Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Non Evans
Non Evans
Non Evans
Non Evans
Non Evans

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae'r athletwraig Non Evans yn ferch sy'n byw ym myd y dynion.

Non Evans

I rywun sydd ddim yn dallt rhyw lawer am rygbi, pan ti'n cael dy gap, ti'n cael cap go iawn.Ydy hynny'n golygu fod gen ti saith deg wyth cap yn dy dŷ di?

Na, does dim saith deg wyth cap gen i. Da chi'n cael eich cap cyntaf, ond yn wahanol i'r dynion, nes i orfod talu £19.95 am fy nghap cyntaf i. Ma' dynion yn cael nhw am ddim. Ond, dim ond un cap i chi'n ei gael - cap cyntaf. Wedyn ges i gap rhif pum deg, hanner cant o gapiau dros Gymru, a mi nath Gareth Edwards ei gyflwyno fe i fi.

Non Evans

Ydi steil y crysau rygbi wedi newid lot dros y blynyddoedd?

Ydyn, ma' nhw wedi newid yn gyfan gwbl. Pan enilles i yng nghap cyntaf i nôl yn 1996 oedd y crysau lot yn fwy a lot fwy trwchus pryd hynny achos crysau dynion oeddan nhw. So, nes i dorri'r gwaelod bant a thrimio'r llewysiau hefyd jyst i'w gael e i ffitio. Ond, mae'r crys nes i wisgo pan guro ni Lloegr ac ennill y Goron Drifflyg eleni yn ysgafnach achos bod rhywun wedi gweithio mas bod chwedeg y cant o dacls yn cael eu gwneud wrth ddal y defnydd ar yr hen grysau. Ond gyda'r crysau newydd ma', ma'n anodd iawn achos bod o mor dynn ar y corff. Yr unig beth gwael am rain ydy os oes bola gyda chi, mae o'n dangos popeth achos bod nhw mor dynn.

Non Evans

Rwyt ti'n gwneud pob math o chwaraeon. Pryd ddechreuodd dy ddiddordeb di yn y maes?

Dechreuais i wneud jiwdo pan o'n i ryw ddeuddeg mlwydd oed yng nghlwb jiwdo Pontarddulais a mi ddechreuais i godi pwysau pan es i i'r coleg pan o'n i ryw ddeunaw mlwydd oed. Nes i gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn y ddwy gamp nôl ym Manceinion yn 2002 - fi oedd y person cyntaf erioed i gystadlu mewn dwy gamp wahanol yn yr un Gemau Gymanwlad.

Non Evans

Mae'r cwpwrdd sydd gen ti wrth y drws ffrynt yn llawn o 'sgidiau. Beth yw dy hoff steil esgid di?

Ges i'r cwpwrdd yma wedi ei adeiladu pan brynais i'r fflat jyst i gadw'n sgidiau i ac mae popeth yn daclus yn y cwpwrdd yma. Dwi ddim yn hoffi gwisgo sgidiau fel stilettos, dwi'n teimlo'n lot fwy cyfforddus mewn wedges. Ond, mae popeth sydd 'da fi, hyd yn oed yn fflip-fflops i yn wedges! Ond, yn hoff 'sgidiau i allan o bopeth yw'n Spice Girls bŵts i, rhain yw'n hoff esgidiau i, dwi 'di cael rhain ers blynyddoedd. Dyna pam dwi'n gwisgo trwseri eitha' ffleri gan fod y trwseri wedyn yn cyfro'r bŵts sy'n gwneud i mi edrych yn dal iawn! Eto, fel y fflip-fflops, dydyn nhw ddim yn teimlo fel mod i'n gwisgo sawdl, mae'n teimlo'n eitha' fflat pan i chi'n cerdded, felly rhain yw'r 'old faithfuls' - yn ffefrynnau i.

Non Evans

Wrth weld dy gwpwrdd 'sgidiau di, dwi'n gallu gweld bod yna ddwy ochr i dy gymeriad di!

Yn union! Chi'n gallu gweld y Non sydd yn eitha' girly ac yn gwisgo'r wedges i fynd i gwaith ac yn y blaen, a chi'n gallu gweld y Non sydd yn chwarae rygbi ac sy'n gneud lot o ymarfer corff.

Non Evans

Dwi wastad wedi meddwl amdana' ti fel rhywun sydd yn gwneud chwaraeon trwy'r dydd, ond mi wyt ti hefyd yn gweithio. Beth fyddi di'n ei wisgo i'r gwaith?

Dwi'n gweithio fel Medical Rep i gwmni pharmaceutical. Ma' lot o medical reps yn gwisgo dillad eithaf boring, eitha' diflas fel siwtiau du neu glas tywyll pinstriped a chrys gwyn o danyn nhw, dwi'n gwisgo'n smart ond dwi'n hoff o fod yn wahanol. Hon yw un o'n hoff siacedi i - tydi o ddim yn ddu, 'di o ddim yn las, mae o'n eitha' lliwgar. Mi fyddai'n gwisgo crys o dan y siaced neu jyst fest neu rywbeth o dano fe gyda phâr o drwser gwyn, du neu lwyd. Dwi wastad yn gwisgo trwseri eitha' isel ac eitha' ffleri ar y gwaelod achos fi'n licio gwisgo wedges, felly mae'r trwseri i gyd yn eithaf baggy.

Non Evans

Ydy o'n wir nad oes gen ti ddim sgert na ffrog yn dy gwpwrdd dillad?

Does dim un ffrog yn fy nghwpwrdd i o gwbl! Mae nghoesau i'n soled, ond ma' nhw braidd yn chunky a dwi'm yn hoff o wisgo sgert na ffrog sydd yn dangos fy nghoesau i. Dwi'n teimlo'n fawr mewn petha' tynn, dwi'n teimlo'n llai mewn petha' baggy. Ma'n swnio anghywir, ond 'na beth i fi'n gyfforddus yn ei wisgo.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales