



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch am fwy o luniau
Mae Sean Fletcher yn newyddiadurwr chwaraeon sydd â llygad craff am siwtiau smart, ond nid fel hyn oedd ei ddelwedd erstalwm.
Sut fydda ti'n disgrifio dy steil cynnar di?
Ro'n i damaid bach yn unconventional dwi'n meddwl. Ro'n i'n gwisgo sarong cyn oedd David Beckham yn gwisgo fe. Don i ddim yn meddwl amdano fe, ro'n i jest yn neud e!
Pwy oedd yn dylanwadu ar dy steil di pan oeddet ti'n tyfu fyny?
Fel pawb arall, roedd fy rhieni i wedi cael dylanwad arna'i. Roedd fy rhieni i dipyn bach yn wahanol gan fod dad yn hippy - roedd e'n gwisgo fel hippy ond doedd e ddim yn actio fel hippy gan ei fod e'n computer programmer ac roedd mam yn nyrs. Roedden nhw'n eitha' liberal - roedden nhw'n edrych yn wahanol ond doedden nhw ddim yn byw mewn ffordd hippy. Mae fy nhad yn dod o Loegr a mae fe'n wyn, ac mae mam yn dod o Zimbabwe ac ma' hi'n ddu. Dwi'n gymysg, ac yn y saith degau dwi'n meddwl bod y ddau ohonyn nhw gyda'i gilydd dipyn bach yn wahanol. Dwi'n meddwl fod hynny'n mynd yn erbyn y graen ym Mhrydain, ac roedd y ffordd yr oedden nhw'n gwisgo yr un peth.
Be ydy hanes y crys glas yma?
Dwi ddim yn gwisgo'r crys glas gole yma lot achos mae'n rhy dynn i mi, ond hen grys fy nhad ydi o a dwi'n meddwl ei fod e wedi ei brynu yn Efrog Newydd pan o'n i'n fach.
Wyt ti'n sentimental pan mae'n dod i ddillad?
Dwi yn eitha' sentimental gyda rhai pethe. Mae fy mam wedi marw ac ers iddi farw dwi'n teimlo fy mod i eisiau dal ar bethau fel dillad, does dim byd arall i mi eu cadw.
Er dy fod di'n byw yng Nghaerdydd nawr, fe nes di dreulio dy fywyd cynnar yn Efrog Newydd ac yn Essex yn do?
Mi es i i ysgol breswyl ac roedd hynny'n wahanol iawn. Roedd yr ysgol yn strict, ac roedd rhaid i mi wisgo gwisg ysgol, felly pan o'n i adra ro'n i'n gwisgo'n hollol wahanol. Dwi ddim yn rebel yn y ffordd dwi'n ymddwyn, fel arfer dwi ddim yn ymateb mewn ffordd sy'n reactionary. Ond, wrth edrych yn ôl ar luniau ohona'i yn ifanc mewn gwisg ysgol a yna lluniau ohona'i mas, ro'n i'n wahanol iawn. Roedd gen i dread locks, a nose ring ac ro'n i yn gwisgo dillad gwahanol.
Pryd nes di newid dy edrychiad?
Fe newidiodd popeth pan wnes i ddechrau gweithio yn y BBC. Wnaeth o ddim digwydd yn syth, ond mi dorrais i'r dreads yn fyr a ro'n i'n edrych tipyn bach fel Tracy Chapman i ddechrau. Ro'n i'n credu, os oeddwn i'n gwisgo dreads a dyngarîs, na fyddai neb yn fy nghredu i. Dwi ddim yn credu fod hynny'n iawn, ond dyna sut mae bywyd. Felly, pan ymunais i â'r BBC mi ddechreuais i wisgo' n fwy smart, a gwisgo siwt i gyflwyno.
Pa un ydy dy hoff siwt di?
Mae'r siwt las yma yn edrych yn dda ar y teledu. Mae'n rhaid cael siwt sydd yn ffitio'n iawn. Mae siâp fy nghorff i yn wahanol i bobl eraill. Dwi'n reit fach ar y top, a ma' gen i ben ôl eitha' mawr, pen ôl Affricanaidd, a mae top fy nghoesau i'n fawr ac yn mynd yn llai tuag at y gwaelod. Mi nes i ffeindio fod siwtiau Paul Smith yn dda i mi a dwi'n eu hoffi nhw achos fod popeth gan Paul Smith yn ffurfiol gyda thwist a dwi'n licio hynny.
Be ydy hanes y crys yma?
Pan nes i ddechrau gweithio ar Sport Wales, mi nes i brynu dillad casual. Do'n i ddim yn meddwl am y peth, ond mi o'n i'n ffeindio fy mod i yn prynu pethau o siopau Americanaidd. Mae'r crys yma'n dod o Abercrombie & Fitch ac mae'r crys-t yn dod o American Apparel. Mae llawer o bethau dwi'n eu prynu nawr sy'n ddillad casual gyda gwedd Americanaidd.
Ti'n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio yn Llundain, sut wyt ti'n gwneud yn siŵr fod gen ti'r dillad cywir yn y man cywir?
Dwi'n byw mas o fag, pan dwi yn Llundain ac yng Nghaerdydd. Mae gen i naw eitem y byddai yn eu pacio pob tro i fynd i Lundain. Y peth cyntaf yw esgidiau, wedyn sanau- dau, belt yw'r trydydd peth, pants ydi'r pedwerydd peth…wedyn mae'r tei yn rhif wyth, ac os dwi'n gwisgo crys dwi angen cufflinks- sef rhif naw!
- CWPWRDD DILLAD