Neidio at y cynnwys

S4C
Cwpwrdd Dillad: Rhys Mwyn
CWPWRDD DILLAD: Rhys Mwyn | Myra James | Siân Lloyd
Rhys Mwyn
Rhys Mwyn
Rhys Mwyn
Rhys Mwyn

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Cyn aelod o fand Anhrefn ydy Rhys Mwyn, sydd erbyn hyn yn rheoli bandiau ac yn cyhoeddi cerddoriaeth.

Rhys Mwyn

Beth oedd steil y band Anhrefn?

Pan oeddan ni yn gneud gigs Anhrefn, mi oedd y peth mor ‘full on’ nes oeddan ni yn wlyb doman yn dod off y stage. Wedyn 'nathon ni ddysgu, lleia’n byd o ddillad oeddan ni’n gwisgo, mwya’n byd o ddillad sych oedd gynnon ni i wisgo ar ôl y gig. Wedyn mewn un ffordd roedd gynno ni ddim delwedd achos doeddan ni ddim yn gwisgo dillad! Ond roedd hynny yn ddelwedd ynddo’i hun - yn wrth ddelwedd mewn un ffordd. Strip down rock and roll! Ond roedd o’n ddelwedd yr un mor gry’. Da ni wedi bod yn canu yn ddiweddar rŵan yn acwstig a dwi’n dal yn cael pobol yn y gynulleidfa yn gweiddi, “tynna dy dop off!” Na, dwi’n 45 - highly unlikely!

Rhys Mwyn

Wyt ti wedi cadw rhai o dy ddillad Anhrefn?

Roedd y jîns oedda ni yn wisgo hefo cymaint o dylla ynddyn nhw ma' nhw wedi mynd. Dwi wedi cadw crysa-t achos ma' rheina yn betha’ gei di byth yn ôl. Ma' ‘na amball i grys-t dwi wedi i gadw achos ma' nhw fel rhyw fath o archif!

Rhys Mwyn

Mae hon yn edrych fel tasa hi wedi cael ei gwisgo dipyn!

Ma’r jaced yma di neud yr holl deithio hefo ni. Dwi wedi cysgu yn hwn mewn sgwot ym Merlin a wedi ‘i ddefnyddio fo fel pillow ar longa’ i Ffrainc - mae o wedi mynd trwy’r holl beth. Yn ystod y dyddia teithio, ‘y swyddfa’ oedda ni yn galw hwn achos mi oedda ni’n cario'r pres ynddo fo, y contracts - bob dim. Roedd o’n fwy na jyst jaced, roedd o’n rhan o’r holl fand.

Rhys Mwyn

Wyt ti’n meddwl fod modd gwahanu delwedd a phwysigrwydd y ddelwedd ei hun?

Dwi’n meddwl pan dwi’n gweithio hefo bands fyddai yn deud wrthyn nhw, fedrwch chi ddim mynd ar y llwyfan yn ych pyjamas a slipars. Be dwi’n feddwl hefo hynna ydy, ma' raid i dy ddelwedd di fod yn ddatganiad. Hefo’n cefndir ni fel pync, mi oedd gwisg pync yn ddatganiad ynddo’i hun. Roedd yr agwedd, y dillad a’r gwaith celf yn creu’r holl beth. Ond dwi erioed wedi gweld y gwahaniaeth rhwng yr holl betha’ ‘ma - ma’ nhw yn blurred i gyd ac yn rhan o’r un peth creadigol.

Rhys Mwyn

Pwy oedd yn gyfrifol am eich steil chi?

Roddan i hefo V2- sef y cwmni ddaru Branson sefydlu ac roedden nhw isho cael stylist i ni. Ag roddan i’n meddwl, o na, ‘da ni’n mynd i gael ryw stylist sy’n mynd i ddeud wrtha’n i be i wisgo - ag oedda ni i gyd yn gwbod nad oedd hynna yn mynd i weithio hefo ni. ‘Yn atab ni felly oedd trefnu un ‘yn hunan. Felly mi aethon ni at Andrew O’Toole yn Ninbych oedd wedi ennill cynllunydd Cymreig y flwyddyn. Roedd Andrew yn gneud petha eitha’ clubby a sporty oedd yn gweddu ar ein cyfer ni a deud y gwir. Mi ddaru Andrew gynllunio dillad yn arbennig i ni - mi oedd o’n mesur ni ag mi oeddan i yn gallu dewis defnydd a trafod y ddelwedd. Mewn ffordd, mi oedda ni yn gorfod bod un cam o flaen V2, achos petai nhw wedi cael gafal arnon ni, mi fasa nhw wedi bod fel “why don’t you all wear kilts?” neu rwbath. Mi fasa fo yn rwbath hollol wirion oedd ddim yn ni. Efo Andrew roedd ganddo label ei hun - Advanced Menswear - pan oedd o’n gneud i ddillad i ni, a’r amod oedd ei fod o’n cael ‘i label ym mhob man.

Rhys Mwyn

Beth wyt ti’n meddwl oedd eich delwedd chi fel band yn ei ddweud?

Ar y cyfan, pan ti’n edrych ar Anhrefn a Rhys Mwyn, ma be ti’n weld yn wir. Be ti’n weld ydy be ti’n gael - be ydi o go iawn. Dwi ddim yn pretty boy, dwi ddim yn poser, dwi ddim yn gallu gwisgo lot o betha, felly be dwi’n wisgo - dyna ydw i. Ti’n ffendio be ti’n gyfforddus ynddo fo a be sy yn ddatganiad. Dwi dal yn fy nghombats a dwi dal i deimlo’n eitha’ pync roc. Mi alla i fynd fel hyn i gig a dwi’n teimlo’n iawn, a mi alla i fynd fel hyn i gyfarfodydd a dwi’n teimlo’n iawn. Yr unig beth sy’n bwysig i mi ydy mod i’n gyffyrddus ynddo fo, fod y ddelwedd yn dal i neud synnwyr i pwy ydw i a be dwi’n neud.

Rhys Mwyn

Ar gyfer pa achlysur wyt ti’n gwisgo dy siwt?

Ar gyfer gwaith ma’r siwt posh yma, ar gyfer award ceremonies neu'r math yna o beth. Weithia’ pan dwi’n cyfarfod cwmnïau recordia a ballu mae o jyst yn rhoi yr edge bach yna - this is business, a mod i o ddifri. Dwi’n gwbod fod hynna yn cliché, ond weithiau ma rhywun yn gorfod chwara’r gêm yna hefyd.

Rhys Mwyn

Ydy dy steil di yn datblygu fel wyt ti’n mynd yn hŷn?

Dwi’n credu fod yna elfen gyson yn fy steil i, a phan dwi’n siarad hefo ffrindiau ag yn gneud hwyl am benna ‘yn hunain fel yr ageing punk rockers, dwi’n credu fod yna rwbath achos dwi ddim yn bwriadu dechra gwisgo pullovers a cardigans. Dyma ydan ni a dyma fydda ni! Felly ‘da ni’n gorfod cadw’r ddelwedd yma i fynd mewn rhyw ffordd fel da ni’n colli’n gwalltia ac yn rhoi mwy o bwysa ymlaen. Dyna ydy’r her- sut wyt ti’n cadw’n rock and roll wrth fynd yn hŷn? Ddeudodd na rywun ryw dro, “grow old disgracefully,” a dyna dwi’n obeithio dwi’n ‘neud!