Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Owain Arwel Hughes
Owain Arwel Hughes
Owain Arwel Hughes
Owain Arwel Hughes
Owain Arwel Hughes

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Owain Arwel Hughes wedi arfer gwisgo ar gyfer cynulleidfa o filoedd a hedfan hefo'i ddillad i bob cornel o'r byd.

Owain Arwel Hughes

Fel arweinydd byd enwog, mae 'na gymaint o anrhydeddau gwahanol ynghlwm â chi a'ch gyrfa, pa mor bwysig yw'r paratoi?

Dwi'n meddwl fod rhaid i mi edrych yn iawn ar rostrum. Yn gyntaf, mae bobl yn talu lot o arian i glywed y ffordd 'da ni'n perfformio, ond maen nhw hefyd yn edrych arnom ni am ddwy, tair awr ac felly maen nhw eisiau gweld chi'n edrych yn iawn, mae hynny'n bwysig ofnadwy.

Owain Arwel Hughes

Beth fyddwch chi'n ei wisgo fel arfer?

Fydde ni'n gwisgo rhan fwyaf tails, a tei gwyn. Mae gwisgo hwnnw efallai yn ffordd i mi gael y concentration i fynd, a dyna be dwi'n gweddïo amdano – bod y concentration yn iawn cyn i mi arwain bob tro.

Owain Arwel Hughes

Beth sydd wedi dylanwadu ar eich steil chi?

Dwi'n cofio o fod yn ifanc iawn gweld pregethwyr yng Nghymru. Edrych yn ôl, perfformio oedden nhw i gyd yn ei wneud, y ffordd oedden nhw'n dal cynulleidfa. Ac hefyd yn ymwybodol bob tro oeddwn i'n edrych arnyn nhw yn y pulpud, neu rwan yn yr eglwys, eu bod nhw wedi gwisgo yn iawn. Mewn ffordd, yn dweud 'Dwi yma yn perfformio, ac rydych chi'n edrych arnaf i, dyna be sy'n bwysig i mi'. Weithiau dwi'n sefyll ar rostrum a dwi'n gallu gweld rhai o'r chwaraewyr gyda sgidiau brwnt a dwi'n meddwl 'Duwedd, na!'. Maen nhw'n gallu cuddio, ond dwi ddim!

Owain Arwel Hughes

Beth am eich dillad chi pam 'da chi'n ymarfer?

Fyswn i'n gwisgo crys, falle siaced, ond dwi'n cymryd y siaced i ffwrdd. Byth mewn jîns – trowsus neis yntê. Wastad yn smart. Weithiau mae cerddorfa yn cerdded i mewn i'r ymarfer mewn jîns a phethau, a fysech chi byth yn credu eu bod nhw'r r'un bobl sydd yn chwarae yn y gerddorfa yn y nos. Ond byswn i byth yn mynd o'i blaenau nhw yn edrych yr un fath. 'Da chi in charge a mae hynny'n bwysig.

Owain Arwel Hughes

Mae bod yn smart yn bwysig i chi, a dwi 'di sylwi bod na lot o'r lliwiau yma'n debyg iawn – glas golau, pinc – y lliwiau pastel 'ma. Pam hynny?

Ie, dwi'n meddwl eu bod nhw'n siwtio fi, dwi ddim yn gwybod pam. Weithiau dwi'n gwisgo pethau sy'n dywyll – du fel arfer.

Owain Arwel Hughes

Beth yw'r cefndir y tu ôl i'r wisg yma?

Dyma dwi'n ei wisgo ar gyfer cyngherddau mawr – dudwch yn yr Albert Hall. Maen nhw wedi cael eu gwneud yn arbennig ar fy nghyfer i. Maen nhw'n ffitio'n iawn ac maen nhw'n ysgafn. Mae'r defnydd yn dda iawn hefyd, felly dydyn nhw ddim yn edrych yn ofnadwy ar ôl i mi arwain am hir. Mae'r linings yn wahanol i mi fedru dweud y gwahaniaeth rhyngddyn nhw – ond mae pawb wedi cydio 'mlaen i'r ffaith eu bod nhw'n wahanol liwiau. Pam 'da chi am fynd i arwain yn y Royal Albert Hall, neu Festival Hall neu Neuadd Dewi Sant, 'da chi isie edrych yn iawn.

Owain Arwel Hughes

A beth am grysau?

Dwi'n gwisgo crys gwyn gyda beth maen nhw'n ei alw'n Marcella Front. A wedyn wasgod sydd yr un peth, a bow tei yr un fath.

Owain Arwel Hughes

Mae gennych chi ddwy wasgod sy'n serennu yn fan hyn – fyddwch chi ddim yn mynd ar goll yn rhain...

Wel, rhywbeth i gael dipyn o sbort ydi rhein yn te. 'Da ni'n neud y Proms Cymraeg ac ar un adeg, yn ail hanner y noson olaf, 'da ni'n cael ychydig o sbort hefyd. Oedd 'na fenyw yng Nghaerdydd mewn siop a hi wnaeth rhein i mi wisgo ar y noson olaf. Wedyn ddaru aelodau Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru wneud wasgod i mi wisgo ar noson olaf y Proms. Hughes tartan ydi hon ac fe wnaethon nhw gael hwn wedi ei wneud yn arbennig i mi. Mae'n hyfryd, yn dydi?

Owain Arwel Hughes

'Da chi wedi cael profiadau rhyfeddol ac wedi teithio'r byd yn ystod eich gyrfa. Ydych chi'n prynu pethau dramor?

Gan mod i'n mynd i Capetown yn ystod ei haf nhw, mae hi'n boeth iawn. Mae neuadd y dref yn hyfryd, ond does dim air-conditioning. Felly roedden nhw'n dweud 'Peidiwch a gwisgo tails, gwisgwch beth bynnag 'da chi isie'. Felly wnes i ffeindio crys fel 'ma, un du. Tynnodd y gerddorfa eu siacedi i ffwrdd, ac roedden nhw mewn crysau a bow teis gwyn a finne mewn du i gyd.

Owain Arwel Hughes

Mae 'na un siaced wen yma. Pryd fyddech chi'n gwisgo honno?

Fyswn i'n gwisgo hon yn yr haf ym Mhrydain. Wrth gwrs, yn yr haf rydym ni'n gwneud llawer o gyngherddau yn yr awyr agored, felly mae rhain yn edrych yn hyfryd. Yn aml be sy'n digwydd yn yr awyr agored yw bod lot o liwiau yn dod arnom ni ar y llwyfan ac mae'n edrych yn neis yn erbyn y gwyn fel 'ma.

Owain Arwel Hughes

A dwi wedi sylwi ar y wats poced yma, be 'di stori hon?

Oeddwn i'n ffeindio wats arferol yn anghyfforddus yn arwain felly ges i hwn. Mae allan o'r ffordd ac felly dwi'n medru arwain yn rhydd.

  • CWPWRDD DILLAD