CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Symudodd Noel Hulmston i Nefyn wedi ymddeol, gan ddod â chynnwys ei gwpwrdd dillad gydag ef. Mae'n hoff o ddillad, ac mae ei ddiddordeb mewn tei bô yn sicrhau wardrob gwirioneddol liwgar ac unigryw!
Ydy o'n wir fod eich tei bô'n stamp ar bob gwisg?
Ydy i ryw raddau. Dwn i ddim pam mod i mor hoff o dei bô ond dwi di bod yn eu gwisgo ers blynyddoedd.
Ydyn nhw'r math gwreiddiol lle da chi'n eu clymu?
Na mae'n rhaid i mi gyfaddef mod i'n defnyddio tei bos ready-made.
Deudwch rywfaint wrtha i am y dillad rydych chi'n eu gwisgo i fynd i hela.
Wel os ydw i'n mynd gyda'r ffermwyr yn Ynys Môn dydach chi ddim eisiau mynd mewn dillad crand. Rydach chi angen dillad glaw, waders, achos mae hi'n ddrwg iawn os ydych chi'n gorfod aros yn y gofrestrfa os ydy hi'n glawio. Rydach chi angen teimlo'n gyfforddus, yn ddiogel.
Os ydw i'n mynd i saethu ffesantod yn yr Alban dwi'n gwisgo dillad smart - lliwiau brown ysgafn a gwyrdd. Ac os ydych chi'n saethu yn yr estuary mae'n rhaid gwisgo dillad camouflage achos dydach chi ddim isio i adar eich gweld chi. A phan dwi'n saethu ceirw dwi'n gwisgo dillad oren llachar. Mae hynny am resymau iechyd a diogelwch achos mae lot o bobl yn mynd allan i saethu ceirw.
Oes gennych chi un hoff eitem o ddillad? Oes unrhyw eitem y byddech chi'n drist i'w golli?
Fy hen het o Harrods a gefais gan fy ngwraig, er mod i wedi cael un arall wedi ei wneud gan Alexander James erbyn hyn am mod i mor hoff ohono. Mae fy ffrindiau i gyd yn gwybod os nad ydw i'n hapus iawn achos dwi di troi'r cap am yn ôl, fel bod y pig yn y cefn. Maen nhw'n gwybod i fod yn wyliadwrus bryd hynny, achos nad oes 'na fawr o hwyliau!



