Cwpwrdd Dillad: Olwen Davies
olwen davies
olwen davies
olwen davies
olwen davies

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Ma' dillad lliwgar yn amlwg iawn wrth i chi groesi'r trothwy i mewn i gartref Olwen Davies. Mae'r lle yn orlawn o ddillad y mae Olwen wedi eu gwneud a'u casglu yn ystod ei bywyd difyr ers pedwar ugain o flynyddoedd. Magwyd Olwen yng Nghymru a Llundain ac wedyn aeth i astudio cerddoriaeth a chafodd yrfa fel cantores a chyfieithydd gan rannu ei hamser rhwng Llundain a Rhufain. Symudodd yn ôl i Gymru i ymddeol a dod yn aelod blaenllaw o'r mudiad CND Cymru.

olwen davies

Nia: Mae'ch cartref cyfan chi'n gwpwrdd dillad?!

Olwen: Ma' popeth fel plant o ran y dillad. Maent yn dod ag atgofion yn ôl at rywun.

jane davies

Olwen: Pan o'n i yn Covent Garden, weles i'r 'dressing gown' yma mewn siop ddillad dynion ac odd dreigiau coch arni. A phan nes i ddechrau mynd ar y protestiadau yn y Gaeaf, nes i wisgo hon i fynd i Lundain pan odd hi'n oer.

jane davies

Nia: Ma’ 'na’n sicr dân ynoch chi yn does?

Olwen: Wel, pan dwi’n gwneud rhywbeth dwi’n gwneud rhywbeth gydag angerdd. Wy’n teimlo’n gryf am lawer o bethau, rhaid i ni helpu’r holl blant sy’n marw dros y byd i gyd ac mae’n bwysig i mi gefnogi’r mudiadau heddwch.

jane davies

Nia: Dach chi’n son am yr angerdd yma - ma’ gennoch chi angerdd tuag at eich dillad chi does? Dach chi’n amlwg yn caru lot o’ch dillad chi dydach?

Olwen: Odw, mae fe yn rywbeth creadigol. Y defnydd sy’n bwysig. Os oes stwff iawn, chi’n gallu troi mas rhywbeth sy’n wahanol. Does neb gyda dillad fel hyn nagoes.

jane davies

Nia: Dwi ddim yn credu bod neb gyda gwisg fel hon chwaith.

Olwen: Odd hon yn anrheg pan fues i’n Ne Affrica. A’r het a’r scarff gyda hi.



jane davies

Nia: Mae eich ffrog las yn mynd gyda’ch llygaid glas chi. Hon wisgoch chi ar gyfer eich parti penblwydd yn 80 oed dwi’n clywed?

Olwen: Ie, yng Nghanolfan y Celfyddydau. Mi wnes i’r ffrog pan o’n i’n dal i fyw yn Rhufain ac o’n i’n dod nôl adre weithiau a ges i’r defnydd o John Lewis i’w gwneud.



jane davies

Nia: Nathoch chi newid ddiwedd y nos hefyd?

Olwen: Do wisges i ffrog ddu ac mi wnes i’r crochet coch yma i’w bywiogi ychydig.

jane davies

Olwen: Gyda’r ffrog ddu y byddaf yn gwisgo y jet necklace. Wy’n credu fy mod wedi talu ryw 25 punt amdani flynyddoedd yn ôl ond mae’n werth lot mwy erbyn hyn gan ei bod wedi ei chrefftio â llaw.


    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25