



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma am fwy o luniau
Mae Rhydian Roberts yn ganwr enwog o Bontsenni ac mae'n hoff o wisgo siwtiau unigryw.
Be mae dillad yn ei olygu i ti?
Dwi'n hoffi dillad da, yn enwedig siwtiau. Rwy wastad wedi bod yn un sydd ddim yn ofni sefyll allan. Os wyt ti wedi cael siwt bespoke sydd yn ffitio'n berffaith fel maneg, mae'n anodd iawn wedyn mynd nôl i gael rhywbeth oddi ar y peg.
Ydy dillad wastad wedi bod yn bwysig i ti?
O'n i wastad wrth y modd yn gwisgo dillad neis. Mi ddechreuodd pan o'n i yng ngholeg Llanymddyfri pan o'n i'n gwisgo blazer ac yn edrych yn smart iawn drwy'r amser. Roedd dad wastad yn strict iawn ac yn dweud wrtha'i, "look the part" drwy'r amser. Mae hwnna wedi sefyll gyda fi. Y peth gyda siwt ydy, dwi wastad yn edrych yn dda mewn siwt, ma' yna lawer o bethau dwi ddim yn edrych yn dda ynddyn nhw, fel leotard ond dwi'n edrych yn iawn mewn siwt!
At bwy fyddi di'n mynd i brynu siwt?
Ar wahân i'r ffaith ei fod yn uchel iawn ei barch ar Savile Row, Richard Anderson oedd tu ôl i'r siwt sequin wisgais i yn y drydedd wythnos ar X Factor. Mae rhan fwyaf o siwtiau Richard yn smart iawn, ac mae'n boblogaidd ymysg y dynion sy'n gweithio yn y ddinas, y bobl gyda llawer o arian a'r gentlemen. Dwi'n tueddu i wisgo siwtiau, yn enwedig pan dwi'n perfformio, sydd dipyn bach fwy left field. Ond, erbyn hyn dyw Simon Cowell ddim yn gadael fi wisgo sequins ar y llwyfan oherwydd ei fod yn rhy camp iddo fo!
At ba achlysur y ces di'r siwt ddu yma?
Tro diwethaf es i ar lwyfan X Factor llynedd i berfformio The Impossible Dream fe wisgais i'r siwt yma. Siwt gan Richard Anderson ydy hi sy'n siwt glasurol, ond gyda thipyn bach o bling. Dyna pam fod Richard yn dda, oherwydd mae'n gallu gweithio gyda fi i greu siwt sy'n unigryw.
Mae'r gwaith a'r grefft o greu siwt yn amlwg. Ond faint fyddi di'n ei dalu am dy siwtiau?
Ma' nhw'n amrywio o tua £3,500 fyny, ond, ma' gen i hefyd siwt sy'n costio £7,000. Mae siwt sequins yn costi tua £4,000 neu £5,000. Ma' gen i rhwng 35 a 40 siwt. Ond, dim y fi sy'n talu amdanyn nhw ond Simon Cowell!
Ydy dy ddelwedd di wedi newid ers i ti ddod yn enwog?
Doedd neb wedi gwthio fi i wneud unrhywbeth ar X Factor, ond mi nath fy nelwedd i newid ar y rhaglen oherwydd fe ges i stylist bendigedig sef Faye Sawyer ac mi oedd Ben Mohapi yn gwneud fy ngwallt i. Ro'n i wedi dod ymlaen gyda'r ddau ohonyn nhw, a ro'n i wedi creu delwedd newydd, delwedd oedd yn sefyll allan a dyna be o'n i eisiau. Hefyd, erbyn nawr dwi wedi cael gwybod eu bod nhw wedi gwario mwy o arian arna i na unrhyw un arall, a heblaw mod i wedi dod yn ail, mi weithiodd o!
Pa siop wyt ti'n ei hoffi fwyaf?
Mae'r bobl sy'n mynd i siop Sir Tom Baker fwy na thebyg yn berfformwyr neu'n gomediwyr. Pobl fel Rhys Ifans neu Ant & Dec ac mae Take That a Keith Flint o'r Prodigy yn dod yma hefyd. I fi un o'r pethau pwysica' yw toriad y siwt, ac mae Tom yn rhagorol oherwydd ei fod wedi ymarfer ar Savile Row, felly mae e'n gwybod sut i dorri siwt. Mae'r siwt ddu yma'n frock coat, ond wrth gwrs, mae'r defnydd yn wahanol. Ryw fath o lamé ydy e, ac mae'n disgleirio fel petai'n wlyb and dyw e ddim.
Pam dy fod di mor hoff o ddillad Tom Baker?
Y peth gorau am Tom yw ei fod yn gweithio gyda sequins - unrhyw liw, unrhyw bryd. Dyna sut nes i ddarganfod Tom Baker, ro'n i wedi ffonio o gwmpas holl deilwriaid Llundain i drio ffeindio pwy fyddai'n gallu gwneud siwt sequins. Ro'n i'n gwybod bod Richard yn gwneud sequins, ond ma' nhw'n ddrud ofnadwy. Mi ffoniais i un teiliwr a dyma fe'n dweud, "Do you know Tom Baker in Soho?" a dyna ni, roedd e fel revelation!
Mae'r dillad ti'n eu gwisgo i berfformio yn showbiz iawn ac yn tynnu sylw. A'i dyna eu bwriad nhw?
Ma' yna bobl ym myd cerddoriaeth sydd wedi dylanwadu arna'i, pobl fel Elvis, Shirley Bassey a David Bowie, perfformwyr oedd wedi datblygu steil unigryw eu hunain. Dyma'r math o beth dwi eisiau ei wneud dros amser.
- CWPWRDD DILLAD