



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Eleanor: Dw'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i ddynion ar gyfer y trawsnewidiadau yma, felly mi wnes i ffonio pobl fyny ac anfon e-byst allan i lefydd fel Menter Cwm Gwendraeth. Wedyn mi 'nath Paul roi galwad ffôn i mi'n dweud, fod ganddo ddiddordeb!
Beth wnaeth dy annog di i gytuno i adael i Eleanor roi trawsnewidiad i ti?
O'n i'n meddwl mai dyma oedd yr alwad ffôn dwi wedi bod yn aros amdano – ma' angen sbardun arna'i! Ma' 'na lot o bethau wedi digwydd i mi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi beni gyda'r wejen o'n i wedi bod hefo am ddwy flynedd a hanner - so mi oedd hynny'n bwynt lle o'n i'n meddwl ac yn teimlo mod i ar ryw fath o groesffordd mewn bywyd.
Eleanor: Ma' Paul wedi trio dechrau byw bywyd mwy iachus, felly mae o'n gneud mwy o yoga, pilates, mynd allan i gerdded a hefyd mae o wedi dechrau meddwl am ei ddelwedd o.
Nia: Wyt ti'n meddwl dy fod di wedi dechrau magu hyder beth bynnag, ond fod y dillad yn gam arall?
Ydy, mae'n adlewyrchiad o'r newid yn fy mywyd i. Dwi'n teimlo mod i wedi tyfu lan lot dros y flwyddyn ddiwethaf a moyn gneud pethau mwy mentrus.
Eleanor: Ma' 'na rai pethau yng nghwpwrdd Paul dwi'n teimlo eu bod nhw wedi dod o ddegawd gwahanol yn enwedig y crysau check. Ma' patrwm fel y check mawr yma, gan fod gan Paul gorff eitha' llydan, yn mynd i dynnu sylw at led ei gorff o, felly mae'n well iddo wisgo pethau hefo patrymau bach. Be ma'n rhaid iddo gofio hefyd ydy i beidio â gwisgo'i grys tu allan i'w drowsus. Mae'n bwysig hefyd iddo gael belt neis ac mi fydd o'n edrych yn lot gwell. Mae'n rhaid iddo osgoi lliwiau tywyll, yn enwedig du, gan fod ganddo groen eitha' gola', ond mae'n iawn iddo wisgo du os oes lliw gola' wrth ei ochr o.
Ma' gan Paul lawer o siwmperi gyda gwddf crwn sydd ddim y siâp gorau iddo wisgo oherwydd siâp ei gorff. Mi fyddai'n well iddo gael siwmper gyda gwddf siâp v.
Wedi i Paul gael y trawsnewidiad, mi fydd o'n edrych yn fwy aeddfed mewn ffordd gyfoes. Ma'i ddillad o ar hyn o bryd yn rhy ifanc iddo fo. Mae o'n 32 oed sy'n oedran lle ti dal yn ifanc, ond ma'n rhaid i ti ddechra' creu delwedd 'chydig bach fwy soffistigedig.
Mae'r dillad dwi wedi eu dewis ar gyfer Paul yn rai sydd wedi eu teilwra, felly ma' 'na strwythur iddyn nhw - gwasgod a siacedi smart - sy'n mynd i roi siâp cryf i'w gorff o. Ma'r lliwia'n dywyll ond yn eitha' meddal. Ma' lliw a phatrwm y crysa'n gwrthgyferbynnu ac yn eitha' gwahanol. Dwi wedi prynu siaced ddu i Paul, ond ma' hi'n bwysig iddo fo ei gwisgo hi gyda dillad gola', ysgafn, gyda jîns glas a belt du 'falla a mi fydd o'n edrych yn grêt.
Nia: Wyt ti wedi mwynhau'r profiad o gael dy drawsnewid gan Eleanor?
Dwi'n gobeithio y medra'i barhau gyda'r gwisgo steilish yma dros y blynyddoedd nesa'. Dwi'n credu mod i wedi cael gwers wych gan Eleanor. Dwi'n teimlo fel rhywun newydd sydd yn grêt. Ambell waith dros y blynydde, dwi ddim wedi gwneud yr ymdrech pob tro i edrych yn dda. Dwi wedi bod ychydig bach yn esgeulus o fynd mas heb baratoi. Ond nawr gyda'r cwpwrdd dillad newydd yma, mi fydd hi lot yn haws.
Nia: Sut ymateb wyt ti wedi ei gael i dy ddelwedd newydd di?
Dwi'n synnu pa mor bositif oedd yr ymateb, a faint o sylw roedd pawb wedi cymryd o'r hyn o'n i'n ei wisgo o'r blaen. Mae'n bwysig fod sut ydych chi'n gwisgo yn adlewyrchiad ohonoch chi. Dwi'n hapus iawn eu bod nhw wedi ymateb yn bositif a hefyd eu bod nhw'n meddwl falle mai'r Paul newydd ydy hwn. Nawr dwi'n teimlo mod i wedi aeddfedu, dwi ddim yn becso cymaint am y pethau bach rhagor, ond dwi'n teimlo'n lot fwy hyderus ac eisiau cael hwyl. Dwi'n teimlo mod i'n dala nôl ers blynyddoedd, felly ma' hwn yn adlewyrchiad o'r newid yn y mywyd i. Wrth edrych yn dda chi'n teimlo'n dda dwi'n meddwl.
- CWPWRDD DILLAD