Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Paula Morris Jones
Paula Morris Jones
Paula Morris Jones
Paula Morris Jones
Paula Morris Jones

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau

Mae Paula Morris yn ddynes twym galon sydd wrth ei bodd yn casglu ffrogiau priodas.

Paula Morris Jones

Pryd y gwnaethoch chi ddechrau casglu ffrogiau priodas?

Dwi'n hel ffrogiau priodas ers tua 20 mlynedd. Roedd fy mam yng nghyfraith yn wael ofnadwy, ac mi ddaru Marie Curie a Hospice at Home edrych ar ei hôl hi, a gwneud job fendigedig. Mi oedden ni isio deud diolch, wedyn ddaru ni wneud sioe ffasiwn a phawb yng Nghaernarfon yn involved. Roedd pawb yn sôn am y mileniwm yn dŵad, ac mi o'n i'n meddwl y byswn ni'n darfod y sioe efo can mlynedd o ffrogiau priodas. Mi oedd pobl yn deud "di'r ffrog yn dda i ddim byd i mi yn yr atig Paula, os fedri di neud rhywbeth efo fi mi gei di hi" Ac o fanno ddechreuodd y diddordeb. Dwi'n sentimental ofnadwy ac yn traditionalist - dwi'n licio hen betha' a dwi'n hoarder!

Paula Morris Jones

Mae gennych chi ddigon o ffrogiau yma i agor siop! Pa ffrog ydy'r un hynaf sydd gennych chi?

Y ffrog hyna' sydd gen i ydy'r ffrog gynta' ges i i ddechrau'r casgliad. Ffrog mam yn ffrind i ydy hon, Mari Tomos. Bu farw Mair jest cyn Nadolig yn '92, ac fel 'da chi'n gweld, does 'na ddim zip na fastners ar y ffrog, dim ond ffordd mae'r defnydd wedi cael ei dorri. Mi oedd Mair yn gwybod y byswn i yn edrych ar ei hôl hi.

Paula Morris Jones

Dydy'r ffrog arian yma ddim yn edrych fel ffrog briodas yn nacydy?

Fe gafodd y ffrog arian yma ei defnyddio fel ffrog briodas ond dwi ddim yn gwybod gan bwy. Mae'r beads yma sydd drosti hi i gyd yn wydr a dyna pam ei bod hi mor drwm. Ond mae hon yn dipyn bach o enigma, os wnewch chi edrych arni hi, ma' na rai rhanna wedi cael ei gwneud efo llaw, ac wedyn da chi'n sbïo ar ddarn arall ohoni a ma' hi wedi cael ei gwneud hefo peiriant. Dwi ddim yn gwybod faint ydy ei hoed hi, o'r 1920au neu'r 30au, dwi ddim yn siŵr, ond ma' hi wedi cael ei defnyddio fel ffrog briodas.

Paula Morris Jones

Sut ma steil y ffrogiau wedi datblygu dros y blynyddoedd?

Ar ôl y rhyfel oeddech chi'm yn medru cael defnyddia', wedyn tua 1947 mi 'nath lês ddechrau dod allan. A hwn ydy'r math o mass produced lace cynta ddoth allan. Wedyn odda' chi'n mynd tipyn bach mwy refined eto fel yn y ffrogiau o ddiwedd y 1950au a dechrau'r 60au.

Paula Morris Jones

Ydy o yn eich poeni chi nad ydych chi'n gwybod yr hanes tu ôl i bob un o'r ffrogiau yma?

Nacydy, ddim o gwbl. Mae'r ffrog ei hun yn dweud y cyfan. Os ydyn nhw wedi cael diwrnod braf ar ddiwrnod y briodas - mae'r hem reit lân. Os ydy hi wedi bod yn bwrw, ma rownd yr hem yn fudur! Neu ma' yna hoel troed, rhywun wedi sefyll arni neu dwll sigarét, ma pob un ffrog yn dweud ei hanes ei hun wrtha chi.

Paula Morris Jones

Be am ffrogiau o'r 60au, ma gennych chi ambell un o'r rheiny hefyd yn does?

Be nath yng nghyffwrdd i fwyaf am hon oedd tu mewn iddi, ma yna un o'r petalau o'r conffeti wedi mynd yn sownd yn y leinin. Sy'n adrodd y stori a hanes y ffrog.

Paula Morris Jones

Os ydy'r briodas wedi chwalu, neu fod rhyw dristwch ynghlwm ag o, ydy hynny yn tynnu oddi ar y ffrog o gwbl i chi?

Na, ddim i fi. Doedd y diwrnod ddim yn drist nag oedd. Mi oedd y diwrnod yn ddiwrnod hapus, ac mi oedden nhw'n mynd i'r eglwys neu gapel yn llawn gobaith am y dyfodol. Beth bynnag ddigwyddodd wedyn, nid bai'r ffrog oedd o.

Paula Morris Jones

Ydach chi wedi cadw'ch ffrog briodas chi?

Naddo! Mi wnes i'r camgymeriad o adael hi yn nhŷ mam, ac mi ddaru mam adael i'r ferch chwara May Queen hefo hi felly ma' hi wedi hen fynd! Ma gen i luniau, ond dwi ddim yn meddwl y bydda hi'n ffitio o amgylch y nghoes i rŵan heb son am y nghorff i - mi o'n i mor denau adeg hynny!

Paula Morris Jones

Erbyn yr 1980au mi oedd steil y ffrogiau wedi newid dipyn gyda'r sgertiau mawr yn doedd ?

Dwi'n meddwl fod yna dipyn o ddylanwad Dallas arnyn nhw! Er mwyn gwisgo'r ffrog llawn sequins yma, 'da chi isio hogan gydag ysgwydda da i'w chario hi - ffrog y ferch oedd honna ac ma hi'n dal iawn.

Paula Morris Jones

Ydach chi'n mynd i barhau i hel ffrogiau priodas?

O yndw, mi gawn nhw gartra bendigedig yn fan yma. Fel ma'r gŵr yn ei ddeud, ma nhw'n cael mwy o sylw na'r plant! Fyswn i'n licio gweld nhw i gyd yn cael eu cadw efo'i gilydd os fysa na rhywbeth yn digwydd i mi. Dwi am neud nodyn ar bob dim dwi'n gwybod amdanyn nhw, a chadw nhw fo'i gilydd. Pan da chi'n gweld cymaint ohonyn nhw efo'i gilydd mae 'na lot o hapusrwydd yna.

  • CWPWRDD DILLAD

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales