



Mae edrych drwy gwpwrdd dillad Shelah Eakins fel camu nôl i'r 60au neu'r 70au...
Shelah: O'n i'n gwisgo i deimlo yn dda, oni wastad yn lico dishgwl yn dda, a oni'n lico pobl yn gweud, o na bert i chi'n dishgwl, a'r un peth sy'n digwydd nawr wy'n credu. Wy'n lico gwisgo lan a mynd mas a teimlo yn gret!
Shelah: Pan o'n i'n 'teenager', oni'n gwnio fy nillad a gweu siwmperi. Oni'n gwnio lot a phrynu defnydd neis i'w gwnio
Nia: Ar ôl i chi briodi a setlo, oedd dillad yn dal i chwarae rhan bwysig yn eich bywyd chi?
Shelah: Oedd. O'n i'n mynd mas bob dydd Sdawrn ac o'n i'n prynu dillad i fynd mas. O'n i'n gweithio yn galed a symud i mewn i 'guesthouse' ac odd myfyrwyr 'da fi ac ymwelwyr haf felly roedd digon o arian yn dod fewn a doedd dim rhaid i mi wnio fy nillad gan fy mod yn gallu fforddio eu prynu.
Nia: Ydych chi wedi cadw lot o'r dillad?
Shelah: Ydw. Fi'n credu bod y rhai sydd wedi'u cadw yn ffefrynnau a falle odd stori fach i fynd gyda phob ffrog. Ma' atgofion ar gyfer pob ffrog dwi wedi ei gadw a roedden nhw'n ddrud felly dyna pham dwi wedi'u cadw nhw.
Nia: Mae'r ffrog wreiddiol yma o'r 60au yn anhygoel!
Shelah: Ffrind o'r Mumbles nath hon i mi. Nath hi sawl ffrog i mi ond hon yw'r unig un sydd ar ôl gyda fi.
Nia: A bwts a menyg i fynd gyda hi?!
Shelah: Ie! O'n i'n gwisgo'r ffrog, bwts a'r menyg i fynd i 'Langrove Country Club' a falle i ginio yn y 'Keswell Bay' ac o'n i'n teimlo'n 'IT' pan o'n i'n gwisgo'r cyfan!
Shelah: Brynes i'r ffrog ddu yma o siop fach yn Abertawe o'r enw 'Monica's'. Odd Monica yn mynd bant i'r Eidal, Sbaen a Ffrainc i brynu dillad a brynes i'r un yma ganddi. Mae llun ohonaf yn ei gwisgo yn nghlwb rygbi Abertawe gyda Gareth Edwards. O'n i'n lwcus iawn i gael llun gydag e!
Shelah: Brynes i'r ffrog liwgar yma o Gaerdydd. Ma' pob un sy'n fy adnabod yn 'nabod y ffrog hon oherwydd fy mod wedi'i gwisgo hi bob blwyddyn ar noson calan am bymtheg mlynedd! Mae mor ysgafn, rhwydd a glam i'w gwisgo. Er bod steil yr wythdegau yn amlwg ynddi fel y ra-ra, y canol isel, y padiau ysgwydd ayb, mae'r pethau yma i gyd yn dod yn ôl i ffasiwn.
Shelah: Mae golff yn rhan bwysig o'm mywyd i. Wy'n chwarae golff gyda'r merched bob bore dydd Mawrth a wedyn cael cinio gyda'n gilydd yn y prynhawn.
Nia: Ydych chi'n gwybod yn union am beth ydych yn chwilio pan yn siopa?
Shelah: Odw oherwydd fy mod yn gwybod beth sy'n fy siwtio.
Shelah ar ddillad...
Ma' ffrindie yn dweud wrtha i fy mod yn prynu dillad sy'n wahanol a'n gofyn lle gefais i'r dillad a wy'n hapus i ddweud wrthyn nhw.