



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
O’n i’n eitha’ agored pan nes i ddechrau edrych am y ffrog. O’n i just ishe rwbeth odd yn mynd i edrych yn neis, a rhywbeth oedd yn fy siwtio i. Felly o’n i ishe gweld ffrog, ac o’n ishe trio’r ffrog ‘mlaen ac o’n i ishe’i ordro hi.
Fe aethon ni i gwpwl o siopau, Mam a fi, ac wedyn aethon ni i Rowberry’s yn Abertawe a nes i weld y ffrog yma gan y cynllunydd yma o Giprys, ac o’n i’n dwli arno fe!
Es i lawr i ddwy ffrog oeddwn i’n lico orau, a gweud y gwir. Odd un ohonynt bach yn mental wrth edrych nôl! Mae’n swno’n afiach – oedd e bach fel cacen ar y gwaelod ac wedyn roedd gwaelod y ffrog yn rhwygo i ffwrdd ar gyfer y nos gan adael mini-skirt ra-ra, rîli byr. Odd Mam ‘di gweud ‘na ti ffili, bydde’ dad yn cael haint!’ wrth weld fi’n torri gwaelod y sgert i ffwrdd am y nos - a oedd e yn rili byr! Felly nes i benderfynu mynd am un ychydig mwy confensiynol.
Fi’n credu fod pawb yn cael amheuon eu bod wedi cael y ffrog iawn - a fi’n cofio mynd yn nôl i’r siop ar ôl i fi ei brynu, ar ôl i fi dalu ac ar ôl i fi ordro fe jyst i weld os odd rhwbeth arall ‘na. Odd mam yn gofyn ‘pam, achos ‘so ti’n mynd i brynu e achos ti ‘di talu am yr un arall nawr!’ O’n i fel, ‘ie ond fi just ishe checio bod dim byd arall ‘na!’ So, ma’ wastad rhywbeth yng nghefn y meddwl. Ges i ddim amheuaeth ar y diwrnod - pan nes i godi odd y ffrog yn hongian i fynnu ac o’n meddwl ‘fi ffili aros i wishgo fe nawr’.
Oedd Simon [Easterby, gŵr Sara] yn gwybod am y ffrog?
Odd dim syniad gyda fe be’ o’n i’n mynd i’w wisgo, a nes i ddim rhoi unrhyw gliw iddo fe. Nath e lefen pan nath e weld fi, so sa i’n siŵr os odd e’n meddwl ‘what is she wearing!?’ ond odd e’n emosiynol iawn i fi i weld e’n llefen. Ac wedyn nath e’n llefen hala Dad fi off, ac felly odd Dad yn llefen ar un ochr a ‘narpar ŵr yn llefen ar yr ochr arall! A do, nath e ddwli ar y ffrog.
Be am y math o emwaith wnes di ei wisgo?
Dwi’n gredwr mawr fod gemwaith ac ati’n gwneud gwisg. Odd llun gyda fi yn fy mhen yn fwy o’r gemwaith nag oedd am y ffrog efallai.
Oeddet ti’n poeni be oedd pobl yn mynd i feddwl o dy ffrog di? Neu’r wasg yn arbennig?
Fi just yn credu bod ffrogiau priodas a phriodasau yn bethau reit bersonol a dim ond bo’ chi’n lico be chi’n gwisgo a bo’ chi’n lico fel mae’r dydd ‘di mynd - dyna be’ oedd yn bwysig i fi. Mae e’r math o ffrog chi naill ai’n mynd i ddwli arno neu ei gasáu. Ond odd un erthygl, fi’n cofio'r fenyw yma oedd yn cynllunio priodasau, fisoedd ar ôl y briodas, a fi’n cofio hi’n dweud am fy ffrog briodas i ‘what was she thinking and it doesn’t suit her figure, she’s usually got such good dress sense - where did it all go wrong?’ o’n i just yn meddwl ‘dyna’i barn hi’ - ac mae’n amlwg dyw pawb ddim yn mynd i lico’r ffrog, so nath e ddim poeni fi...rili...lot!!
Tase ti’n priodi eto, i’r un dyn, fase ti’n gwisgo’r un ffrog?
Falle bydden i ddim, ti’n gwybod. Falle bydde’n i’n cael rhywbeth bach yn wahanol i be’ wisges i pan nes i briodi. Ond dyw hwnna ddim yn cymryd dim i ffwrdd o faint fi’n caru’r ffrog ac o’n i’n caru’r ffrog ar y diwrnod.
- Bob nos Fercher 20:25