’n disgrifio dy steil personol di?

Nicola: Dwi byth yn gwisgo rwbath sy’ run peth un diwrnod ar ôl llall. Weithiau na i wisgo rhywbeth merchetaidd, weithiau nai wisgo rwbath 'grungy’, ma jyst yn dibynnu sut dwi’n teimlo neu sut mae’r tywydd ond lliw 'di’r peth perthnasol yn bob dim dwi’n wisgo.

nicola pilkinton

Nia: Be ti’n neud, wyt ti’n jyst dewis un lliw neu gymysgedd o liwiau?

Nicola: Weithiau nai wisgo un lliw ond dwi’n meddwl bo’ cymysgu lliwiau yn reit neis hefyd – lliwiau na fasen nhw’n mynd gyda’i gilydd yn draddodiadol.



nicola pilkinton

Nia: Ti’n gwbod be sy’n fy synnu i ydi ma’ gen ti bedwar pâr o fwts sy’ union run peth ond eu bod nhw’n wahanol liwiau a run fath efo’r trainers?!

Nicola: Os dwi’n ffeindio rwbath dwi’n licio ac ma’n gyffyrddus dwi’n ei brynu ym mhob lliw fedrai wedyn oherwydd mae mor hawdd. Dwi’n gwbod sut ma’ nhw’n teimlo a sut ma’ nhw’n edrych felly ma’n hawdd jyst i addasu nhw efo gwahanol liwiau.



nicola pilkinton

Nicola: Dwi’n prynu lot o bethau o siopau elusen hefyd. Dwi’n licio’r scarff yma, mae’n sidan a dim ond punt oedd a dwi’n gwisgo hwn fatha top.

Nia: Ti’m yn poeni ei fod yn mynd i syrthio lawr?!

Nicola: Na, dwi’n meddwl mod i 'di pasio hynny erbyn hyn achos dwi’n neud o drwy’r amser a dwi ddim yn poeni dim mwy!

nicola pilkinton

Nicola: Jîns Evisu o siop elusen oedd rhain. Rhai newydd sbon am £3.50, oddan nhw’n £100 yn wreiddiol a nes i eu torri i siorts. Dwi’n neud hynny’n aml achos os dach chi’n neud 'mess’, diom ots achos eu bod nhw mor rhad.


nicola pilkinton

Nicola: Ma’r ffrog werdd o Wlad yr Iâ. Fues i draw yno i astudio gwaith celf fy uncl a mi es i siopio yno run pryd. Odd 'na lot o bethau neis yna. Mae eu defnyddiau nhw’n hollol wahanol i fan hyn, roedd y 'textures’ yn hollol wahanol i’n dillad ni fan hyn.

nicola pilkinton

Nicola: Ges i’r top yma o Wlad yr Iâ hefyd. Ma’ na rywbeth reit hen ffasiwn yn y defnydd. Os dach chi’n gwasgu’r defnydd mae’n crinclo ac yn aros felly – felly does dim rhaid ei smwddio!

nicola pilkinton

Nicola: Ma’n ffrindiau i jyst yn meddwl 'mod i’n nyts rili. Dan ni’n mynd allan am ddiod weithia a dwi’n hollol 'over the top’ rili weithia a dwi’n gwbod fy hun weithia ond fedrai’m jyst bod yn gyffredin o ran fy nillad.

nicola pilkinton

Nicola: O’n i’n mynd i barti gwisg ffansi nos galan a nes i brynu 'catsuit’ arian ac mae’n afiach. Odd o’n edrych yn iawn ar y we ond pan ges i o, odd o’n rhy hwyr i ffeindio rwbath arall!

Nia: Ti’m yn gwisgo hwn i’r dafarn yn Nefyn felly?!

Nicola: Nadw! Dwi 'di trio ond ma’ pobl jyst yn stopio fi!

nicola pilkinton

Nia: Be sy'n mynd i ddigwydd nesa? Wyt ti'n gweld dy hun yn creu rhyw fywoliaeth o ddillad a ffasiwn?

Nicola: Dwi’n mynd i neud cwrs sylfaen ym Mangor flwyddyn nesa mewn celf ac wedyn ar ôl hynny dwisho mynd i neud ffasiwn yn Llundain. Dwi isho neud dylunio, felly bysedd 'di croesi os weithia i’n ddigon caled!

Nia: A be’ fydd yn dy gasgliad di?

Nicola: Bob dim rili. Fel dach chi’n gweld, ma’ genai gymaint o betha gwahanol – pethau patrymog, pethau plaen a dwi jyst yn gobeithio gallu cario mlaen i gasglu pethau fel sydd yn fy nghwpwrdd dillad a chael syniadau newydd o bob man rili. Dwi’n meddwl os fasech chi’n dod nôl mewn blynyddoedd, fasa bob dim di newid, dwi byth yn cadw pethau yr un peth.

    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25