Cwpwrdd Dillad: Prys Jones
CWPWRDD DILLAD: Prys Jones | Leah Jones | Angharad Mair

prys jones
prys jones
prys jones
prys jones

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Dyn sy’ wrth ei fodd yn hamddena ydi’r arwerthwr Prys Jones o Abergele. Dim syndod felly bod ei gwpwrdd yn llawn dillad sy’n addas ar gyfer hynny...

prys jones

Nia: Dach chi reit enwog am eich siwmperi llachar tydach?

Prys: Ydw. Dwi wyrach yn wreiddiol yn hollol swil. Ma’r siwmperi 'ma yn rhoi rhyw hyder i mi dwi’n meddwl.

Nia: Ydi’r ffaith bod y siwmperi yn lliwgar a mor unigryw yn golygu bo’ chi’n licio sefyll allan erbyn hyn?

Prys: Ydw. Dwi’r teip yna o foi. Os fydda i’n cerdded mewn i 'stafell, dwi’n teimlo, heb fod yn fawreddog, dwisho 'cymryd yr ystafell drosodd'. Mae o’n bwysig i mi deud y gwir.

Nia: Felly mae eich dillad chi yn ffordd o newid hynny felly ydi?

Prys: Ydi. Dwi’n teimlo bod lot o bobl yn fy nabod i. Dwi’n trio cadw i mi fy hun lle ydw i’n prynu’r dillad yma lle bo’ rhywun yn fy 'upstagio’.

prys jones

Nia: Be ydi hanes y siwper arbennig hon?

Prys: Hon ydw i’n teimlo mwya’ cyfforddus ynddi hi. Pan dach chi’n edrych arni, ma’ hi’n edrych fel bod yna dyllau ynddi hi a weithiau fydda i’n edrych arni ac yn meddwl am yr oriau ma’ rhywun wedi’i wneud i’w rhoi at ei gilydd. Alla i ddim creu dim byd heblaw am efo ngheg felly dwi’n edmygu pobl sy’n gallu gwneud rhywbeth efo’i dwylo ac mae hon yn enghraifft o frodwaith sydd yn anhygoel. Dwi wrth fy modd gyda hon.

Dwi’n swnio’n fawreddog iawn ond ma’ 'na rhyw 'class’ yn perthyn iddyn nhw does, ma’ nhw’n sefyll allan.

prys jones

Nia: Be ydi hanes y siwmper hon gennoch chi?

Prys: Dwi'n gyfforddus iawn i gychwyn ac ma''na gariad mawr at hon. Hon oedd y gyntaf lliwgar, dwi'm yn credu ei bod hi'n llachar iawn, nes i ei phrynu erioed. Mi brynes hon yn Harrogate a dyma'r un gyntaf tri ffigwr dros gan punt.



Nia: Ac ydyn nhw 'di mynd fyny mewn pris ers hynny?

Prys: Ydyn yn anffortunus, ma'nhw! Rhaid i mi fod yn onest, ma'r seis wedi mynd yn fwy hefyd felly ma'r pris wedi mynd yn fwy hefyd!

prys jones

Nia: Mae gennych chi siwmperi golff hefyd. Golff - eich cariad mawr chi?

Prys: Ia. Tydw i ddim yn chwarae gymaint rwan ond mi ro'n i'n arfer chwarae lot o golff. Ma'r rhan fwyaf ohonynt heb lewys ac ma'nhw'n gyfforddus dros ben. I mi, ma'nhw'n edrych yn daclus hefyd.

prys jones

Nia: 'Casual-smart'ydi'ch golwg chi yn de?

Prys: Ia, dwi'n licio teimlo felly, dwi'm yn gwybod os ydi pobl yn fy ngweld i felly cofiwch. Dwi'n teimlo 'mod i'n gwisgo yn 'casual - smart'.

prys jones

Prys: Ma’ genai dair neu bedair o siwmperi yn y car drwy’r adeg felly ma’n nghwpwrdd i yn y car.



prys jones

Nia: O weld pawb ar y cwrs golff, ma’n rhyfedd, ma’ fel petai bo’ gennoch chi gyd wisg ysgol fel petai tydi!

Prys: Ydi, ond mae o’n bwysig bo’ rhywun yn cadw safon ar y cwrs golff tydi. Dach chi’n cychwyn efo’r sgidiau a’r sanau a rhaid i rheiny fod yn rhai iawn, wedyn dach chi angen y trowsus a’r siwmperi a’r crys a’r het. Ma’ rhei o’r merched wrth gwrs, wel, ma’ hi fel 'fashion parade’ yma!

Nia: Esgus da i brynu mwy o ddillad felly!

prys jones

Nia: Be dach chi’n feddwl ma’ y dillad yn eich cwpwrdd chi yn ddweud amdanoch chi?

Prys: Ma’ nhw’n llawn, yn lliwgar ac yn adlewyrchu fy mywyd i.

    CWPWRDD DILLAD

  • Bob nos Fercher 20:25