Cwpwrdd Dillad: Sheila ap Harri
Sheila ap Harri
Sheila ap Harri
Sheila ap Harri
Sheila ap Harri

CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy

Mae Sheila yn ddoctor mewn seicoleg sydd wrth ei bodd hefo brethyn ers yn blentyn ac wedi creu casgliad ohono yn ystod y 70au.

Sheila ap Harri

Pam fod brethyn mor bwysig i chi?

Pan dwi’n cau fy llygaid â brethyn yn fy llaw, dwi’n meddwl yn ôl i’r amser pan oeddwn i’n blentyn. Tirlun gorllewin Cymru, glaw man, defaid ar y brynia’, briallu, yr afonydd bach lle o’n i’n chwarae -ma' rywbeth special am frethyn. Fel rhyw fath o dedi. Pwy all ddim ei garu? Yr atgof cyntaf sydd gen i o frethyn cartref yw gweld ffrog yn narlun priodas mam a dad. Roedd mam yn deilwres broffesiynol ac wedi bod yn brentis i gwmni yn Abertawe am dros bum mlynedd cyn iddi briodi, a hi wnaeth y ffrog fendigedig flannel hufen. Welais i byth y ffrog, ond mewn ffordd fe welais i hi achos roedd hi wedi cael ei hailgylchu gan greu bob math o betha’- ffrog fach i’r ddol, pais i fi a’n chwaer Valmai, ffedog dydd Sul. Amser hynny mi fyddai popeth yn cael ei ailgylchu.

Sheila ap Harri

Mae hon yn edrych yn gynnes iawn.

Ma' hwn yn special iawn i fi achos mae o wedi ei ailgylchu allan o ffrog briodas fy mam. Roedd honno yn hufen, a dwi wedi llifo’r defnydd yn ddu. Pan es i fel stiwdent i’r Brifysgol a gadael cartref, un o’r petha' roddodd mam i fi oedd hon sy’n ei gwneud hi’n arbennig i mi. Wisgais i hon Nadolig diwethaf dros flows wen o Liberty a throwsus du high waist Donna Karan sydd yn ffasiwn nawr a phâr o sgidie uchel du.

Sheila ap Harri

Be ydy’r dylanwad mwya’ ar eich steil chi?

Fe ffarweliais i â Chymru yn ferch ifanc 23 oed, a chael swydd lawr yng nghornel Kent. Roedd gen i hiraeth mawr am adre, roedd yna ffordd wahanol o fyw a phobol wahanol, felly ‘da chi’n dechra dod yn fwy ymwybodol o'ch hun, o ba fath o berson ydych chi. Pa fath o Gymraes ydych chi? O’n i’n gallu cynllunio dillad ac wedi dwli ar frethyn ers pan o’n i’n groten fach, felly mi ddechreuais i wneud cwpwl o ffrogia'. Drwy’r 80au a’r 90au fe dyfodd y peth ac mi rois i’r enw ‘Celtic Couture a la Branwen ap Harri’ ar y dillad. Yr hyn o’n i’n drio wneud oedd creu rhywbeth modern, dianc o’r traddodiadol a’i wneud yn syml - syml ond yn ffasiynol. Fe es i a’n ffrogiau i mewn i rai o’r boutiques ar Sloane Street a’r King’s Road ac i Fortnum and Mason a Harrods. Roedd ganddyn nhw ddiddordeb mawr ac mi werthais i sawl ffrog. Felly dyna sut ddechreuodd y busnes.

Sheila ap Harri

Ma' ’na rywbeth eithaf brenhinol am y ffrog las yma, fel tywysoges.

Gwenllïan ydy enw’r ffrog yma ac mae gan fy chwaer un yr un peth ond mewn lliw gwahanol a Nest ydi enw honno. O’n i’n gwisgo hon i fynd i gael picnics a mynd i wrando ar operas bendigedig ers talwm.

Sheila ap Harri

Pa bleser mae’r brethyn neu’r wlanen Gymreig yn ei roi i chi?

Mae e’n bleser dwfn iawn. Un o’r pethau sydd yn rhoi lot o bleser i mi yw gwisgo’r mul sydd gen i o’r enw Gwyno - ei wisgo fe mewn brethyn. Dwi’n rhoi côt amdano ac ambell waith het fach hefyd ac wedyn dwi’n rhoi carriers bob ochor ac yn mynd a fe i’r siop - fi a fe yn mynd.

Sheila ap Harri

Mae hon yn ffrog anghyffredin iawn.

O’n i’n arfer gwisgo hon ambell dro a dwi dal yn ei gwisgo hi o hyd i fynd allan i swper. O’n i’n meddwl fod pawb yn edrych arna i pan o’n i’n cerdded mewn yn hon â sodlau uchel. Dwi’n hoff iawn o’r lliw. Ges i sawl order am y ffrog yma ac fe werthais i hi lawr ar y King’s Road yn un o’r boutiques lle'r oedd Mary Quant yn gwerthu ei dillad.

Sheila ap Harri

Mae hon yn un unigryw iawn.

Y syniad tu cefn i hon yw'r bedgown a’r pais o’r wisg draddodiadol Gymreig. Nid yn unig fod y brethyn yn Gymreig ond roedd y syniad yn Gymreig hefyd. Dwi’n credu i mi ei chynllunio hi pan oeddwn i’n gwneud y rhaglen Ikebana i’r BBC ar ddechrau’r 70au. Ikebana yw’r grefft o drefnu blodau a brigau drwy zen Bwdhaeth - mae’n symbolig iawn.

Sheila ap Harri

Be am y clogyn trwm yma?

Mae hon yn reversible. Fe gynlluniodd mam a fi hon gyda’n gilydd. Dwi’n ei gwisgo hi gyda bag mawr, maneg a het fach. Dwi ddim yn meddwl am un darn o ddilledyn wrth gynllunio, ond y look i gyd yn gyfan gwbl - dyna be' dwi’n drio’i wneud.

Sheila ap Harri

Ydych chi’n mynd i gadw’r dillad yma i gyd am byth?

Ma' nhw yn mynd i’r Amgueddfa Wlân Genedlaethol sydd yn Dre-fach, Felindre. Mae rhan fwyaf o’r casgliad wedi eu gwneud o frethyn o’n i wedi ei brynu yn felin y Cambria nawr yn yr amgueddfa. Mae petha’ annisgwyl yn digwydd mewn bywyd yn does? Do’n i ddim yn meddwl pan o’n i’n creu’r ffrogia hyn, yn cynllunio a’i gwnïo nhw, y byddan nhw’n mynd nôl adref. Ond nawr wrth gwrs fe alla’i fynd yno i’w gweld nhw unrhyw bryd.