Cwpwrdd Dillad: Prydwen Elfed-Owens
Prydwen Elfed-Owens
Prydwen Elfed-Owens
Prydwen Elfed-Owens
Prydwen Elfed-Owens

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Prydwen Elfed-Owens o sir Ddinbych yn swyddog Addysg sy'n methu stopio dawnsio a hel dillad.

Prydwen Elfed-Owens

O le ddaeth eich diddordeb chi mewn dillad?

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn dillad o bob math, ond, fyddwn i'n dweud bod gen i ddiddordeb mawr mewn dillad dawnsio gwerin. Mewn gwirionedd mae agweddau o'r rheiny wedi dylanwad ar fy wardrobe gyffredinnol i hefyd. Hetiau, sgidiau, pob math o agweddau, dwi wrth fy modd hefo dillad.

Prydwen Elfed-Owens

O le mae'r diddordeb yma wedi deillio?

Wedi hel tipyn o achau yn ddiweddar, dwi wedi darganfod fod fy hen, hen, hen daid yn un o hetwyr Llangynddelyn ac felly wedi symud i Amlwch i agor busnes yn fanno, a bod fy hen daid hefyd wedi bod yn deiliwr ac yn hetiwr yn Amlwch, Rhuthun, Rhyl ac yng Nghaernarfon. Davies Cutters oedden nhw yn ei alw fo. Roedd ei deulu o hefyd yn edrych yn hynod o smart a chysidro eu bod nhw yn deulu gweddol dlawd. Ac felly yn ôl pob tebyg rodd hi'n draddodiadol yr adeg honno, fod teiliwr yn cadw tamed bach o ddeunydd ac yn gwneud dillad i'w deulu ei hunain. Dwi'n meddwl bod y diddordeb yna yn rhywbeth sydd wedi dod trwy'r cenedlaethau mewn gwirionedd.

Prydwen Elfed-Owens

Ai hen ddillad yw eich diléit?

Dillad dawnsio gwerin mewn gwirionedd sydd o ddiddordeb a'r holl gefndir sydd iddyn nhw. Gwisg arferol y ddeunawfed ganrif ar bedwaredd ganrif ar bymtheg ydy'r wisg Gymreig neu'r wisg Brydeinig mewn gwirionedd, ond ein bod ni yng Nghymru wedi parhau hefo'r traddodiad. Ond yna fe ddaeth y diwygiad Methodistaidd, ac roedd y traddodiadau, yr holl gerddoriaeth, telynau ac alawon yn bechod yn ôl y crefyddwyr amser hynny. Ers blynyddoedd rydw i wedi bod yn chwennych het Gymreig fy hunan ond yn ddiweddar, rhyw fis yn ôl fe gefais i afael ar het oedd fy hen, hen daid, sef David Edwards - yr hetiwr o Amlwch ei hun wedi ei wneud. Mae yna fonet fach yn mynd hefo hi hefyd. Ailgynhyrchied ydy'r fonet yma, ond roedd y fonet wreiddiol yn cael ei gwisgo gan wreigen mynydd oedd yn gweithio ar fynydd Paris yn Amlwch. Ac felly'r copper lady oedden nhw'n galw'r wraig yma. Roedd y fonet yma yn mynd o dan yr het, felly mae o yn gyd-ddigwyddiad fod y fonet yn dod o ardal Amlwch a bod yr het hefyd. Doedd dim rhubanau ar y fonet wreiddiol ond ma' hi'n mynd reit ddel o dan yr het Gymreig.

Prydwen Elfed-Owens

Beth yw hanes y wisg hon?

Wel, y wisg gynta' ges i oedd hon, sef gwisg cwmni dawns werin aelwyd Caerdydd ac fe welwch chi'r betgwn. Betgwn hir, siaced neu fetgwn, bed gown, ac felly ma' ei chefn hi yn ddiddorol iawn, hon ydy cefn patrwm Arglwyddes Llanofer. Dau fotwm a'r tro yma yn fan hyn ar y pleat, y boxpleat, felly ma' hi yn edrych yn osgeiddig iawn. Mae yna ffedog yn y fan hyn, ffedog gotwm ac o dani wedyn mae 'na sgert fatha pais.

Prydwen Elfed-Owens

Sbïwch ar y blwmars anweddus yma! Ydych chi'n i gwisgo nhw?

Mae'n rhaid i mi eich sicrhau chi na thydw i ddim! Ond dwi yn hoffi casglu dillad sy'n dynodi'r cyfnod. Un eitem tydw i ddim wedi ei wisgo ers blynyddoedd, ryw dri deg o flynyddoedd, ac eto ma' hi fel newydd, ydy'r fantell yma. Mi wisgais i hi ar achlysur jiwbilï cymdeithas ddawns werin Cymru, ar peth cyntaf ddywedodd un o fy ffrindiau pan wisgais i hon yn yr oerni oedd "Ma' hi'n debyg i'r Scottish Widow". Felly fe aeth hi'n ôl i'r cwpwrdd dillad a ddoth hi ddim allan am flynyddoedd! Ond wedyn, roeddwn i'n meddwl, dwi'n hoff iawn o goch, felly mi gefais i leinio hi mewn coch, gan feddwl fod hon yn fy siwtio i'n well ac yn llawer iawn fwy lliwgar. A wyddoch chi be? Mae'r Scotish Widow erbyn hyn wedi nghopïo fi - mae hi r?an yn gwisgo coch o fewn ei mantell ddu hithau. Mae'r Scotish Widow a finna yn gneud gefeilliaid bach ddigon del!

Prydwen Elfed-Owens

Tasa'r ty ar dan, beth fydda chi'n ei achub?

Fy het Gymreig dwi'n meddwl - ac mi fyddwn i'n croesawu fod pob peth arall wedi mynd gan ei fod yn gyfle i wneud mwy o siopa am ddillad newydd.