



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Mae Osi a Hilary Osmond yn gwpwl rhamantus a chreadigol, Osi yn artist a Hilary yn athrawes biano, ac mae’r ddau yn dotio ar ei gilydd ac ar eu dillad.
Sut fyddech chi’n disgrifio eich steil chi Hilary?
Rhamantus a hen ffasiwn. O’n i wastad yn licio gwisgo fyny pan o'n i yn ferch fach achos roedd yna lot o ddillad gwisgo fyny yn y tŷ gartref. A dwi’n dal i'w gwisgo nhw nawr.
Be ydy eich steil chi Osi?
Dwi ‘di dod o Huckleberry Finn fel hogyn yn rhedeg yn wyllt yn y mynyddoedd i grammar school hefo’r tei i teddyboy dros nos bron achos fe ddaeth Elvis Presley allan pan o'n i tua 11 neu 12. Ond nawr, cymysgedd rhwng yr elegant thug a’r bohemian ydw i. Cymysgedd diddorol iawn.
Hilary, ydy dillad yn ffordd o gysylltu gyda’r gorffennol a hefo’r teulu i chi?
Ydy, mae ei wisgo nhw fel cael cwtsh. Roedd tad-cu yn trafaelio lot fel Diplomat yn Ne America a Mecsico a llefydd fel ’na ac roedd e’n amlwg yn hoffi prynu dillad- mae lot dal gen i a dwi’n dal i'w gwisgo nhw.
Rydach chi’n gwisgo dillad lliwgar iawn, ydach chi’n teimlo’n hapus wrth wisgo’r holl liwia ‘ma Osi?
Mae’n rhaid i ni ddefnyddio lliwia’ yn ein gwlad ni achos mae’r wlad a’n bywyd ni’n eithaf llwyd. Pan ti’n gwisgo nhw ti’n teimlo’n reit elevated. Mae lliwiau’n creu rhywbeth, ryw sensation yn dy feddwl di. Dwi’n hoff iawn o goch, a dwi’n defnyddio lot fawr o pigment wrth baentio, felly mae coch yn rhoi teimlad o elevation i mi.
Mae’r top yma’n fendigedig Hilary o le cafoch chi o?
Mae hon yn dod o Fecsico a ma nhw’n ‘i gwisgo nhw yn yr ardaloedd poeth iawn yno. Ma’ ‘na frodwaith hynod arni. Pan o'n i’n hipi, mi roedd petha' fel hyn yn berffaith.
Mae gennych chi gasgliad anhygoel o fwclis Hilary, ydych chi yn eu gwisgo nhw’n aml?
Dwi wastad yn gwisgo beads. Fel arfer, dwi’n ‘i gwneud nhw fy hun, ond ma’r beads yn dod o bob man achos dwi’n gofyn i ffrindiau os ydyn nhw’n mynd i rywla egsotig iddyn nhw plîs ddod a beads yn ôl i mi. Mae’r rhai coch yma’n dod o’r Sudan, ond mae gen i gasgliad o bob man felly ma’ nhw i gyd yn golygu rhywbeth i mi.
Osi: Dwi’n meddwl fod Hilary yn licio beads hefyd achos i bod nhw fel gwên arall, felly does dim ots sut wyt ti’n teimlo, mae gwên i weld am dy wddw di.
Hilary mae gennych chi gasgliad anhygoel o esgidiau...
Dwi yn licio sgidia neis a mae gen i gasgliad o rai hen. Mae gen i un pâr ar ôl mam gu sydd wedi dod o Cuba. Ma’ nhw’n rhy fach i neb ei gwisgo nhw, ond ma’ nhw yn bert ofnadwy ac wedi eu gwneud allan o groen crocodeil. Mae gen i hefyd lot fawr o espadrilles lliwgar ac achos mod i yn gwisgo lot o ddu mae’n neis cael gwisgo lot o sgidia lliwgar i fynd gyda’r mwclis.
Ydach chi’n teimlo’n wahanol pan da chi’n gwisgo sgidia coch?
Yndw. Dwi’n meddwl fod pob merch yn teimlo’n wahanol wrth wisgo esgidiau coch. Ma pawb yn licio sgidia coch dydyn, mae hyd yn oed merched bach yn licio sgidie coch. Ond ma merched mawr yn licio sgidie coch yn fwy!
Osi mae hon yn edrych yn siwper gynnes iawn.
Dwi’n hoffi hwn. Danish ydi’r siwmper, ac fe ges i o mewn arddangosfa yn Denmark, fe ddywedodd y bois wrtha’i am ddewis siwmper- so ddewises i hwn. Mae o yn fy atgoffa i o dirwedd Cymru ac mae’n rhoi cysur i mi wisgo hwn. Wrth i wisgo fo dwi’n teimlo’n hollol greadigol - sai’n siŵr pam. Pan mae o arno dwi’n teimlo fel mynd allan gyda dyfrlliw a sketchbook a dechrau edrych ar y tirwedd.
Hilary: Mae’n rhaid iddo fo fod yn gynnes wrth fynd i baentio tu allan, felly pan mae’n rhoi'r siwmper yma ‘mlaen, dwi’n gwybod i fod o’n mynd i greu! Dwi’n licio rhannu’r profiad â Osi, dwi’n licio edrych ar yr un pethe ac mae o’n edrych arno ar yr un pryd.
Ydy dillad yn rhywbeth moethus neu ymarferol i chi?
Hilary: Moethus fel arfer ond wrth gwrs mae’n rhaid cael dillad ymarferol. Dwi ddim yn dda iawn hefo dillad ymarferol mae’n rhaid i mi gyfaddef, ond mae gyda ni betha’ arbennig i wisgo pan da ni yn garddio neu os ydy hi’n bwrw glaw. Mi brynon ni’r dillad yma pan oedd hi’n bwrw glaw yn Marrakech a beth ydyn nhw yw fel côt hir gyda hood, ond ma nhw’n waterproof felly ‘da ni’n gallu gwisgo nhw i arddio pan ma hi’n bwrw glaw a ma’ nhw’n grêt, yn ein cadw ni’n sych.
Ma’ eich siwtia' chi i gyd yn dywyll Osi, ond ma’r crysau yn lliwgar.
Contrast. Dwi’n hoffi gwisgo siwt, ond sa’ i’n hoffi'r coler a thei a chrys gwyn fel ma pobl yn tueddu i wisgo i’r Banc, Busnes a cholegau.
Dyma siwt arbennig iawn. Fe ges i hi yn y sêl, i lawr o £600 i £30 sy’n anhygoel. Mae’r tailoring yn ffantastig a'r gwlân yn ysgafn felly dwi’n gallu ei wisgo yn yr haf. Off the peg, ond mae’n fy ffitio fi yn berffaith.
Ydych chi’n sentimental iawn am eich dillad?
Hilary: Yndw. Ma’ nhw fel hen ffrindiau. Dyna sut ydw i’n teimlo amdanyn nhw, wastad yn falch o’i gweld nhw a wastad yn falch o’i gwisgo nhw.
Osi: Os dwi’n teimlo’n gyfforddus yn rhywbeth, dim ots be mae pobl arall yn feddwl, os dwi’n teimlo’n dda ac yn gyfforddus dwi moyn ei wisgo fo am byth, felly mae o’n rhan o mywyd i.
- CWPWRDD DILLAD